Sign in

Y Geiriadur

@geiriadur.bsky.social
268 followers 15 following 467 posts
PostsRepliesMedia
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 6h
Gair y Dydd hegydd www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llysieuyn unflwydd, Cakile maritima, sy’n tyfu ar draethau tywodlyd ac sy’n dwyn clystyrau bychain o flodau porffor gwelw; hegydd arfor, hegydd y forlan. CC BY 4.0 Kieran Roy Powell commons.wikimedia.org/wiki/File:Ca...
Hegydd (arfor), hegydd y morlan
042
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 07/10/2026
Gair y dydd: yw geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Unrhyw goed conifferaidd bytholwyrdd ... yn enw. Taxus baccata a blennir yn draddodiadol mewn mynwentydd'. Gwelir eglwys a cherrig beddi drwy ddail yr ywen yn y llun isod.
Dail gwyrdd ywen â hadau mewn gorchudd coch. Gwelir rhan o eglwys a cherrig beddi yn y cefndir
040
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 06/10/2026
Gair y Dydd: glais geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ei ystyr yw ‘nant, afonig, ffrwd’ ac mae’n digwydd mewn enwau nentydd, fel Gwenlais, ac ar ei ben ei hun yn enw y Glais ger Abertawe. Ar y dyddiad hwn yn 1879 y ganwyd y bardd, pregethwr a gwleidydd a adnabyddir fel Niclas y Glais.
Yr afon Tawe rhwng coed yn y Glais
063
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 05/10/2026
Gair y dydd: adref ‘i gyfeiriad ei gartref, tua thref’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Dyma’r adeg o’r flwyddyn yr arferai bugeiliaid ddychwelyd adref o hafod y mynydd-dir i’r hendref ar lawr gwlad: Adref af, mis Hydref yw, / Adeg mynd adref ydyw.
Coedwig yn yr hydref
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 01/10/2026
Gair y Dydd trwydded www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Caniatâd neu dystysgrif i wneud rhywbeth CC BY-SA 4.0 Auge=mit commons.wikimedia.org/wiki/File:F%...
Trwydded yrru (1948), Gweriniaeth Gyfundodol yr Almaen
040
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 30/09/2026
Gair y dydd: madarch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Enw ar amryw fathau o ffwng, yn enwedig y rhai bwytadwy sy'n cael eu hadnabod hefyd fel bwyd y barcud, y boda, y broga, a'r ellyllon, a chaws llyffant. Yn GPC gwelir hefyd yr enwau shrwmps, sirwms, a grawn bwytadwy. Beth yw eich enw chi arnynt?
Clwstwr o fadarch yn tyfu mewn cae o borfa wlithog
051
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 29/09/2026
Gair y Dydd: gŵyl Fihangel www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae’n ŵyl Fihangel heddiw, neu ddydd (dyw) gŵyl Fihangel, hen enwau sy’n mynd yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Llun o Fihangel yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 28/09/2026
Rydym yn ymwybodol gellid gweld rhybuddion coch bod XSLT yn dod i ben yn Chrome, Edge, Firefox ayb, ac yn gweithio i newid y dechnoleg mae GPC yn ei defnyddio. Nid oes rhaid poeni am hyn yn y cyfamser. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra dros dro.
031
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 28/09/2026
Gair y dydd: BALCHDER geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., a ddefnyddir mewn ystyr gadarnhaol, er enghraifft am bleser neu foddhad rhywun am gyflawniad arbennig (fel balchder amlwg yr alarch yn y llun!); neu mewn ystyr negyddol, am goegfalchder, neu feddwl uchel rhywun ohono'i hun.
Alarch yn edrych gyda balchder ar ei wy
061
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 25/09/2026
Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd!
