Sign in

Senedd Cymru

@senedd.cymru
718 followers 30 following 112 posts

Lle mae lleisiau o bob cymuned yn cael eu cynrychioli i wneud penderfyniadau dros Gymru. Dy Lais. Dy Senedd. Ein Dyfodol 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 In English 👉 @senedd.wales

PostsRepliesMedia
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026
Mae Aelodau o’r Senedd wedi dewis Kerry Ferguson AS fel Dirprwy Lywydd y Senedd.
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026
Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi ei enwebu gan y Senedd i ddod yn Brif Weinidog Cymru.
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026
Mae Aelodau o’r Senedd wedi ethol Huw Irranca-Davies AS yn Llywydd.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 07/05/2026
Mae diwrnod yr etholiad yng Nghymru wedi cyrraedd. Mae Cymru’n dewis. Coda dy lais. 🕖 Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 22.00 i’ch galluogi i fwrw eich pleidlais yn etholiad y Senedd.
033
Senedd Cymru @senedd.cymru · 03/05/2026
Gydag etholiad y Senedd yn digwydd ar 7 Mai, efallai eich bod chi'n meddwl tybed pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy, swyddogol amdanyn nhw 👉 senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 02/05/2026
Mae eich etholaeth wedi newid ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Defnyddiwch y map rhyngweithiol a nodwch eich cod post i weld beth yw eich etholaeth newydd. etholaeth.senedd.cymru
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/05/2026
Cynhelir Etholiad y Senedd ar 7 Mai. Os ydych chi’n pleidleisio wyneb yn wyneb, bydd y gorsafoedd pleidleisio yn agored o 7 yb tan 10 yr hwyr. Mae rhagor o wybodaeth yma: www.electoralcommission.org.uk/cy/p…
023
Senedd Cymru @senedd.cymru · 29/04/2026
Diwrnod etholiad y Senedd yw dydd Iau, 7 Mai 2026. Os byddwch yn pleidleisio mewn gorsaf, gallwch gael gwybod yn gyflym ble mae eich gorsaf bleidleisio leol. www.electoralcommission.org.uk/cy/p…
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/04/2026
Fyddwch chi’n pleidleisio ar 7 Mai? P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf, neu efallai eich bod chi’n chwilio am ganllaw clir, fe wnawn ni ddangos i chi sut mae etholiad y Senedd yn gweithio – cam wrth gam. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 27/04/2026
I weld enwau’r ymgeiswyr sy’n sefyll yn dy ardal, dylet fynd i wefan dy gyngor lleol i ddod o hyd i’r rhestr lawn 👉 bwrwpleidlais.cymru/gwybodaeth-am-b…
001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 20/04/2026
Os ydych chi am bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, rhaid i chi fod wedi cofrestru erbyn 11:59pm heddiw, 20 Ebrill 2026. Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
012
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/03/2026
Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru roi tystiolaeth i Bwyllgor Chwaraeon y Senedd ar 26 Chwefror, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y sefydliad i nodi ei bryderon. Darllenwch mwy: busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryH…
2 Mawrth 2026 

Dyfodol Rygbi Cymru 

Annwyl Mr Collier-Keywood, 

Rwy'n ysgrifennu atoch yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddydd Iau diwethaf, a hoffwn ddiolch i chi, Alison Thorne a Geraint John am ymddangos gerbron y Pwyllgor. 

Rydym yn cydnabod y gwaith caled, sylweddol, sydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i sefydlogi sefyllfa ariannol Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal â datblygiadau cadarnhaol o fewn diwylliant yr Undeb. Rydym hefyd yn cydnabod bod yr Undeb ac arweinwyr unigol weithiau'n agored i feirniadaeth sy'n amhriodol o ddidostur, yn enwedig ar-lein. 

Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod rygbi Cymru mewn cyflwr enbydus. Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhanbarthau wedi achosi cryn bryder i bobl o bob cwr o Gymru. Ni ellir cyflawni unrhyw raglen newid heb feithrin consensws dros y newid hwnnw. Mae'n amlwg nad oes gan yr Undeb y consensws sydd ei angen i fwrw ymlaen â'r cynnig i leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri. Rhaid i Undeb Rygbi Cymru gydnabod ei fod wedi colli'r ddadl dros ddyfodol y gêm broffesiynol. 

