Sign in

Elidir Jones

@elidirj.bsky.social
836 followers 1.3K following 1.1K posts

Awdur ffantasi ac arswyd | Horror and fantasy author • Sgriptiwr | Scriptwriter • Isdeitlydd | Subtitler

PostsRepliesMedia
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 28/02/2026
Ia, wir. Hwyl yr wyl. Tawel yma, bois. Sut dach chi gyd, eniwe? Iawn? #cig2026
030
Reposted by Elidir Jones
Dr Delyth Badder @folklorewales.com · 24/02/2026
folklorewales.com has a shiny new look 👀 Find my books, book an event, or share your own ghosts and folklore with me. Link in bio ☝️
0226
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 21/02/2026
Ro'n i'n meddwl fy mod i wedi gwneud fy addasiad ola - ond pan mae Huw Aaron yn galw, dach chi'n ateb. Mae 'Y Tylwyth Annheg' yn mhob siop lyfrau dda rŵan. Penolau pryfed! Madarch! Perygl peryglus! Mae gan hwn y cyfan. Croeso i'r Ardd, a hir oes i'r Llyffant Anfarwol.
Clawr blaen 'Y Tylwyth Annheg' gan Huw Aaron (addasiad Elidir Jones).

Cover of 'Y Tylwyth Annheg', Elidir Jones's Welsh-language adaptation of Huw Aaron's 'Unfairies'.
021
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 24/10/2025
How do you humiliate a fascist? Caerphilly. Bore da iawn, Gymru.
05017
Reposted by Elidir Jones
Dr Delyth Badder @folklorewales.com · 05/10/2025
Six weeks ago, I picked up a year-old tawny owl with a broken leg off the main road near our home and dropped him off at our nearest vet. After a few days, I received one of the most bizarre phone calls I’ve ever had, asking “So when are you coming to pick up your owl?” 🧵
Tawny owl
23588232043
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 05/08/2025
Sefyllfa gwerthu llyfrau plant yng Nghymru yn 'argyfyngus'. Ella ddylsa rywun oni bai am yr awduron eu hunain drio eu hyrwyddo nhw 'ta? Just a thought. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
021
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 11/12/2024
Today marks 20 years since my band Plant Duw's first gig. We toured for 14 years - mainly in a tiny Volkswagen Lupo - and had a blast. What better time to look back at some career highlights? Starting with our 'big hit'. That solo is 18 years old now. Old enough to drink. youtu.be/7MEKombfBsE?...
youtu.be
Plant Duw "Nerth Dy Draed"
YouTube video by Daf Palfrey
2123
Reposted by Elidir Jones
Leanne Wood @leannewood.bsky.social · 24/11/2024
26420
Reposted by Elidir Jones
Heledd Fychan Plaid Cymru @heleddfychan.bsky.social · 24/11/2024
Statement re flooding in South Wales Central ⬇️
My thoughts go out to all those impacted by flooding, and more than anything, I hope everyone impacted is safe. 

After the devastating floods of 2020, Labour refused to hold an independent inquiry into flooding in Wales despite calling for one in England. 

With flooding becoming more extreme and more frequent, we must make sure this time that lessons are learnt and greater support given to communities. 

My team and I will be focused today and in the coming days in providing practical support to those impacted, but in the Senedd, I will continue to be a voice for flooded communities and continue to campaign on the issue. 

My email address is Heledd.Fychan@Senedd.Cymru and office number is 01443 853214.
22919
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 24/11/2024
Gwnewch eich siopa Dolig o siop lyfra fach orau Cymru, plis. Maen nhw angen eich cefnogaeth yn fwy nag erioed.
0125
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 11/11/2024
Prin wedi ysgrifennu flwyddyn yma yng nghanol gwallgofrwydd dod yn dad newydd, ond mae 'na stori gen i yn y gyfrol swmpus, hyfryd yma, wedi ei olygu gan Lowri Haf Cooke. Fi yn sbwylio'r mŵd clyd Nadoligaidd efo stori ysbryd cwbl erchyll, natch. Yn y siopau mewn ychydig dros wythnos.
Clawr 'Amser Nadolig', gol. Lowri Haf Cooke, yn dangos cysgodion coed Nadolig o flaen awyr llawn sêr. Llun gan y golygydd.
180
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 26/05/2024
Newydd ddod yn ôl o wyliau, ac wedi darllen pentwr o lyfrau. Hwn sy'n sefyll allan. Plotio tynn, cymeriadau tri dimensiwn, ac yn llenwi bylchau yn ein hanes a chwedloniaeth yn hytrach nac ailadrodd yr un hen straeon. Campus o nofel @CarregGwalch.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 23/04/2024
Braf gweld mwy o leisiau'n codi am y diffyg nofelau ffantasi yn y Gymraeg. @huwaaron a fi wedi dechra clwb llyfra bach ein hunain heddiw er mwyn darllen efo'n gilydd fatha rêl bois. Da iawn, iawn hyd yma, @aledemyr. www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/cy…
bbc.co.uk
Awdur newydd eisiau mwy o nofelau ffantasi yn Gymraeg
Sgwrs gyda Aled Emyr o'r Felinheli am ei nofel ffantasi newydd, Trigo.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 01/03/2024
#cig2024
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 07/10/2023
Ar ôl blynyddoedd ar wahân, mae pedwar hen ffrind coleg yn dod ynghyd ar lwybrau unig Cwm Darran er mwyn cerdded, yfed, a hel atgofion ... ond mae rhywun - neu rywbeth - yno gyda nhw, yn llechu yn y niwl ... Mae 'Aduniad' yn arswydo siopau llyfrau RŴAN!
Clawr 'Aduniad', nofel arswyd gan Elidir Jones, yn dangos adfail mewn coedwig dywyll, ar lannau pwll o ddŵr.