130
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 25/09/2026
Gair y Dydd: GWAWN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma'r gweoedd gwynion ysgeifn o waith y pry cop a welir yn nofio yn yr awyr ar dywydd tawel heulog, ac fe’u gwelir yn hongian dros lwyni neu’n gorchuddio wyneb y glaswellt. Mae 'blew Medi' yn enw arall arnynt. A ydych chi wedi'u gweld?
Peintiad 'Babie lato' (Tes Mihangel) gan Józef Chełmoński (1875) - gwraig yn gorwedd ar ei chefn ar lawr yn dal gwawn rhwng ei bysedd, a chi bach du yng nghefn y llun yn edrych ar gyr o wartheg.
061
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 24/09/2026
Gair y Dydd tasio www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gwneud tas o ŷd, gwair ayb, codi tas; pentyrru, bwndelu. Hefyd tas(i)o, tasu, teisio ayb. CC0 1.0 commons.wikimedia.org/wiki/File:Tu...
Gwneud tas o wair yn Ne Awstralia (c.1915)
032
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 23/09/2026
Gair y dydd: cadw geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gwelir 'Kadw o ddefeit A flocke of shepe' yng ngeiriadur 1547 William Salesbury. Mae'r gair yn cyfeirio at braidd, didadell, &c., 'h.y. o anifeiliaid a gedwid yn yr unfan'.
praidd o ddefaid mewn cae o borfa hir gyda golygfa brydferth o goed a bryniau yn y cefndir
050
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 22/09/2026
Gair y Dydd: gogyhyd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sy’n golygu ‘o’r un hyd’ ac yfory, 23 Medi, yw un o’r ddwy adeg yn y flwyddyn pan fydd nos a dydd o’r un hyd, sef cyhydnos yr hydref geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
Diagram yn dangos golau'r haul yn goleuo un hanner o’r ddaear a’r hanner arall yn dywyll gydag echelin y ddaear i lawr y canol a llinellau’n dangos Cylch yr Arctig, Trofan Cancr, y Cyhydedd, Trofan yr Afr a Chylch yr Antartig ar draws y glob
072
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 21/09/2026
Gair y dydd: trymlwythog geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., fel y griafolen hon sy’n dwyn cnwd trwm o aeron.
Coeden griafol yn drymlwythog gan aeron
052
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 18/09/2026
Gair y Dydd: gwyfyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Trychfilyn yn ei ffurf fel larfa sy’n magu mewn brethyn, dillad, &c., ac wedi iddo dyfu adenydd mae'n hedfan gan mwyaf yn yr hwyr. Gwalch-wyfyn hofrol yw enw'r gwyfyn sy'n y fideo. Digon hawdd byddai ei gamgymryd am aderyn y si go iawn!!
093
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 17/09/2026
Gair y Dydd iwrch www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Math o garw bychan bywiog a geir yn Ewrop ac Asia, Capreolus capreolus; y gwryw o’r rhywogaeth. CC BY-SA 4.0 Uoaei1 commons.wikimedia.org/wiki/File:Ca...
Iwrch (Capreolus capreolus)
030
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 16/09/2026
Gair y dydd: pensaernïaeth (architecture) Yn y llun gwelir ochr yn ochr dwy arddull bensaernïol hollol wahanol, nodweddiadol o'u cyfnod.
Hen adeilad o frics traddodiadol i’r ardal ger camlas dinas Leeds, ac entrychdy modern gyda llawer o wydr ynddo wedi ei adeiladu tu ôl iddo.
060
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 15/09/2026
Gair y Dydd: swch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef trwyn anifail. Mae ystyron eraill y gair 'swch' yn cynnwys llafn mawr aradr ar ôl y cwlltwr, blaen neu bigyn a darn o dir. Nodir ffriw, gwp, gylf, safn a turs fel rhai o gyfystyron Cymraeg 'snout' yn GPC. Beth yw eich gair chi?
