ypod.cymru @ypod.cymru · 21hPennod newydd Clera🎧 Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd y Gadair, Emyr Lewis ac eitem a recordiwyd yn nhrafodaeth flynyddol Cymdeithas Ceredigion am y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, gydag Emyr Davies a phrifardd y Goron, Martin Huws. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 29/09/2026Pennod newydd Yr Haclediad🎧 It’s a Trap! Mae’r Haclediad nôl ar ôl mis off ar gyfer yr haf, mor bougie! Ond mae Bryn, Iestyn a Sions nôl i drafod Canolfannau Data ar y Fenai, realiti byw yn y backrooms, a pŵer socks J.K. Rowling (bŵŵŵ)… Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 28/09/2026🎙️Pennod newydd Maes Fi 🎙️ Yn rhannu eu gŵyl delfrydol gyda Elan yn y bennod yma mae Miriam Isaac a’r DJ Melfed Melys. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 25/09/2026🎧Podcast Rygbi Cymru 🎧 Mae’r tymor newydd bron yma! Nick a Dafydd yn edrych ar y pedwar tîm Cymreig, yn trafod sut mae pob un yn siapio cyn y tymor newydd, a beth allwn ni ei ddisgwyl dros y misoedd nesaf. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruPodcast Rygbi CymruEich diweddariad Rygbi Cymru wythnosol, sy'n cwmpasu'r pedwar rhanbarth, y tîm cenedlaethol a gêm y merched - yn eich mamiaith. 001
ypod.cymru @ypod.cymru · 24/09/2026Pennod newydd Siarad Siop efo Mari a Meilir🎧 Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl, ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruSiarad Siop efo Mari a MeilirPodlediad wythnosol yn adolygu a thrafod y gyfres yna am frenhinesau drag... You know the one. 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 23/09/2026Pennod newydd podlediad Jomec Cymraeg 🎙️ Kieran Miller sy'n holi cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys ar drothwy cyhoeddiad mawr am sut y bydd y gorfforaeth yn arbed £9m. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 001
ypod.cymru @ypod.cymru · 22/09/2026Pennod newydd @rhaglencymru.bsky.social🎙️ Mae teledu annibynnol yn 71 oed, dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym 1955. Yr Athro Jamie Medhurst sy'n sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruRhaglen CymruAndy Bell a’i westeion yn trafod hanes darlledu Cymraeg a Chymreig. Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad. 012
ypod.cymru @ypod.cymru · 21/09/2026Pennod newydd Di'r helmed yn ffitio? Dadansoddi Wythnos 1af yr NFL 🏈 Chiefs i'r Superbowl, Timau wnaeth dal sylw, a gemau i ganolbwyntio ar yn wythnos 2. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruDi'r helmed yn ffitio?Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 18/09/2026Ydych chi wedi gwrando ar bennod ddiweddaraf Colli'r Plot? A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma linktr.ee/collirplot Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau Cymraeg a drafodwyd yn y bennod. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 17/09/2026Pennod newydd Di'r helmed yn ffitio?🎙️ Cymro yn chwarae'r gem colegol yn america, Jacob Hathaway yn ymuno, profiad yn America, bywyd fel NFL free agent.🏈 Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruDi'r helmed yn ffitio?Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL. 010
ypod.cymru @ypod.cymru · 16/09/2026📚Pennod Newydd Colli'r Plot📚 Trafod cyfrolau'r @eisteddfod.cymru , sef Ffrwyth enillydd y Fedal Ryddiaith, ac Ynys Gwales, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 023
ypod.cymru @ypod.cymru · 15/09/2026Pennod newydd Estyn - Sgwrs🎧 Mae Mererid Wyn Williams o Estyn yn ymuno â Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a Llinos Roberts, Cyfarwyddwr y Gymraeg yng Ngholeg Cambria, i drafod byd Dysgu Cymraeg. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruEstyn - SgwrsCroeso i Sgwrs, cyfres bodlediadau Estyn, ble rydym yn trafod pynciau allweddol sy’n siapio addysg a hyfforddiant yng Nghymru. 022
