Meddal.com @meddal.com · 05/10/2026WordPress Golygydd blociau sy'n symleiddio'r broses o greu cynnwys ac adeiladu blog/gwefan deniadol ac apelgar Nawr yw'r amser i ddefnyddio WordPress yn Gymraeg, gyda themâu parod ac ategion i estyn gallu'ch gwefan Gwefan: cy.wordpress.org 000
Meddal.com @meddal.com · 02/10/2026Thunderbird 🏴 Rhaglen gyfathrebu gynhwysfawr Yn cynnwys y gallu i drin e-bost, calendr, tasgau a chyfeiriadau Gwirydd sillafu Cymraeg ar gael fel ychwanegyn Gwefan: thunderbird.net/cy 000
Meddal.com @meddal.com · 01/10/2026Firefox Relay Gwasanaeth atal cam ddefnydd o'ch cyfeiriad e-bost Arallenwau i'w defnyddio i guddio'ch e-bost wrth gyfathrebu neu gofrestru gyda gwasanaethau amheus Cofrestrwch am 5 arallenw am ddim drwy eich cyfrif Firefox Gwefan: relay.firefox.com 000
Meddal.com @meddal.com · 01/10/2026Openverse Cymraeg 🏴 Gwefan sy'n galluogi pawb i ddarganfod a defnyddio delweddau a fideos trwydded agored a pharth cyhoeddus Yn rhan o deulu Wordpress Gwefan: openverse.org/cy 001
Meddal.com @meddal.com · 28/09/2026Facebook Container Ychwanegyn i Firefox sy'n rhwystro Facebook rhag eich tracio ar draws y we, hyd yn oed pan nad ydych ar Facebook! Mae'n fwy diogel mynd ar Facebook wedyn! 👍 Gwefan: mozilla.org/cy/firefox/facebookcontainer 000
Meddal.com @meddal.com · 25/09/2026Tusky 🏴 Ap darllen a chyfrannu at Mastodon Mae'n cynnwys holl nodweddion Mastodon, lluniau, fideos, rhestrau emojis cyfaddas Mae am ddim ac ar gael dim ond ar gyfer Android Gwefan: tusky.app ar gael o Google Play ac F-Droid 000
Meddal.com @meddal.com · 24/09/2026Chromebook Cymraeg 🏴 Mae ChromeOS, sy'n gyrru Chromebooks ar gael yn Gymraeg! 🤩 Hefyd, mae amryw o apiau Chromebook yn Gymraeg.👏 Cyfarwyddiadau ar sut i'w osod ar gael o wefan Meddal.com Ydy'ch ysgol leol yn defnyddio'r Gymraeg? 🤔 000
Meddal.com @meddal.com · 23/09/2026Mapio Cymru 🏴 Project cyffroes i fapio Cymru yn Gymraeg ar sail cynllun mapio OpenStreetMap. Hawdd ei ddefnyddio a chyfrannu manylion enwau strydoedd a phentrefi yn eich ardal chi ato Beth amdani? 😀 Gwefan: mapio.cymru #GwneudNidDweud 010
Meddal.com @meddal.com · 22/09/2026Google Meet 🏴 Gwasanaeth fideo gynadledda rhad Yn Gymraeg yn ddibynnol ar eich cyfrif Google. Rhaid eich bod wedi nodi'r Gymraeg fel eich prif iaith Gwefan: meet.google.com/landing?hs=193&pli=1 000
Meddal.com @meddal.com · 21/09/2026Windows 11 🏴 System weithredu ddiweddaraf Microsoft. Prif system weithredu gyfrifiadurol cartref a diwydiant ac ar gael yn Gymraeg 👍 Ydy'ch cartref, ysgol neu waith yn defnyddio'r Gymraeg? 🤔 Gwefan: meddal.com/meddal/?p=2703 010
Meddal.com @meddal.com · 18/09/2026OsmAnd 🏴 Ap mapiau a llywio iOS ac Android Creu llwybr taith, llywio a chofnodi 🚗 Gwefan: osmand.net Ap o'r AppStore a Google Play Mapiau Cymraeg manwl a diweddar: mapio.cymru 000