The cover of 'Aduniad', a horror novel by Elidir Jones, which shows a ruined house in a dark forest, on the banks of a small pool.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 01/10/2023
@madeley.bsky.social Diolch am ddod ddoe! Sori ges i ddim cyfle i ddweud mwy na helo sydyn.
100
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 25/09/2023
Hei, pwy sy isio nofel arswyd newydd gen i FIS NESA? Ar drip gwersylla yng Nghwm Darran, bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu, hen ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau o berfeddion llên gwerin Cymru yn dod yn fyw. Drychwch arno fo yn ei holl ogoniant sbwci!
110
Reposted by Elidir Jones
Dr Delyth Badder @folklorewales.com · 22/09/2023
With so little time to go until 'The Folklore of Wales: Ghosts' materializes on shelves everywhere, let's share some of my favourite ghoulish snippets and sinister stories from each chapter... ... hold on to your white sheets, folks! 👻
0124
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 22/09/2023
S'mai bawb. Dwi'n awdur o Fangor, bellach ar ben fy nigon ym Mhontypridd. Wrth fy modd efo straeon am ddreigiau a ysbrydion... a 'na ni. Off â chi 'de. Hello there. I'm an author from Bangor, now ensconced in Pontypridd's finery. I love stories about dragons and / or ghosts. That's it. As you were.
The complete works of award-winning author Elidir Jones, who has won precisely one award.
1103
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 28/08/2023
Ac... anadl ddofn. Wedi misoedd o hwyl gwyllt a gweithio'n galetach nac erioed - ar Yr Hogyn Pren, a dim llai na thri prosiect cudd arall - dwi newydd orffen. Ffiw. Edrych ymlaen at rannu popeth yn y man, ond siawns am baned gynta?
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 18/08/2023
Mae @GwyllionMag yn derbyn straeon a cherddi ffantasi, ffugwydd ac arswyd CYMRAEG! Rhywbeth erchyll wedi digwydd i chi yn y Steddfod? Coblyn wedi dwyn eich copi o @cylchgrawn_LOL? Aliens wedi ymosod ar stondin @AwenMeirion? Rhowch o ar bapur a'i yrru i ni erbyn Calan Gaeaf!
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 11/08/2023
Eich cyfle ola' heddiw i weld Yr Hogyn Pren wrthi yn nyfnderoedd Llŷn. 11.30: llythrennau EISTEDDFOD 1.45: Emporiwm 3.30: Pentref Plant Os ydych chi yn y Sowth, digon o amser i ddreifio fyny, stopio yn Port am jips, a dal un o sioeau'r pnawn.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 10/08/2023
Cip ar #YrHogynPren yn #Steddfod2023 fan hyn, ar BBC1 - 1, cofiwch! Y rhif gora! 18:45 i mewn. You can catch a glimpse of my play / puppet show / emotional rollercoaster with @TheatrGenCymru from 18:45 here. Eisteddfod, 2023: Episode 1:...
100
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 10/08/2023
Dwy bennod i mewn, ac yn hwcd ar Anfadwaith o'r cychwyn, @LlyrTitus. Arbennig o dda. Os fyddwch chi isio'r ateb Cymraeg i The Witcher rhwng eich dawns y glocsen a'ch partïon llefaru, 'da chi'n gwbod lle i droi.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 07/08/2023
Heddiw! Mae'r Hogyn Pren yn cychwyn ar ei daith o amgylch yr Eisteddfod. 11.30: llythrennau Eisteddfod 1.45: Emporiwm 3.30: Pentref Plant Sioe fydd yn chwalu'ch pren. Sori - pen. Llun gan @theatrbydbach
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 06/08/2023
Wedi dod o'r Steddfod yn goch fel bitrwt a 'di sortio darllen y dyfodol agos. Joio byw. Un broblem fach: dim hanner digon o bypedau. Wnawn ni rwbath am hynny fory. #Steddfod2023 #yrhogynpren @TheatrGenCymru
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 02/08/2023
