Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 03/10/2026Mae Gwefan Guto’r Glyn yn ôl ar lein! gutorglyn.net 032
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 03/10/2026Mae Gwefan Guro’r Glyn yn ôl ar lein! gutorglyn.net 086
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 10/08/2026Edrych ymlaen at eclips rhannol yr haul dydd Mercher (12.08.26)? Dyma ddiagram a wnaeth Thomas Evans, Hendreforfudd, Glyndyfrdwy, yn 1596, yn esbonio sut mae'r eclips yn gweithio (Peniarth 187 @librarywales.bsky.social) 1139
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 04/08/2026Disgrifiad o’r Arglwydd Rhys, gan ei fardd Cynddelw Brydydd Mawr (tua 1190) Buches kyrt kertoryon wasga6d = Buches cyrdd, cerddorion wasgawd (yn ôl sillafu heddiw) = Un mae pawb yn heidio ato ac sy’n amddiffyn cerddorion. *cerddor = un yn ymarfer cerdd dafod neu gerdd dant!* 010
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 24/07/2026Cofnod o’r Oesoedd Canol yn disgrifio tywydd eithriadol 1252 gyda gwres mawr yn yr haf yn cael ei ddilyn gan lifogydd gwael. (Rydw i wedi diweddaru’r sillafu.) 1189
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 24/07/2026Un o ystyron magl ydi ‘cataract’ ne anhwylder ar y llygad sy’n pylu’r golwg - felly mae torfagl yn enw ar lysieuyn meddyginiaethol sy’n “torri” neu’n cael gwared ar y pylni hwnnw, yn clirio’r llygad, fel “eyebright” yn Saesneg. (Cymharer tormaen sy’n cael gwared ar gerrig yn y corff) 121
Reposted by Ann Parry OwenNew Scientist @newscientist.com · 25/05/2026After a career spent grappling with the neural underpinnings of autism, Uta Frith is unwavering in her controversial call to scrap our current view of the condition and start againnewscientist.comWhy autism pioneer Uta Frith wants to dismantle the spectrumAfter a career spent grappling with the neural underpinnings of autism, Uta Frith is unwavering in her controversial call to scrap our current view of the condition and start again 011
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 29/06/2026= am un chanddo ddant melys ac sy’n hoff o’i fwyd / fond of good eating, greedy. 154
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 13/06/2026GPC Ieuan lygad y bwyd “greedy sponger”. @geiriadur.bsky.social 054
Reposted by Ann Parry OwenCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 08/06/2026Bydd Dafydd Johnston yn trafod ‘Gruffudd ap Nicolas: noddwr, beirniad a bardd’ yn Fforwm Beirdd yr Uchelwyr ar 13 Mehefin yn Neuadd Ddinesig Llandeilo. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru e-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk. Croeso cynnes i bawb! 014
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 04/06/2026@geiriadur.bsky.social @yganolfangeltaidd.bsky.social #geiriadura #lexicography 044
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 27/05/2026Gair y dydd: CLODDIO geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Berf o'r enw CLAWDD, sef y pridd a bentyrrid wrth agor ffos, ac a weithredai'n aml fel ffin, fel CLAWDD Offa. Heddiw gall olygu gwrych yn gyffredinol. Bu cwningen brysur iawn yn cloddio twll dros nos y tu allan i swyddfeydd GPC 032
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 22/05/2026Braf ymweld eto â’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn DIAS, Dulyn - mae’n werth edrych allan am eu hysgoloriaethau ôl-ddoethuriaethol. Dyma alwad am bapurau ar gyfer cynhadledd y Tionól, 27/28 Tachwedd eleni. Dyddiad cau 3/07. Mae wastad croeso mawr i bapurau am y Gymraeg. www.dias.ie/2026/04/30/t... 033
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 18/02/2026Gair y dydd: DEL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae’n rhyfedd fel mae geiriau’n gallu newid eu hystyr yn llwyr dros amser. Hen ystyr DEL oedd ‘blin, garw, styfnig’. Ond ei ystyr i ni heddiw yw ‘hardd, tlws’. 072