Trwyn (swch) ci
031
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 14/09/2026
Gair y dydd: ANGHYRAEDDADWY, geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Y gair perffaith i ddisgrifio’r eirin toreithiog hyn, sydd ‘y tu hwnt i gyrraedd’ ac felly’n ‘anhygyrch’. Cwympo i’r nant islaw fydd eu ffawd mae’n siŵr, neu bydru ar y gangen.
052
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 11/09/2026
Gair y Dydd: mwyara geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef hel mwyar duon. Mae i'r ferf ystyr ffigurol hefyd, sef segura neu ddiogi. Beth wnewch chi dros y penwythnos tybed, ai mynd allan i fwyara ynteu segura a diogi?
Llwyn o fwyar duon, a llaw yn dangos rhai wedi eu casglu
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 10/09/2026
Gair y Dydd enfys www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Bwa seithliw a ymddengys weithiau ar gwmwl neu darth yn union gyferbyn â’r haul neu olau arall; tebyg i enfys o ran ei ffurf fwaog.
Enfys uwchben Aberystwyth
052
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 09/09/2026
Gair y dydd: tocyn (toc) geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Pecyn neu barsel o fwyd (fel arfer yn cynnwys bara (ymenyn)) i’w fwyta oddi cartref'. Beth yw eich gair chi am ginio pecyn? Gwelir pryd aros, snap, a snapin yn GPC.
bocs bwyd yn cynnwys brechdanau o fara gwyn, a phecyn o greision
040
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 08/09/2026
Gair y Dydd: llosgi geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – sef bod ar dân a difa drwy dân. Dyna ddigwyddodd 90 mlynedd yn ôl ym Mhenyberth ger Penrhos, Pwllheli, pan roddwyd yr ysgol fomio oedd yn cael ei chodi yno ar dân i ddangos gwrthwynebiad i hynny.
Coelcerth yn yr awyr agored yn y nos
064
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 07/09/2026
Gair y dydd: pladur geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., offeryn ac iddo goes hir a llafn hirgrwm a ddefnyddid yn draddodiadol yr adeg hon o’r flwyddyn i fedi cnydau.
Peintiad o berson yn medi cnwd â phladur
092
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 04/09/2026
Gair y dydd: mwd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n bosib mai benthyciad yw mwd o'r Saesneg canol 'voute' ('vault'), a gall olygu nenfwd neu do bwaog, canopi neu fwa, neu seler neu ddaeargell â tho bwaog iddo. Sylwer mai'r un 'mwd' sy'n digwydd yn ail elfen y gair 'nenfwd'.
nenfwd fwaog hardd
041
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 03/09/2026
Gair y Dydd pryd ar glud www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gwasanaeth sy'n danfon bwyd i bobl sy'n methu coginio iddyn nhw ei hunain. CC BY 4.0 Wellcome Collection commons.wikimedia.org/wiki/File:Me...
Dwy fenyw a fan pryd ar glud yn Stepney (1940au)
051
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 02/09/2026
Gair y dydd: MACHLUD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Disgrifia MACHLUD (gynt YMACHLUDD) weithred yr haul yn mynd i lawr ac yn ymguddio am y nos cyn codi drannoeth yn y DWYRAIN. Ystyr yr hen ferf dwyre/dwyrain oedd ‘codi’.
Machlud haul ar y traeth yn Aberystwyth
083
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 01/09/2026
Gair y Dydd: Monwysyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – sef un o drigolion Môn. Bu farw’r artist enwog o Fôn, Syr Kyffin Williams, ar y dyddiad hwn ugain mlynedd yn ôl.
Cerflun o Kyffin Williams yn braslunio y tu allan i Oriel Môn yn Llangefni
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 28/08/2026
Gair y dydd: breuddwyd ‘a dream’: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ar y dydd hwn yn 1963 y traddododd Martin Luther King, yr ymgyrchydd hawliau sifil, ei araith ‘I Have a Dream’.