Wedi treulio diwrnod hudolus efo @TheatrGenCymru ddoe yn gwylio'r Hogyn Pren yn gwneud ei betha'. Rhwng chi a fi, dwi erioed wedi gweld tîm mwy talentog yn fy mywyd, nac wedi teimlo cymaint o groen gŵydd mewn chwarter awr. Does gan yr @eisteddfod ddim SYNIAD be sy'n dod.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 19/05/2023
Diwrnod Seren a Sbarc hapus i bawb sy'n dathlu ar hyd ysgolion Cymru! Mae'n gymaint o bleser rhoi geiriau hurt bost yng nghegau'r ddau yma. Y tri llyfr Seren a Sbarc ar gael rŵan, yn llawn jôcs twp, posau, ac Owain Glyndŵr ar gefn deinosor.
001
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 13/05/2023
Os ydych chi o gwmpas ar gyfer #PartiPonty heddiw, cofiwch am yr Ŵyl Chwedleua Plant! Fyddwn ni wrthi'n creu bydoedd ffantasi yn yr Amgueddfa am 2.30 - cofiwch bacio'ch dychymyg. Ticedi ar gael fan hyn: www.pontypriddtowncouncil.gov.uk/my…
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 23/04/2023
Diolch am y croeso, @CDFKidsLitFest. Pleser i adrodd straeon ac arlunio a chreu bydoedd efo chi. Hefyd, sori i holl drefnwyr #llyfryflwyddyn - dwi 'di gaddo i lond stafell o blant bod pob un yn mynd i ennill y wobr flwyddyn nesa. Dwi'n dyfaru dim.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 14/04/2023
@sionmun @collirplot Wir wedi mwynhau'r bennod ar gloriau llyfrau. Awr o Siôn yn tyrchu drwy hen gloriau llyfrau Cymraeg ar @S4C, plis.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 29/03/2023
Penblwydd hapus yn ddwy oed i Mostyn Madog, fy nghysgod bach cwynfanllyd. Dwi'n trysori pob un gwich, cofiwch.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 02/03/2023
Books can be a great way to learn or brush up on a language. More fun than Duolingo, at any rate. Pick one of these up today and add vengeful spirits, fantastical heists, and time-travelling pies to your Welsh lexicon. #WorldBookDay #LoveReading
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 02/03/2023
Bwystfilod (a Betsanod), ysbrydion, duwiau gwyllt, dyfeisiadau gwallgo, heb sôn am Sêr a Sbarcs. Hwyl ar y darllen heddiw, bawb! #DiwrnodYLlyfr #CaruDarllen
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 24/02/2023
Ar y diwrnod yma yn 1797, cafodd fyddin Ffrainc eu trechu gan ferched Abergwaun, dan arweinyddiaeth Jemima Nicholas. Yn anffodus, does fawr neb yn cofio'r deinosor arwrol roddodd help llaw. 'Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser', ar gael rŵan: bit.ly/3m2viKp
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 22/02/2023
Mae pennod gyffrous nesa Chwedlau'r Copa Coch ar y ffordd i siopau wythnos yma! Stori 'heist' ffantasi sy'n llawn bwystfilod hunllefus, cestyll llawn cyfrinachau, a siwtiau robotaidd hiwj. Achos pam ddim? Sibrydwch y peth: dwi'n meddwl mai hwn ydi'r llyfr gorau eto... #copacoch
100
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 30/01/2023
Does 'na neb fel Delyth fi. Mae'r portread yma ohoni yn crynhoi hynny'n reit deidi. golwg.360.cymru/cylchgrawn/2113840-…
golwg.360.cymru
Y meddyg sy’n mwynhau hen hanesion arswydus
Mae’r wal dalu wedi ei chwalu ar gyfer y Portread yma sydd yng nghylchgrawn Golwg, i bawb gael blas ar yr alrwy unig gylchgrawn wythnosol Cymraeg Cymru… Hen hanesion arswydus am ysbrydion Cymru yw diddordeb mawr meddyg o’r gogledd sy’n byw yn y de.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 12/01/2023
Peth da gawsoch chi ddim yr ymchwiliad 'na i lifogydd, @CyngorRhCT. Wâst o amser. Good thing you voted against that flooding inquiry, @RCTCouncil. Top work. #Pontypridd
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 29/12/2022