ypod.cymru @ypod.cymru · 15/09/2026📚Pennod Newydd Colli'r Plot 📚 Trafod cyfrolau'r @eisteddfod.cymru yn bennaf, sef Ffrwyth enillydd y Fedal Ryddiaith, ac Ynys Gwales, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. A oes unrhywun yn gallu helpu Dafydd i ddatrys dirgelwch y ddrama Nos Sadwrn? Gwrandwch yma linktr.ee/collirplot 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 14/09/2026Pennod newydd Ffanatig gyda Meagan a Poppy. Podlediad iaith Cymraeg, yn siarad popeth 'pop culture'! Digwyddiadau Awst, yn cynnwys teledu, ffilms a cherddoriaeth! Teyrnged i’r legends a gollwyd mis diwethaf. 🦋👠 Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruFfanatigFfanatig gyda Meagan a Poppy. Podlediad iaith Cymraeg, yn siarad popeth 'pop culture'! 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 11/09/2026🎧Pennod newydd Yr Hen Iaith🎧 Mae Jerry a Richard yn trafod William Thomas (1832-1878), bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruYr Hen IaithCyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun. 036
ypod.cymru @ypod.cymru · 10/09/2026Pennod newydd Siarad Siop efo Mari a Meilir Tom Jones, P!nk a ghostio Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. Mae'r silffoedd yn llawn ac mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruSiarad Siop efo Mari a MeilirPodlediad wythnosol yn adolygu a thrafod y gyfres yna am frenhinesau drag... You know the one. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 09/09/2026Pennod newydd podlediad Ymchwil Ar Y Gweill🎙️ Mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Ffion, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i ddementia ac, yn benodol, i’r hyn sy’n digwydd i gelloedd yr ymennydd wrth i bobl heneiddio. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/09/2026Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 041
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/09/2026Podlediad Maes Fi! 🎪🎙️ Beth sy’n gwneud yr ŵyl gorau? Bob mis bydd rai o wynebau cyfarwydd y sîn cerddorol yn ateb y gwestiwn yna wrth guradu gŵyl gerddorol ddychmygol. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruMaes FiMaes Fi, fodcast gan S4CMiwisg, wedi’i gyflwyno gan Elan Evans. 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 07/09/2026📚Pennod newydd Sgribls gyda Marged Berry📚 Dyfed Edwards✍️ Sgwrs am nofel newydd Dyfed, ‘Deheubarth’, dehongliadau gwahanol o’r Dywysoges Nest, y pethau sy’n cyfarwyddo sgwennu Dyfed a’i brofiadau fel awdur yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruSgriblsPodlediad yn trafod ysgrifennu, y broses cyhoeddi a llyfrau gyda awduron Cymraeg a aelodau o fyd llyfrau Cymru. 010
ypod.cymru @ypod.cymru · 04/09/2026Eisiau darganfod podlediadau Cymraeg? Dyma restr enillwyr y Gwobrau Podlediadau Cymraeg. 👉 gwobrau.ypod.cymru/oriel-luniau... 001
ypod.cymru @ypod.cymru · 03/09/2026Pennod newydd Siarad Siop🎙️ Mae Mari a Meilir yn hel atgofion am Dolly Parton, Tim Curry a holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play. ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruSiarad Siop efo Mari a MeilirPodlediad wythnosol yn adolygu a thrafod y gyfres yna am frenhinesau drag... You know the one. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 02/09/2026Cyfres newydd Dim Ond Geiriau🎙️ Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â geiriau Cymraeg. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 01/09/2026Dyma'r podlediadau mwyaf poblogaidd ar wasanaeth Y Pod ar gyfer Awst '26. 🏴Yr Hen Iaith 📚Colli'r Plot 🎙️Atgofion Nefyn: Ar Gof a Chadw Dewch draw i ddarganfod mwy o bodlediadau Cymraeg 👉 ypod.cymru 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 31/08/2026Pennod newydd Y Newyddion i Ddysgwyr🎙️ Gwrandwch ar rai o straeon newyddion Awst 2026, a ymarfer eich sgiliau Cymraeg. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruY Newyddion I DdysgwyrA podcast aimed at Welsh language learners who want to practise their listening skills with some of the week's top news stories. 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 28/08/2026Pennod newydd Crochan Disney🏰 Mae Disney wedi cael eu prif arddangosfa yng Nghaliffornia y mis yma, D23! Mae David ac April yma i rannu'r straeon! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruCrochan DisneyMi fydd ein cyflwynydd David Herzog (o America) ac ei wraig April (o'r Wyddgrug) yn sgwrsio amdana popeth Disney. Y ffilmiau! Y parciau! Trifia Disney! 