Delwedd o gerflun o Martin Luther King gan DWilliam o Pixabay
041
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 27/08/2026
Gair y dydd: arwain www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r bachgen bach yn 'cyfarwyddo cwrs' y gaseg â thennyn. A wyddoch fod y gair hefyd yn golygu 'cludo, cario'? Darllenwch yr erthygl yn GPC i ganfod yr holl ystyron.
bachgen bach yn defnyddio tennyn i arwain caseg winau fawr trwy glos fferm
072
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 26/08/2026
Gair y dydd: cacimwci ‘burdock’ geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., planhigyn gwyllt y mae ei flodau pigog yn dueddol o lynu wrth ddillad, blew anifeiliaid, &c.
Y planhigyn cacimwci
1104
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 25/08/2026
Gair y Dydd: crwth halen: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – enw diddorol ar bot halen. Mae enwau eraill hefyd, fel cetog halen geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Beth fyddwch chi’n ddweud?
Pot halen clir a phot pupur pren
071
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 24/08/2026
Gair y dydd: llwy www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... Teclyn defnyddiol dros ben! Darllenwch yr erthygl i ganfod holl ystyron y gair a'i darddiad - mae'n ddiddorol!
Llwy de yn gorwedd ar gownter cegin
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 21/08/2026
Gair y Dydd: ar ei liwt ei hun geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair a gofnodwyd am y tro cyntaf yn 1885, yn golygu 'ar ei ben ei hun', neu 'yn annibynnol'. Hen offeryn nid annhebyg i'r gitâr yw'r 'liwt', a oedd mewn bri mawr yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Tybed felly beth yw cefndir yr idiom hwn?
Llun o lawysgrif o gerddor yn chwarae'r liwt
074
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 20/08/2026
Gair y Dydd seithochrog www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ac iddo saith ochr, e.e. fel math o bolygon neu bolyhedron, neu o'r fath siâp. CC BY-SA 3.0 Numizmat 675 commons.wikimedia.org/wiki/File:Ga...
Darn arian un dalasi o Gambia
042
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 19/08/2026
Gair y dydd: hwyad geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Moch dysg nawf mab hwyad Dihareb o Lyfr Coch Hergest (1400). Bydd hwyaden fechan yn dysgu sut i nofio (nawf) yn fuan. Ystyr y ddihareb ydi fod y pethau a wnawn trwy reddf yn dod yn hawdd. Nid yw nofio’n hawdd i ni, fel y mae i hwyaid!
Hwyaid bach
064
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 18/08/2026
Gair y Dydd: prifardd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – yn yr achos hwn mae’n cyfeirio at fardd cadeiriol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Dic Jones, a fu farw ar y dyddiad hwn yn 2009. Dyma un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru yn yr hanner can mlynedd diwethaf.
Ffotograff o Dic Jones
062
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 17/08/2026
Gair y dydd: diferion www.welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html... Braf gweld y diferion hyn bore 'ma! Mae 'na groeso mawr i'r glaw. Gweler hefyd dafn - dafnau glaw.
Diferion neu ddafnau o law ar ddail gwyrdd.
174
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 14/08/2026
Gair y Dydd: ysgythru geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Gair sy'n dyddio o'r 12g., ac yn medru golygu tocio, torri a chlirio rhywbeth, neu ysgraffinio, crafu, naddu, cerfio ac engrafio ar rywbeth.
Planhigion bambŵ wedi'u hysgyrthu ag enwau pobl
031
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 13/08/2026
Gair y dydd: hwch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Mochyn benyw; (yn wr.) mochyn' Yn y llun gweler hwch a'i pherchyll yn gorffwys yn y gwellt. Enwau eraill am hwch a welir yn y Geiriadur yw cynar a gwŷs. Mae yna eraill eto - rhowch gynnig ar eu chwilio.
Hwch fawr goch o'r brîd prin Tamworth â thri o'i pherchyll yn gorffwys ar wely o wellt
042
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 12/08/2026
Gair y dydd: diffyg: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... yn ystyr 2. 'tywylliad corff nefol trwy i gorff arall ddod rhyngddo a llygad yr edrychydd'. Disgwylir 'diffyg cyflawn' (total eclipse) heddiw yng Ngwlad yr Iâ a Sbaen, a 'diffyg rhannol' (partial eclipse) yn y DU.
