Sign in

ypod.cymru

@ypod.cymru
107 followers 37 following 434 posts

Gwasanaeth Podlediadau Cymraeg. Y Pod Cyf. - cynhyrchu podlediadau, cynnwys digidol a hyfforddiant. #Cymraeg #Podcast Production House

PostsRepliesMedia
ypod.cymru @ypod.cymru · 02/10/2026
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth cyrraedd restr fer y British Podcast Awards Dyma enillwyr y categori Cymraeg 🏅Hanes Mawr Cymru 🥈Rhaglen Cymru 🥉Sut I Ddarllen Dewch draw i Y Pod i ddarganfod mwy o bodlediadau Cymraeg ypod.cymru
001
ypod.cymru @ypod.cymru · 30/09/2026
Pennod newydd Clera🎧 Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac eitem a recordiwyd yn nhrafodaeth flynyddol Cymdeithas Ceredigion am y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, gydag Emyr Davies a phrifardd y Goron, Martin Huws. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 29/09/2026
Pennod newydd Yr Haclediad🎧 It’s a Trap! Mae’r Haclediad nôl ar ôl mis off ar gyfer yr haf, mor bougie! Ond mae Bryn, Iestyn a Sions nôl i drafod Canolfannau Data ar y Fenai, realiti byw yn y backrooms, a pŵer socks J.K. Rowling (bŵŵŵ)… Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 28/09/2026
🎙️Pennod newydd Maes Fi 🎙️ Yn rhannu eu gŵyl delfrydol gyda Elan yn y bennod yma mae Miriam Isaac a’r DJ Melfed Melys. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 23/09/2026
Pennod newydd podlediad Jomec Cymraeg 🎙️ Kieran Miller sy'n holi cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys ar drothwy cyhoeddiad mawr am sut y bydd y gorfforaeth yn arbed £9m. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
001
ypod.cymru @ypod.cymru · 18/09/2026
Ydych chi wedi gwrando ar bennod ddiweddaraf Colli'r Plot? A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma linktr.ee/collirplot Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau Cymraeg a drafodwyd yn y bennod.
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 16/09/2026
📚Pennod Newydd Colli'r Plot📚 Trafod cyfrolau'r @eisteddfod.cymru , sef Ffrwyth enillydd y Fedal Ryddiaith, ac Ynys Gwales, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
023
ypod.cymru @ypod.cymru · 15/09/2026
📚Pennod Newydd Colli'r Plot 📚 Trafod cyfrolau'r @eisteddfod.cymru yn bennaf, sef Ffrwyth enillydd y Fedal Ryddiaith, ac Ynys Gwales, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma linktr.ee/collirplot
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 09/09/2026
Pennod newydd podlediad Ymchwil Ar Y Gweill🎙️ Mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Ffion, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i ddementia ac, yn benodol, i’r hyn sy’n digwydd i gelloedd yr ymennydd wrth i bobl heneiddio. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
011
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/09/2026
Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
041
ypod.cymru @ypod.cymru · 04/09/2026
Eisiau darganfod podlediadau Cymraeg? Dyma restr enillwyr y Gwobrau Podlediadau Cymraeg. 👉 gwobrau.ypod.cymru/oriel-luniau...
001
ypod.cymru @ypod.cymru · 02/09/2026
Cyfres newydd Dim Ond Geiriau🎙️ Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 01/09/2026
Dyma'r podlediadau mwyaf poblogaidd ar wasanaeth Y Pod ar gyfer Awst '26. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Yr Hen Iaith 📚Colli'r Plot 🎙️Atgofion Nefyn: Ar Gof a Chadw Dewch draw i ddarganfod mwy o bodlediadau Cymraeg 👉 ypod.cymru
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 17/08/2026
🎧Pennod newydd Maes Fi🎧 Yn rhannu eu gŵyl delfrydol gyda Elan yn y bennod yma, yn fyw o faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Jencyn Corp o Dewin, a Ceri Siggins. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 12/08/2026
Pennod newydd - Clera 🎧 Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a giamocs. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 10/08/2026
Dyna chi noson! Llongyfarchiadau pawb oedd ar y rhestrau fer ac i'r enillwyr i gyd yn y Gwobrau Podlediadau Cymraeg 1af erioed! Diolch i bawb am y ceisiadau, enwebiadau a'r gwrandawiadau. Dyma restr o'r enillwyr gwobrau.ypod.cymru/enillwyr-gwo...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/08/2026
Heno - 6pm yn y Babell Lên🎪 Maes Eisteddfod Y Garreg Las🎉🏆 Lisa. Gwilym a Llŷr Ifans yn cyfwlyno'r noson. Dyma'r rhestr fer gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2... Pob lwc i chi gyd!