Roedden ni’n synnu eich clywed chi’n dweud wrthym, os na fydd eich cynigion presennol yn mynd rhagddynt yn ôl eich disgwyl, nad oes gennych chi Gynllun B. Pe bai hyn yn wir, gallai fod yn arwydd eich bod yn esgeuluso'ch dyletswyddau yn sylweddol. Rydym yn eich annog yn gryf i ddod o hyd i ddull gwahanol sy'n parhau i sefydlogi sefyllfa ariannol yr Undeb a chynnal hyder, ac sydd hefyd yn meithrin ymddiriedaeth clybiau a chefnogwyr. Mae gan bobl Cymru ymdeimlad dwfn o berchnogaeth, balchder a chysylltiad emosiynol â’r gamp. Rhaid parchu a meithrin y cysylltiad hwnnw. Rhaid i'r Undeb osgoi sefyllfa lle mae’n ennill y bleidlais ond yn colli enaid rygbi Cymru. 

Byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch y materion sydd yn y llythyr hwn. 

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb. 

Yn gywir, 

Delyth Jewell AS 

Cadeirydd 

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/01/2026
Blwyddyn Newydd Dda, bawb 💫
Darlun yn dangos draig cartŵn yn gwisgo het gaeaf, yn dathlu'n llawen gyda sbarcyl, dan dân gwyllt gyda'r testun 'Blwyddyn Newydd Dda'.
021
Senedd Cymru @senedd.cymru · 25/12/2025
Nadolig Llawen, bawb! 🎄 🌟
Dail a mefus y gelyn ar gefndir glas gyda'r testun Nadolig Llawen.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 15/12/2025
Galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phroblemau chwyddiant a chynhyrchiant. Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd eisiau i Lywodraeth Cymru adolygu ei chyllideb ddrafft, a mynd i'r afael â'r heriau allweddol hyn. Cewch ddarllen mwy yma. bit.ly/4q3nWBY
bit.ly
Galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i broblemau chwyddiant a chynhyrchiant
Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar ei Chyllideb Ddrafft i ailystyried sut mae'n cyfrifo cynnydd chwyddiant wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/11/2025
Gyda amseroedd aros hir a dim digon o gymorth clinigol ar gael, clywodd Pwyllgor Iechyd y Senedd fod llawer o bobl yn wynebu effaith oedi triniaeth gofal llygaid. Mae'r Pwyllgor yn galw am weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol, er mwyn atal oedi pellach - bit.ly/44gO6Jh
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 24/10/2025
Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw. Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn: bit.ly/3O8po4J
060
Senedd Cymru @senedd.cymru · 14/10/2025
Beth yw eich barn chi ar rasio milgwn yng Nghymru? Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd eisiau clywed eich barn! Cwblhewch yr arolwg a dweud eich dweud: bit.ly/4q4JGhR
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 09/10/2025
Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau. Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin â chamwybodaeth a dod â chymunedau ynghyd. bit.ly/4pWrUgt
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/10/2025
Rhannwch eich barn! Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael. Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud eich dweud: 👉 bit.ly/42rnLar
Delwedd hyrwyddo yn dangos milgwn yn rasio ar hyd trac, gyda thestun wedi'i orchuddio yn darllen 'AROLWG Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)'.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/10/2025
Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle. O ddiwrnod y bleidlais i’r cerrig milltir sy’n dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredol—y ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. bit.ly/42hYLCu
001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/10/2025
Mae’r Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw. Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/09/2025
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth. Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: bit.ly/421Qi5U
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/09/2025
Yr Aelodau yn holi’r Prif Weinidog yn FMQs heddiw. Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru. Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=15365&Ver=4
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 24/09/2025
Mae cynllunio ar gyfer prosiectau megis amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygiadau ynni’n cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru. Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad gan Bwyllgor Seilwaith y Senedd. Bydd Aelodau’n trafod yr adroddiad yn y Senedd heddiw. Dysgu mwy: bit.ly/4mqv1KF
bit.ly
Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol yn fwy o ddifrif
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi rhagor o flaenoriaeth i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 21/09/2025
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd? Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 19/09/2025
Mae Aelodau o’r Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau – 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal. Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn i’r Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. bit.ly/3Vq5whB
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 18/09/2025
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a daw’n Ddeddf gan Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru. Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. bit.ly/3UOdNeT
001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 17/09/2025
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru. Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith. 🔗 bit.ly/46pobjP
Car wedi suddo ar stryd sydd wedi gorlifo. Mae'r copi yn darllen "Difrod storm: Diffyg cefnogaeth yn brifo’n ddwfn".
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 16/09/2025
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio. Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar ôl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. bit.ly/3K8I0Df
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 16/09/2025
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty. Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fyw’n annibynnol eto. bit.ly/3K8I0Df
001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 15/09/2025
Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn ôl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio. Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion. Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. bit.ly/3I6rWRY
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 13/09/2025
Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol. Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
senedd.cymru
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd?
The Welsh Parliament is the democratically elected body that represents the interests of Wales and its people. Commonly known as the Senedd, it makes laws for Wales, agrees Welsh taxes and holds the W...
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/09/2025
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth. Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: bit.ly/421Qi5U
012
Senedd Cymru @senedd.cymru · 11/09/2025
Newidiadau mawr ar gyfer 2026: bydd Cymru’n mynd o 40 i 16 etholaeth Senedd, pob un â chwe Aelod. Dysgwch sut cafodd yr ardaloedd hyn eu llunio – ac ystyr hyn ar gyfer eich cymuned. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
senedd.cymru
Beth yw’r etholaethau newydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026?
Yn etholiad y Senedd 2026, bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth, a fydd yn disodli’r 40 etholaeth sydd ganddi ar hyn o bryd. Bydd pob etholaeth newydd yn ethol chwe Aelod o’r Senedd. Felly, bl...
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 10/09/2025
Gallai Bil newydd drawsnewid teithio â bysiau yng Nghymru. Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil – ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef. Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. bit.ly/3I6rWRY
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 09/09/2025
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru. Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith. 🔗 bit.ly/46pobjP
bit.ly
Difrod stormydd: Diffyg cymorth yn 'gic yn y dannedd'
Mae adroddiad wedi datgelu bylchau difrifol yn ymatebion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i stormydd y gaeaf.
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 08/09/2025
Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n pleidleisio ar y newidiadau mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un. P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. bit.ly/40Ycmhx
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/09/2025
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd? Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 05/09/2025
Oeddech chi’n gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026? ✍️Y ffordd rydych chi'n ethol pwy sy’n eich cynrychioli 🗺️Sawl Aelodau sy'n eich cynrychioli 📅Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli Pob dim sydd angen i chi wybod ⬇️ bit.ly/4fU8kev
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 04/09/2025
Ydych chi erioed wedi clywed am D'Hondt? O 2026 ymlaen, bydd y fformiwla hon yn siapio'r Senedd. Mae'n dyrannu seddi mewn rowndiau, gan gydbwyso pleidleisiau a chynrychiolaeth. Dyma beth mae hyn yn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru. bit.ly/421Qi5U
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 03/09/2025
Mae Pwyllgor yr Economi yn galw am gamau gweithredu pendant yn dilyn cythrwfl mewnol a heriau o ran arweinyddiaeth yn Hybu Cig Cymru. bit.ly/4pbWbrt
senedd.cymru
Mae angen diwygiadau mawr ar hyrwyddo cig Cymru
Mae angen diwygiadau helaeth i'r corff sy'n gyfrifol am hyrwyddo cig Cymru ar frys, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 02/09/2025
Pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid y ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf. Roedd y bleidlais yn 37 i 13. Bydd y Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ffi fach am aros dros nos mewn llety ymwelwyr. Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/4g5WwHV
021
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/09/2025
Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol. Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen…
021
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/08/2025
Ym mis Gorffennaf, pasiodd y Senedd gyfraith i wneud hen fwyngloddiau a chwareli yn fwy diogel. Mae'n creu awdurdod newydd i asesu a rheoli'r safleoedd hyn, gan leihau risgiau o dirlithriad. Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/3UOdNeT
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 29/08/2025
Mewn sesiwn ddiweddar o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, holodd yr Aelodau’r Prif Weinidog ynghylch darparu gwasanaethau iechyd hanfodol—ac a yw pobl Cymru yn gweld unrhyw newid gwirioneddol. Beth gafodd ei ofyn? Darllenwch fwy am y sesiwn ar ein gwefan. bit.ly/4fQYL1E
010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/08/2025
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi dod yn un o Ddeddfau Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru. Gallwch weld y Ddeddf yn llawn a’r hyn y mae’n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/45BOins
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 27/08/2025
Ar ôl degawd fel Llywydd y Senedd, mae Elin Jones AS yn camu’n ôl o’r rôl ar ôl etholiad 2026. Wrth i’w thymor olaf ddirwyn i ben, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol i fyfyrio ar ddeng mlynedd yng nghadair y Senedd—a’r straeon y tu ôl iddynt.
000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 26/08/2025
Bydd etholiad y Senedd yn 2026 yn dod â’r newidiadau mwyaf ers 25 mlynedd: 96 o Aelodau, ardaloedd pleidleisio newydd, a phapur pleidleisio symlach. P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. bit.ly/40Ycmhx
022
Senedd Cymru @senedd.cymru · 04/06/2025
Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Amgueddfa Cymru i ganiatáu iddi ddarparu teithiau tanddaearol yn Amgueddfa Lofaol Cymru (Big Pit) yn rhad ac am ddim. A ydych chi'n cytuno y dylai'r teithiau fod yn rhad ac am ddim?
Graffeg yn cynnwys llun o Amgueddfa Loafol Cymru (Big Pit) yn Blaenafon, gyda'r testun 'A ddylai teithiau tanddaearol Amgueddfa Loafol Cymru for yn rhad ac am ddim?'
110