Diffyg rhannol ar yr haul
0105
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 11/08/2026
Gair y Dydd: brithdir geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Mae’n golygu tir neu bridd amrywiol ei natur ac yn digwydd mewn sawl enw lle. Caiff Brithdir ger Dolgellau ei enwi yn y gân Wrth Fynd efo Deio i Dywyn.
Geiriau Wrth Fynd efo Deio i Dywyn, sef Mi dderbyniais bwt o lythyr, Ffa la la, Oddi wrth Mistar Jones o’r Brithdir, Ffa la la, Ac yn hwnnw roedd yn gofyn, Ffa la la, Awn i efo Deio i Dywyn, Ffa la la.
052
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 10/08/2026
Gair y dydd: hwrdd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Gwryw llawn-dwf ac annisbaddedig o rywogaeth y ddafad'. Mae gan yr hwrdd hwn waith pwysig - efe sy'n pori'r fynwent i'w chadw'n daclus! Gweler hefyd maharen.
Hwrdd yn edrych ar y camera. Mae'n aros ger y cerrig beddi mewn mynwent hynafol, ar borfa sydd wedi cael ei bori'n grop.
052
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 08/08/2026
Diolch Mererid, llywydd ymroddgar Cyfeillion GPC, am ein gwahodd i drafod geiriau tafodieithol cerdd Dewi Emrys “Pwllderi” - a oedd yn gydfuddugol yn yr Eisteddfod union ganrif yn ôl, am gerdd mewn tafodiaith leol
040
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 07/08/2026
Gair y dydd: GWYRAIN geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...   Math o gregynbysg (unigol: GWYRAN) sy’n glynu’n gadarn wrth greigiau a gwaelod cychod yn y môr.     Credid ers talwm, gan Gerallt Gymro ac eraill, mai o’r cregyn bach hyn y câi’r gwyddau o’r un enw eu geni.
Gwyrain ar graig ar lan y môr
042
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 06/08/2026
Gair y Dydd hyfref www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Tueddol i frefu, e.e. dafad neu anifail tebyg. CC BY-SA 4.0 Mathieu Landretti commons.wikimedia.org/wiki/File:Sh...
Dafad gyda'i cheg ar agor yn brefu
051
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 05/08/2026
Gair y dydd: TAFODIAITH  geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., amrywiad ar iaith a siaredir mewn ardal benodol. Dyma rai geiriau a gysylltir ag ardal yr Eisteddfod eleni: gogledd-ddwyrain Penfro a de Ceredigion. Faint sy'n gyfarwydd i chi?  Beth yw’ch hoff air tafodieithol chi (nodwch pa ardal)?
Cwmwl geiriau yn cynnwys geiriau tafodieithol o ardal yr Eisteddfod eleni
053
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 05/08/2026
Cyfeillion GPC yn yr Eisteddfod! Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd i'r Babell Lên fore Sadwrn erbyn 11, ac i ddilyn, cyfle am sgwrs gyda Staff GPC ar stondin PCYDDS (rhif 803-806). #CyfeillionGPC
Hysbyseb am y digwyddiad yn y Babell Len gyda Mererid Hopwood yn sôn am Dewi Emrys a'i waith, yng nghwmni rhai o staff GPC.
011
Y Geiriadur @geiriadur.bsky.social · 04/08/2026
Gair y Dydd: coffa geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Gwobr Goffa Daniel Owen, nofelydd dylanwadol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod y Garreg Las heddiw. Mae’n gwobrwyo awdur nofel newydd sydd heb ei cyhoeddi. (Llun: portread o Daniel Owen)
Portread o Daniel Owen yn gwisgo siwt dywyll a het â bondo
050