011
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/08/2026
Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ymuno â Dewi ac Ianto - wel nhw na'th ymuno â hi yn ei gardd hi i fod yn onest! Lot o siarad, lot o atgofion, lot o fod yn wholesome. Joiwch! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 06/08/2026
Nos Sadwrn yma (8fed) ar faes Eisteddfod Y Garreg Las🎉🏆 6pm yn y Babell Lên🎪 Lisa. Gwilym a Llŷr Ifans yn cyfwlyno'r noson. Dewch draw i ddathlu! Dyma'r rhestr fer gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 30/07/2026
🎧Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Ar y fwydlen yn y bennod hon mae'r comedïwr Carwyn Blayney. Mae'r bennod yma'n dod yn fyw o Tafwyl 2026 - bach o audience participation (diolch) a lot o chwerthin (diolch x2). **Rhybudd - iaith grêfi** Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 22/07/2026
Clera - Gorffennaf '26🎧 Cwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 20/07/2026
Dyma’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Podlediadau Cymraeg 2026 🙌 👉 gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2... Llongyfarchiadau i bawb a diolch i bob podlediad am eich cais, roedd y safon yn anhygoel.
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/07/2026
Dyma'r rhestr fer ar gyfer categori Y Celfyddydau - noddwyd gan Caerdydd Creadigol Llongyfarchiadau i Colli'r Plot Sut I Ddarllen Yr Hen Iaith Seremoni wobrwyo 08.08.26 Maes Eisteddfod Y Garreg Las
011
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/07/2026
Hir yw bob aros ond dyma'r rhestr fer ar gyfer categori Y Podlediad Newydd - noddwyd gan Accordion Innovation Llongyfarchiadau i 'Di'r Helmed Yn Ffitio Dim Ond Geiriau Maes Fi Seremoni wobrwyo 08.08.26 Maes Eisteddfod Y Garreg Las gwobrau.ypod.cymru
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 11/07/2026
Podlediad Ar Y Soffa🛋️ Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ffilm newydd, Effi o Blaenau. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 07/07/2026
Pennod newydd Ar Y Soffa🛋️ Mae Gwilym Dwyfor a Kate Woodward yn trafod y ffilm newydd, Effi o Blaenau. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 01/07/2026
Pennod newydd Clera🎙️ Podlediad barddol hynaf Cymru! Pennod sydd â blas o'r Garreg Las iddi! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 30/06/2026
Pennod newydd Y Podlediad Trosedd🎧 Cyfres sy’n ail-ymweld â rhai o achosion troseddol mwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 24/06/2026
Pennod newydd Sgribls📚 Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhian Siôn am ei phrofiadau yn cyhoeddi ei nofel cyntaf, Gyda’n Gilydd, ac yn trafod siwrne Rhian i fod yn awdur, y pethau sy’n ei hysbrydoli a’i chyngor ar gyfer awduron newydd. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 23/06/2026
🎙️Pennod newydd Gwleidydda🎙️ Yr Ymddiswyddiad Ar ôl i Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 22/06/2026
Ar Y Soffa🛋️📺 Y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. Trafod Comedis Byrion, cyfres o sgetshis comedi ar S4C sy'n cyfuno hiwmor swreal, cymeriadau ecsentrig a syniadau annisgwyl. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 17/06/2026
🎧Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Heledd Cynwal🙌 Wel wel wel, mae Ianto a Dewi mor chuffed i allu cael sgwrs gyda un o "proper enwogion" Cymru - y cyflwynydd a'r anhygoel Heledd Cynwal. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 16/06/2026
🎙️Pennod Newydd Maes Fi🎙️ Yn rhannu eu gŵyl delfrydol gyda Elan yn y bennod yma mae'r cerddor ac artist Alis Glyn, a’r artist, cerddor a drymiwr Guto Evans. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 12/06/2026
Pennod newydd Craffu360- Gair Y Gohebwyr🎙️ Beth aeth o'i le i Lafur Cymru, a sut i adfer. Yn ymuno â Rhys ac Efan mae'r Llafurwr Owain Williams. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 11/06/2026