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 06/02/2026Gair y Dydd: gwyntell geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., neu wyntell/gwintell/wintell. Basged gron heb ddolen iddi, wedi ei phlethu o wiail cyll neu helyg, ac a ddefnyddir yn arbennig i ddal tatws, dillad, &c. Caiff basgedi o'r fath eu hadnabod hefyd fel basgedi lip, cintell, cyntell a chantell. 062
Reposted by Ann Parry OwenCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 13/01/2026Studia Celtica 2025 has arrived! - a substantial issue, produced jointly by the Ganolfan and @uniwalespress.bsky.social @collen105.bsky.social. Further information is given here: www.uwp.co.uk/journal/stud... 01910
Reposted by Ann Parry OwenCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 13/01/2026Mae Studia Celtica 2025 wedi cyrraedd - rhifyn swmpus, wedi ei gyd-gynhyrchu gan y Ganolfan a @gwasgprifcymru.bsky.social @collen105.bsky.social. Cewch fanylion pellach yma: www.gwasgprifysgolcymru.org/journal/stud... 163
Reposted by Ann Parry OwenDeborah Hayden @dhaydenceltic.bsky.social · 10/12/2025🎆Job Klaxon!!🎆 Folúntais: Scoláireachtaí Uí Dhonnabháin @scs-dias.bsky.social @dias.ie. Spriocdháta 5 Eanáir 2026 2 O’Donovan Scholarship vacancies at the School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies. Deadline 5 January 2026: www.dias.ie/2025/12/05/v...dias.ieVacancies: O’Donovan Scholarships – DIAS 01320
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 09/12/2025Mae'n amlwg nad Cymro a enwodd Storm BRAM, a fydd yn ein cyrraedd ni heddiw! 1104
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 21/11/2025Llinellau cerddi Beirdd y Tywysogion yn nhrefn yr wyddor / lines from the poems of the Poets of the Princes, in alphabetical order. @yganolfangeltaidd.bsky.social www.geiriadura.cymru/post/beirdd-...geiriadura.cymruBeirdd y Tywysogion (c.1100–c.1282/3)Dyma restr yn nhrefn yr wyddor o linellau cerddi Beirdd y Tywysogion i chi gael ei lawrlwytho os gall fod yn ddefnyddiol i chi. Fe'i defnyddiaf i adnabod cerddi mewn llawysgrifau - yn enwedig drylliau... 11510
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 04/11/2025Tua diwedd Tachwedd 1606 cychwynnodd cyfnod rhewllyd eithriadol. Yn ôl y cofnod hwn (ar y chwith) gan John Jones Gellilyfdy yn 1607, rhewodd afonydd Conwy, Dyfrdwy, Tafwys a Llyn Tegid; bu farw nifer o anifeiliaid a bu gostyngiad sylweddol yn niferoedd rhai adar, fel y fwyalchen a’r fronfraith. 030
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 29/10/2025Gair y dydd: DYFALBARHAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef y dygnwch sydd yn ambell un i barhau neu i ddal ati gyda rhyw orchwyl, pan fo'r rhan fwyaf o'u cwmpas wedi rhoi'r gorau iddi. 031
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 22/10/2025Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar ôl i ni newid yr awr yn sgil troi’r clociau’n ôl nos Sadwrn, bydd hi’n NOSI yn gynt bob dydd nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn, tua 21 Rhagfyr. Un cysur fydd yr awr ychwanegol a gawn yn y gwely fore Sul nesaf! 041
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 14/10/2025Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Cysylltwch â cefnogi@geiriadur.ac.uk os hoffech fwy o wybodaeth #CyfeillionGPC 032
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 11/09/2025Gair y dydd: GORWEL, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Un o nifer fawr o fathiadau llwyddiannus gan y geiriadurwr William Owen Pughe (tua 1800). Englyn Dewi Emrys i'r gorwel: Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas, Campwaith dewin hynod: Hen linell bell nad yw'n bod Hen derfyn nad yw'n darfod. 184
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 28/08/2025Beth yw'ch gair chi am slefren fôr neu bysgodyn jeli? Cont fôr oedd gair Lewis Morris (1754) a cheir Cont goch gan Edward Lhuyd (1684). Ond yr enw hynaf sydd gennym yn Gymraeg yw BLOBYS gan John Jones Gellilyfdy (1632). #GeirfaurFflyd @geiriadur.bsky.social 172