Fy ngwraig athrylithgar, amldalentog, yn trafod pethau sy'n mynd bwmp yn y nos yn ei steil ddihafal ei hun. A'r Fari Lwyd. A mulod bwganllyd. A dynion efo coesau geifr. Gwyliwch! youtu.be/ML_4r60SkJw
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 19/12/2022
Lle mae dechra efo hwn? Un sylw hurt bost ar ôl y llall. Gawn ni stopio rhoi sylw yn y wasg i hoff ffarmwr Jacob Rees-Mogg, plis? golwg.360.cymru/chwaraeon/chwaraeon…
golwg.360.cymru
Gareth Wyn Jones yn gwrthwynebu cefnogaeth i wahardd rasio milgwn
Mae’r ffermwr Gareth Wyn Jones wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gwrthwynebu cefnogaeth un o bwyllgorau’r Senedd i wahardd rasio milgwn. Dywedodd y Pwyllgor Deisebau heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 15) eu bod yn cefnogi’r gwaharddiad.
100
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 06/12/2022
Ella doedd rhoi rheolaeth o'r iaith Gymraeg i blaid George Thomas, Neil Kinnock a Chris Bryant ddim yn syniad mor dda wedi'r cwbwl... #cyfrifiad
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 14/11/2022
Cofiwch am hwn heno! Nest Llwyd Owen, @nianaseem a fi yn darllen straeon ysbryd, yn trafod gwaith celf gwirioneddol ddychrynllyd, ac yn mwydro'n ddi-stop am lyfrau a ffilmiau arswyd. Be gewch chi well fel amuse-bouche cyn i #Abertoir2022 gychwyn go-iawn?
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 10/11/2022
Maen nhw'n fyw. MAEN NHW'N FYW! #sgrechycreigiau @SerenaSbarc Diolch i @huwaaron am y modelu dwylo hyfryd.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 26/10/2022
Anaml iawn mae Stephen King a Gwersyll yr Urdd, Glanllyn yn cael eu crybwyll yn yr un sgwrs, ond... Gwrandewch eto ar @boimoel a finnau'n trafod #sgrechycreigiau fan hyn - 39 munud i fewn. www.bbc.co.uk/sounds/play/m001ddq8?…
bbc.co.uk
BBC Sounds
Listen without limits, with BBC Sounds. Catch the latest music tracks, discover binge-worthy podcasts, or listen to radio shows – all whenever you want
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 24/10/2022
‘Dach chi’n disgwyl hydoedd am fws, a wedyn... DAU lyfr gen i yn cael eu hargraffu ar hyn o bryd, ac yn glanio mewn chydig o ddyddiau, diolch i’r hyfryd @LlyfrauBroga.
110
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 17/10/2022
@danny_robins It's a little thing, but thanks for making sure the pronounciation of 'Heol Fanog' was correct on #TheWitchFarm. It means a lot.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 30/09/2022
'Craen ar y Lleuad' gan @plantduw ar gael i'w ffrydio'n ddigidol rŵan. Fersiwn newydd o glasur cynnar, lithrodd o dan y radar dair mlynedd yn ôl. Mae 'na ffyrdd gwaeth o fynd allan. orcd.co/craenarylleuad
orcd.co
Plant Duw - Craen ar y Lleuad
Dewiswch wasanaeth // Choose your preferred music service
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 29/09/2022
Gymaint wedi digwydd ers y llun yma, ond mae'n dal i deimlo fel ddoe. Pedair mlynedd hapus, @delythbadder. Ddim yn dallt sut mae'n bosib, ond dwi'n dy garu di'n fwy nag erioed.
000
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 29/07/2022
Newydd orffen drafft cynta o'r llyfr diweddara - ac os ydi hwn mor hwyl i'w ddarllen ag yr oedd o i'w sgwennu, dwi'n meddwl y bydd o'n glincar. Mae'n falch gen i gyhoeddi mai LLADRON Y DEYRNAS GOLL ydi'r nesaf yng nghyfres Chwedlau'r Copa Coch!
100
Elidir Jones @elidirj.bsky.social · 20/07/2022
Wedi cael gafael ar docynnau i weld Bruce Springsteen. Mae'r byd yn iachau o'r diwedd. Oni bai am y ffaith ei fod o'n llythrennol ar dân. O, ac mae Plaid Cymru yn disgrês. Bore da.
000