Sign in

Eisteddfod

@eisteddfod.cymru
559 followers 8 following 21 posts

Gŵyl gelfyddydol deithiol fwyaf Ewrop sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎪☀️ #steddfod2025 Wrecsam | #steddfod2026 Y Garreg Las

PostsRepliesMedia
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 01/02/2025
Mis i fynd tan orymdaith fawr Gŵyl Ddewi yn Wrecsam. Dewch i ddathlu a chefnogi
020
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 16/01/2025
Cyfleoedd arlwyo #steddfod2025 ar gael nawr! Rhagor yma ▶️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c... Gwnewch gais i ddod i werthu bwyd yn Wrecsam Dyddiad cau 12:00, 17 Chwefror
010
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 10/01/2025
⭐Swydd newydd!⭐ Rydyn ni'n chwilio am Uwch-reolwr Gweithrediadau a Chynhyrchu i ymuno â'r tîm. Cyfle gwych i arwain ein tîm technegol a threfniadau ymarferol yr ŵyl, gyda chyflog o hyd at £52,500. Manylion yma ▶️ bit.ly/40c6pw9 Dyddiad cau: 23 Ionawr. Dewch i weithio gyda ni!
011
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 07/01/2025
Beth am ymuno gyda chôr #steddfod2025? Dewch ar daith sy'n mynd at galon cymuned Wrecsam, a byddwch yn rhan o stori llawn gobaith, emosiwn, a ffwtbol gan Manon Steffan Ros ac Osian Williams Manylion a ffurflen gofrestru yma: bit.ly/4gX9qI5
001
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 06/01/2025
Dyddiad cau Medal y Cyfansoddwr #steddfod2025 am 10:00 yfory! Rhagor am y gystadleuaeth a manylion cystadlu yma ▶️https://eisteddfod.cymru/node/3964
000
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 02/12/2024
Diolch i bawb sydd wedi prynu tocyn i gig Huw Chiswell yng Nghlwb y Bont. Mae pob tocyn wedi gwerthu. Beth am ddod draw i gymdeithasu a gwylio’r gig ar y sgrin yn y bar bach ar ôl diwrnod o siopa, bwyta a chefnogi busnesau Pontypridd? Bydd bwced codi arian i gronfa’r llifogydd wrth y bar
011
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 30/11/2024
Cyfle i godi arian i helpu cymuned Pontypridd yn dilyn y llifogydd a diolch i bawb am y croeso eleni mewn noson gyda Huw Chiswell a Catrin Herbert. Dewch yn llu i Bontypridd am y diwrnod, i fwyta, siopa a chloi’r noson yng Nghlwb y Bont. Holl elw’r noson yn mynd i gronfa llifogydd Pontypridd
042
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 28/11/2024
Braf cynnal cyfarfod cyntaf pwyllgor gwaith #steddfod2026 yng Nghanolfan Hermon heno. Edrych ymlaen at y misoedd nesaf o gydweithio
040
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 26/11/2024
Mae dyddiad cau Medal Ryddiaith #steddfod2025 wedi symud i 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr. Cofiwch uwchlwytho eich cyfrol mewn pryd! Rhagor yma ➡️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c...
011
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 24/11/2024
Meddwl cymaint am bawb ym Mhontypridd a gweddill Rhondda Cynon Taf y bore ‘ma wrth weld lluniau o’r llifogydd ar draws yr ardal. Mae mor drist gweld y parc, strydoedd a’r busnesau a ddangosodd gymaint o groeso i ni i gyd o dan ddŵr. Cadwch yn ddiogel bawb ❤️
081
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 23/11/2024
Cofiwch gefnogi digwyddiadau Bore Hoffi Coffi dros y sul! Rydyn ni’n casglu arian at gronfa leol #steddfod2025 ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi trefnu digwyddiad
000
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 22/11/2024
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf. Braf iawn cael cydweithio gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf | Helo Blod | Cyngor RCT ac Ymbweru Bro ar brosiect newydd sbon eisteddfod.cymru/node/3962
020
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 20/11/2024
Llai na phythefnos i fynd tan ddyddiad cau cystadleuaeth Medal Ryddiaith #steddfod2025! Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr Rhagor👉https://eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/cystadlu/713 Pob lwc!
022
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 18/11/2024
Anodd credu fod 'na 100 diwrnod ers #steddfod2024. Diolch, Rhondda Cynon Taf am chwip o 'steddfod ❤️
010
Eisteddfod @eisteddfod.cymru · 16/11/2024
Dewch i ail-fyw #steddfod2024 mewn rhaglen arbennig o uchafbwyntiau o lwyfannau’r ŵyl 20:30 nos Sadwrn | S4C | S4C Clic | BBC iPlayer
Crowds watching band on stage with purple lighting Harpist and violinist performing in dimmed lightingCroeds watching band on large stage with blue lightingCrowds watching candlelit concert in bandstand in the open air
032