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 27/08/2025Braf ymweld â @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr... 071
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 20/08/2025Gair y dydd: pyngo ‘tyfu’n glystyrau, cynhyrchu’n doreithiog (am goed ffrwythau, &c.), bod yn drwmlwythog (â ffrwythau)’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ceir sawl amrywiad llafar ar y gair, e.e. pingo (Ceredigion a’r De), plyngad (Cwm Rhondda), plingo a byngad (Ceredigion). 173
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 19/08/2025Gwrandewch ar Catrin Huws, un o Olygyddion Cynorthwyol y Geiriadur, yn trafod rhai o'r geiriau 'newydd' sydd wedi'u cyhoeddi yn ddiweddar ar 'Dros Frecwast' ar BBC Radio Cymru y bore 'ma (www.bbc.co.uk/sounds/play/... gan ddechrau tua 55:40 munud drwy'r rhaglen).bbc.co.ukDros Frecwast - 19/08/2025 - BBC SoundsY newyddion diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt, gyda Kate Crockett a Dylan Ebenezer. 065
Reposted by Ann Parry OwenDavid Stifter 🍵📄🦊 @davidstifter.bsky.social · 11/08/2025⚠️ Seminar announcement: in semester 2 of the new academic year (Feb-May 2026), I will be teaching a 𝐒𝐞𝐦𝐢𝐧𝐚𝐫 𝐨𝐧 𝐀𝐧𝐜𝐢𝐞𝐧𝐭 𝐂𝐞𝐥𝐭𝐢𝐜 𝐋𝐚𝐧𝐠𝐮𝐚𝐠𝐞𝐬 (SG648) in the Dept. of Early Irish (@ceilteachomn.bsky.social) at Maynooth University. Guests from outside are very welcome. More info ⬇️ 96524
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 06/08/2025@geiriadur.bsky.social @cambriansarch.bsky.social @yganolfangeltaidd.bsky.social 023
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 30/07/2025Gair y dydd: BRICYLL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... a fathwyd gan William Owen Pughe (1793) ar ôl teimlo bod diffyg gair Cymraeg amdano. Bu'n fathiad llwyddiannus! Cysylltwch os oes gennych chithau awgrym am eiriau newydd, ar ôl teimlo #dylaifodgairamhyn. Cawn eu trafod yn yr Eisteddfod! 021
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 18/07/2025Gair y dydd: rhuddygl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., llysieuyn poethlym ei flas a ddefnyddid gynt mewn meddyginiaethau. Radish geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... yw’n gair arferol heddiw, ond enwau eraill gynt oedd rhaddig, rhodri, rhadicl – y cyfan yn perthyn i’r Lladin radix, radic- ‘gwreiddyn’ 031
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 03/07/2025Cyfarchion o Ffrainc! @prosiectmyrddin.bsky.social 031
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 02/07/2025Gair y dydd: LETUS www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., ein gair arferol am ddail salad. Mwy cyffredin ers talwm oedd www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... GWYLAETH. Cyfeiria’r ddau enw at natur laethog y dail – LETUS yn tarddu yn y pen draw o’r Lladin lactūca ‘llaethog’ a llaeth yn ail elfen gwyLAETH 152
Reposted by Ann Parry OwenSchool of Celtic Studies - Scoil an Léinn Cheiltigh DIAS @scs-dias.bsky.social · 23/06/2025🚨 Celtica is now available open-access! This is the result of painstaking work going on behind the scenes since 2022. Issues 33 to 36 (2021–24) are now online, and future issues will appear online & in print. We will also digitize the back issues of the journal. 🔗 journals.dias.ie/index.php/ce... 47934
Reposted by Ann Parry OwenCambrian Archaeological Association @cambriansarch.bsky.social · 16/06/2025CAA Eisteddfod Lecture 16.30 Wednesday 6th August, 2025 (by Ann Parry Owen). Join us for our annual Welsh-language lecture on the Maes at Wrexham on the fascinating word-lists created in 1632͏-3 by the manuscript copier John Jones of Gellilyfdy, Flintshire. 074
Reposted by Ann Parry OwenCambrian Archaeological Association @cambriansarch.bsky.social · 16/06/2025Darlith Cymdeithas Hynafiaethwyr Cymru yn yr Eisteddfod (gan Ann Parry Owen) 16.30 Mercher 6ed Awst, 2025 yn Wrecsam – ymunwch â ni am ddarlith ddifyr ar y rhestrau geiriau rhyfeddol a luniodd y copïwr llawysgrifau John Jones, Gellilifdy, Sir y Fflint. 035