Ydy chi wedi gwrando ar bennod ddiweddaraf Colli'r Plot? Y Storm ⛈️ Dydy recordio yng nghanol tywydd gwyllt ddim yn syniad da. Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod. Gwrandwch yma: linktr.ee/collirplot
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 11/06/2026
Pennod newydd Gwleidydda🎙️ Cip ar y Cyfansoddiad. Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/06/2026
Podlediad Daliwch Ati🎙️ Mae Daliwch Ati yn bodlediad dysgu Cymraeg hwyl a chyfeillgar i ddechreuwyr a thu hwnt. Sgyrsiau byr, ymadroddion defnyddiol, a digon o gymorth - i’ch helpu i ddal ati. Lefel Mynediad: Dan Griffiths Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... #DysguCymraeg #LearnWelsh
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 04/06/2026
📚Pennod newydd Colli'r Plot📚 Dydy recordio Colli'r Plot yng nghanol tywydd gwyllt ddim yn syniad da. Mae 'na a digon o drafod llyfrau wrth i'r criw rannu beth sydd wedi bod ar eu byrddau darllen yn ddiweddar. Gwrandwch yma linktr.ee/collirplot
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 02/06/2026
Dyma'r podlediadau mwyaf poblogaidd ar wasanaeth Y Pod ar gyfer Mai 2026. 🎙️1 Mewn 2 📚 Collir Plot 🎧Gwleidydda Dewch draw i ddarganfod mwy o bodlediadau Cymraeg. ypod.cymru
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 01/06/2026
🎙️Pennod newydd @haclediad.cymru 🎙️ Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod cysyniad podslop, gwenwyno eich data i ddrysu AI a’r syniad bo ni wedi colli’r gallu i neud pethe mewn distawrwydd. Hyn oll a llawer llawer mwy! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 01/06/2026
🎙️Pennod newydd Dim Clem🎙️ Penderfyniadau mawr🤔 Mae Elan Llwyd yn ymuno efo Ffion ym mhennod o SRI LANKA. Rhannu profiadau o wneud penderfyniadau mawr... a lot fawr o fwydro. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 30/05/2026
🚨Diwrnod i fynd 🚨 Mae'n amser i gyflawni'ch cais ar gyfer y Gwobrau Podlediadau Cymraeg Dyddiad cau: 31 Mai gwobrau.ypod.cymru #Podcast #Cymraeg #Welsh #Podlediad #Gwobrau
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 28/05/2026
3 diwrnod i fynd🙌 Mae'n amser i gyflawni'ch cais ar gyfer y Gwobrau Podlediadau Cymraeg🎙️ Dyddiad cau: Mai 31 👉 gwobrau.ypod.cymru #Podcast #Cymraeg #Welsh #Podlediad #Gwobrau
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 26/05/2026
🎧Hawddamor, glwysgor glasgoed! 🎧 Dyma bennod mis Mai o bodlediad barddol hynaf y Gymraeg. Sgwrs am ddylanwad beirdd fel Dic Jones ar boblogrwydd y gynghanedd heddiw. Hyn oll, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 26/05/2026
🎙️Mae'n amser i gyflawni'ch cais ar gyfer y Gwobrau Podlediadau Cymraeg🎙️ Llai na wythnos i fynd. Dyddiad cau: Mai 31 👉 gwobrau.ypod.cymru #Podcast #Cymraeg #Welsh #Podlediad #Gwobrau
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 21/05/2026
🎧Pennod newydd Gwleidydda🎧 Wythnos Mêl? Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth @plaidcymru.bsky.social wrth y llyw yn @senedd.cymru Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
021
ypod.cymru @ypod.cymru · 15/05/2026
🎙️Dim ond pythefnos tan y dyddiad cau 🎙️ Mae Gwobrau Podlediadau Cymru ar agor i bob podlediad iaith Gymraeg. Ewch i'r wefan i gyflwyno eich cais gwobrau.ypod.cymru #podcast #awards #Cymraeg #Welsh #gwobrau
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 15/05/2026
Pennod newydd Pod Rygbi Cymru🏉 Mae Carwyn, Gareth a Nick yn trafod pythefnos olaf tymor y gynghrair URC ac rhoi eu barn ar garfan Steve Tandy. #Rygbi #Cymraeg #PodCymru #WelshRugby Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
000
ypod.cymru @ypod.cymru · 14/05/2026
🎙️Pennod newydd Gwleidydda🎙️ Amser i Lywodraethu🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...
010
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/05/2026
2026 yw’r flwyddyn i ddathlu bodlediadau Cymraeg 🎉 Mae Gwobrau Podlediadau Cymru ar agor i bob podlediad iaith Gymraeg. Dyma'r categorïau ar gyfer y gwobrau. Ewch i'r wefan i wneud cais gwobrau.ypod.cymru #podcast #awards #Cymraeg #Welsh #gwobrau
010