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 27/08/2026Pennod newydd Ar Y Soffa 🛋️ Trafod ail gyfres Cleddau, gan ddilyn y ddeuawd o dditectifs, DI Ffion Lloyd a DS Rick Sheldon, wrth iddynt erlid llofrudd sy’n defnyddio ap chwilio am gariad i dargedu a stelcio ei ddioddefwyr. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruAr Y SoffaDyma Golwg yn cyflwyno Ar Y Soffa, y podlediad sy’n trafod a dadansoddi yr hen a newydd yn sîn diwydiant ffilm a theledu Cymru. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 21/08/2026Pennod newydd @rhaglencymru.bsky.social 🎙️ Gwleidydda gwahanol! Yr Athro Richard Wyn Jones yn dychwelyd i'r pod i drafod oblygiadau cyfryngol A gwleidyddol etholiad 2026 i Senedd Cymru. Mae'na drafod hefyd am bodledu ac am sylwebu dros Gymru. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruRhaglen CymruAndy Bell a’i westeion yn trafod hanes darlledu Cymraeg a Chymreig. Y bobl, y rhaglenni, y dylanwad. 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 20/08/2026Pennod newydd Di'r Helmed Yn Ffitio 🏈 Yn y bennod yma mae Cynan yn siarad am rhai o gemau preseason yr NFL a chwaraewyr penodol fel Fernando Mendoza a Jeremiyah Love. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruDi'r helmed yn ffitio?Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL. 010
ypod.cymru @ypod.cymru · 18/08/2026🎧Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Tamed i Aros Pryd Dyma pallete cleanser fel petai - jyst Dewi a Ianto yn siarad am fwyd.🥘 Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruPryd Ar DafodPryd Ar Dafod yw'ch cyfle i glywed beth yw tri hoff bryd bwyd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 17/08/2026🎧Pennod newydd Maes Fi🎧 Yn rhannu eu gŵyl delfrydol gyda Elan yn y bennod yma, yn fyw o faes yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Jencyn Corp o Dewin, a Ceri Siggins. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/08/2026🎧Pennod newydd Siarad Siop efo Mari a Meilir🎧 Mae'r Eisteddfod wedi bod ac mae'r felan (blues) yn drwm! Ond dim ots, achos mae'r siop ar agor i ddadbacio holl gossip, drama a phob cam ddigwyddodd yn ystod yr Ŵyl. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruSiarad Siop efo Mari a MeilirPodlediad wythnosol yn adolygu a thrafod y gyfres yna am frenhinesau drag... You know the one. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 12/08/2026Pennod newydd - Clera 🎧 Croeso i bennod fyw o Clera yn y Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, sef Enfys Hatcher ac Endaf Griffiths. Gyda digon o drafod, barddoni, cerddi, gemau a giamocs. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 10/08/2026Dyna chi noson! Llongyfarchiadau pawb oedd ar y rhestrau fer ac i'r enillwyr i gyd yn y Gwobrau Podlediadau Cymraeg 1af erioed! Diolch i bawb am y ceisiadau, enwebiadau a'r gwrandawiadau. Dyma restr o'r enillwyr gwobrau.ypod.cymru/enillwyr-gwo... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/08/2026Heno - 6pm yn y Babell Lên🎪 Maes Eisteddfod Y Garreg Las🎉🏆 Lisa. Gwilym a Llŷr Ifans yn cyfwlyno'r noson. Dyma'r rhestr fer gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2... Pob lwc i chi gyd! 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 08/08/2026Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n ymuno â Dewi ac Ianto - wel nhw na'th ymuno â hi yn ei gardd hi i fod yn onest! Lot o siarad, lot o atgofion, lot o fod yn wholesome. Joiwch! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 06/08/2026Nos Sadwrn yma (8fed) ar faes Eisteddfod Y Garreg Las🎉🏆 6pm yn y Babell Lên🎪 Lisa. Gwilym a Llŷr Ifans yn cyfwlyno'r noson. Dewch draw i ddathlu! Dyma'r rhestr fer gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 03/08/2026🎙️Pod Pum Munud🎙️ Cyfres o sgyrsiau 5 munud gyda siaradwyr Cymraeg newydd. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruPod Pum MunudCyfres o sgyrsiau 5 munud gyda siaradwyr Cymraeg newydd. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 03/08/2026Pennod Newydd Yr Haclediad Mae’r gwyliau yma... a chriw’r Haclediad ar y traeth am y bennod chill-good-vibes-only yma o bodlediad hyna'r Gymraeg 🏖️ Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruHaclediad - Hacio'r IaithBarn heb ymchwil na gwybodaeth. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 31/07/2026Pennod newydd Crochan Disney🏰 Yfory Mawr ac Hardd Mae David ac April wedi gweld Toy Story 5, mae gan Animal Kingdom babi newydd, ac mi fydd atyniad hanesyddol yn cael newidadau. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruCrochan DisneyMi fydd ein cyflwynydd David Herzog (o America) ac ei wraig April (o'r Wyddgrug) yn sgwrsio amdana popeth Disney. Y ffilmiau! Y parciau! Trifia Disney! 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 30/07/2026🎧Pennod newydd Pryd Ar Dafod🎧 Ar y fwydlen yn y bennod hon mae'r comedïwr Carwyn Blayney. Mae'r bennod yma'n dod yn fyw o Tafwyl 2026 - bach o audience participation (diolch) a lot o chwerthin (diolch x2). **Rhybudd - iaith grêfi** Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 29/07/2026Gyda'r Eisteddfod yn agosau, ydych chi wedi gwrando ar EisteddPod? Cyfres o sgyrsiau a recordiwyd ar faes yr Eisteddfod, yn y Babell Lên ac mewn lleoliadau eraill ar draws y Maes. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruEisteddPodCyfres o sgyrsiau a recordiwyd ar faes yr Eisteddfod, yn y Babell Lên ac mewn lleoliadau eraill ar draws y Maes. Trwy gyfweliadau a thrafodaethau gyda gwesteion o fyd llenyddiaeth, y celfyddydau a byw... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 28/07/2026🎙️Pennod newydd Daliwch Ati🎙️ Lefel Uwch: Rob Davies 🎙️ Mae Jon yn siarad gyda Rob Davies am ei daith yn dysgu Cymraeg, ei yrfa fel cardiolegydd, a sut mae’r ddau beth wedi siapio ei fywyd. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... #DysguCymraeg #LearnWelsh #Dysgu #Cymraegypod.cymruDaliwch AtiMae Daliwch Ati yn bodlediad dysgu Cymraeg hwyl a chyfeillgar i ddechreuwyr a thu hwnt. Sgyrsiau byr, ymadroddion defnyddiol, a digon o gymorth - i’ch helpu i ddal ati. 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 22/07/2026Clera - Gorffennaf '26🎧 Cwmni'r Prifardd a'r cyn-fardd cenedlaethol Ifor ap Glyn, yr Archdderwydd Mererid a'r Prifardd Tudur Dylan, yn ogystal â gorffwysgerdd gan un o feirdd ardal Y Garreg Las, Steffan Phillips. Hyn oll a mwy! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 22/07/2026Pennod newydd EisteddPod🎧 Cerddi’r ffin - Stifyn Parri sy'n cyflwyno cerddi a chaneuon newydd gan feirdd â chysylltiad lleol, gydag Iwan Berry, Grahame Davies, Sara Erddig, Geraint Løvgreen, Tesni Peers a Gwynne Williams. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruEisteddPodCyfres o sgyrsiau a recordiwyd ar faes yr Eisteddfod, yn y Babell Lên ac mewn lleoliadau eraill ar draws y Maes. Trwy gyfweliadau a thrafodaethau gyda gwesteion o fyd llenyddiaeth, y celfyddydau a byw... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 21/07/2026Pennod newydd Ffanatig🎧 Podlediad iaith Cymraeg, yn siarad popeth 'pop culture'! Sôn am y digwyddiadau teledu, pop culture, a cherddoriaeth fawr mis Mehefin. Gan gynnwys ‘deep dive’ Cwpan y Byd! Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruFfanatigFfanatig gyda Meagan a Poppy. Podlediad iaith Cymraeg, yn siarad popeth 'pop culture'! 001
ypod.cymru @ypod.cymru · 20/07/2026Dyma’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau Podlediadau Cymraeg 2026 🙌 👉 gwobrau.ypod.cymru/rhestr-fer-2... Llongyfarchiadau i bawb a diolch i bob podlediad am eich cais, roedd y safon yn anhygoel. 010
ypod.cymru @ypod.cymru · 17/07/2026Ydydch chi wedi darganfod EisteddPod? Cyfres o sgyrsiau a recordiwyd ar faes yr Eisteddfod, yn y Babell Lên ac mewn lleoliadau eraill ar draws y Maes. Gwrandwch yma ypod.cymru/pods/podledi...ypod.cymruEisteddPodCyfres o sgyrsiau a recordiwyd ar faes yr Eisteddfod, yn y Babell Lên ac mewn lleoliadau eraill ar draws y Maes. Trwy gyfweliadau a thrafodaethau gyda gwesteion o fyd llenyddiaeth, y celfyddydau a byw... 000
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/07/2026Dyma'r rhestr fer ar gyfer categori Y Celfyddydau - noddwyd gan Caerdydd Creadigol Llongyfarchiadau i Colli'r Plot Sut I Ddarllen Yr Hen Iaith Seremoni wobrwyo 08.08.26 Maes Eisteddfod Y Garreg Las 011
ypod.cymru @ypod.cymru · 13/07/2026Hir yw bob aros ond dyma'r rhestr fer ar gyfer categori Y Podlediad Newydd - noddwyd gan Accordion Innovation Llongyfarchiadau i 'Di'r Helmed Yn Ffitio Dim Ond Geiriau Maes Fi Seremoni wobrwyo 08.08.26 Maes Eisteddfod Y Garreg Las gwobrau.ypod.cymru 000