Reposted by Ann Parry OwenCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 12/06/2025Diolch i’r Athro Ann Parry Owen am ddarlith O’Donnell arbennig iawn wythnos ddiwethaf. Gallwch wylio recordiad ar ein sianel YouTube @collen105.bsky.social @geiriadur.bsky.social youtu.be/cN8j9KZS-Dcyoutu.beGeiriadur i gadw’r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems a geiriadur hanesyddol cyntaf y GymraegYouTube video by Y Ganolfan Geltaidd / CAWCS 076
Reposted by Ann Parry OwenSchool of Celtic Studies - Scoil an Léinn Cheiltigh DIAS @scs-dias.bsky.social · 13/06/2025🎙️ Episode 1 of Ní hansae is out now!! Listen on Apple Podcasts, Spotify or your browser (www.dias.ie/series/ni-ha...), or watch on YouTube (youtu.be/HlHNUIfo8Co) 🎧 ➡️ Prof. Ruairí Ó hUiginn tells us all about the School of Celtic Studies @dias.ie! He also announces some pretty cool news 👀 063
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 04/06/2025Gair y dydd: GEIRIADUR www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... gair sy'n digwydd am y tro cyntaf yng ngeiriadur anferth Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems o Drefriw (1604-7) ac a fathwyd ganddo ef. Treuliodd ei oes gwaith yn copïo hen destunau o lawysgrifau gan gasglu tystiolaeth ar gyfer ei eiriadur 084
Reposted by Ann Parry OwenDavid Stifter 🍵📄🦊 @davidstifter.bsky.social · 30/05/2025Job alert: 10-month position as Lecturer/Assistant Professor in the Maynooth School of Celtic Studies! Please note: The closing date for applications is 𝟏𝟖 𝐉𝐮𝐧𝐞; I will have the error on the website corrected ASAP. 11618
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 02/06/2025Bydd Ann Parry Owen (un o Olygyddion Hŷn GPC) yn trafod ei gwaith yn trawsgrifio geiriadur Thomas Wiliems (1604-7) ar raglen Dei Tomos ar Radio Cymru nos yfory am 18:00 (neu gallwch wrando nawr ar y recordiad hwn: bbc.co.uk/sounds/play/... )bbc.co.ukDei Tomos - Geiriadur hanesyddol, cerddi o'r canolbarth a helyntion Beca yn ysbrydoli awdur - BBC SoundsAnn Parry Owen sy'n olrhain ei hymchwil i eiriadur Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems, Trefriw. 031
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 13/05/2025Gair y dydd: HOYWDO gorchudd (to) hardd (hoyw) www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Hen air cyfansawdd a ddefnyddiodd Dafydd ap Gwilym i ddisgrifio gorchudd hardd o wlith, a gair perffaith i ddisgrifio’r carped hyfryd hwn o lygaid y dydd, ger swyddfeydd GPC heddiw. 042
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 11/05/2025"Peidiwch â siarad fel cawod o genllysg o amgylch ei glustiau yn barhaus" a "cofiwch fod caniatâd i ddynion rwgnach am goleri eu crysau". Cyngor i ferch ar fin priodi (Y Gymraes, 1850). 000
Reposted by Ann Parry OwenCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 07/05/2025📢Darlith O’Donnell 2025 O’Donnell Lecture 🗓05/06/25 🕔5.00pm 📍@LLGCymru & Zoom 🗣Ann Parry Owen ‘Geiriadur i gadw'r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems (1545/6͏–c.1622) a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg’ 🎧Welsh language lecture with translation. @collen105.bsky.social @geiriadur.bsky.social 1710
Reposted by Ann Parry OwenY Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 07/05/2025Gair y dydd: banadl www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... "Melynach oedd ei phen na blodau y banadl" - disgrifiad awdur y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen o harddwch trawiadol Olwen. Llyfr Coch Hergest, Jesus 111, 204r, yn Digital Bodleian, digital.bodleian.ox.ac.uk 153
Ann Parry Owen @collen105.bsky.social · 05/05/2025Bore da Craig! Roedd yn enw newydd i mi hefyd - gwelwch yma www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r cofnod cynharaf o'r enw yn @geiriadur.bsky.social yn dod o lyfr H.E. Forrester (1907), ac fe gasglodd ef enwau pysgod drwy siarad gyda physgotwyr yng ngogledd Cymru. Mae'n siŵr bod yr enw yn hen. 100