Meddal.com @meddal.com · 17/09/2026SumatraPDF 🏴 Darllenydd dogfennau amrywiol yn Gymraeg Mae'n agor ffeiliau PDF, eLyfrau (epub, mobi), llyfrau comic (cbz/cbr), DjVu, XPS, CHMb Gwefan: sumatrapdfreader.org 000
Meddal.com @meddal.com · 16/09/2026Geiriadur Prifysgol Cymru 🏴 Geiriadur hanesyddol o eiriau'r iaith Gwefan: geiriadur.ac.uk Ar gael ar gyfer iOS ac Android o'r AppStore a Google Play 000
Meddal.com @meddal.com · 15/09/2026To bach 🏴 Rhaglen gosod acenion Cymraeg wrth deipio Ar gael ar gyfer Windows yn unig. Gwefan: interceptorsolutions.com 000
Meddal.com @meddal.com · 14/09/2026Notepad++ 🏴 Golygydd cod a rhaglen nodiadau testun ysgafn rhad ac am ddim ar gyfer cyfrifiaduron Windows Mae'n cefnogi amryw o ieithoedd cyfrifiadurol Gwefan: notepad-plus-plus.org 000
Meddal.com @meddal.com · 11/09/2026Macsen Beta Cynorthwyydd personol ar-lein yn cynnwys mewnbwn gan ChatGTP-4. Pwy yw prif weinidog Cymru, Beth yw llefrith, A yw’r lleuad wedi ei wneud o gaws? Cofiwch y rhybuddion! Gwefan: macsen.techiaith.cymru 000
Meddal.com @meddal.com · 10/09/2026Gboard 🏴 Ap bysellfwrdd a darogan geiriau ar gyfer iOS ac Android Dewiswch y Gymraeg a'r Saesneg os am ysgrifennu Cymraeg a Saesneg cywir! 😀 Ar gael yn y Google Play ac App Store Apple 000
Meddal.com @meddal.com · 09/09/2026YouVersion Ap Beiblau a llu o gynlluniau dysgu Yn cynnwys Beiblau Cymraeg: Beibl.net, Beibl Cymraeg Newydd, Beibl William Morgan Gwefan: www.youversion.com Ar gael o'r App Store, Apple a Google Play 000
Meddal.com @meddal.com · 07/09/2026Microsoft Swiftkey 🏴 Trafferth tecsio yn Gymraeg? Defnyddiwch hwn - Cymraeg a Saesneg - llai o wallau sillafu a dryswch😀 Hawdd ei osod a'i ddefnyddio Ar gael ar gyfer Android ac iOS Gwefan: microsoft.com/en-us/swiftkey Ar gael o'r Google Play ac App Store Apple 000
Meddal.com @meddal.com · 07/09/2026Google Meet 🏴 Gwasanaeth fideo gynadledda rhad Yn Gymraeg yn ddibynnol ar eich cyfrif Google. Rhaid eich bod wedi nodi'r Gymraeg fel eich prif iaith Gwefan: meet.google.com/landing?hs=193&pli=1 000
Meddal.com @meddal.com · 07/09/2026Y byd digidol – lleisiau’r ieithoedd llai - Barn Hyrwyddo cynnwys digidol yn Gymraeg - profiad Catalonia barn.cymru/en_gb/y-byd-... (barn.cymru/en_gb/y-byd-...) 000
Meddal.com @meddal.com · 04/09/2026Homebank 🏴 Angen cadw trefn ar eich gwario/edmygu'r pentwr gloyw? Defnyddiwch HomeBank yn Gymraeg i reoli eich gwariant. Wrth gwrs, mae am ddim! 😀 Gwefan: gethomebank.org Meddal: meddal.com/meddal/?page_id=2206 000
Meddal.com @meddal.com · 03/09/2026Geiriadur Bangor 🏴 Geiriadur cyffredinol Cymraeg/Saesneg ar-lein Mae'n cynnwys y termau diweddaraf. Gwefan: geiriadur.bangor.ac.uk 000
Meddal.com @meddal.com · 02/09/2026Ystafell Ddosbarth Google Man cychwyn darpariaeth helaeth Google ar gyfer addysg yn Gymraeg Offer: Google Chromebook, porwyr gwe Gwefan: classroom.google.com 000
Meddal.com @meddal.com · 01/09/2026Meddalwedd Cymraeg 🏴 Hoffech chi sôn wrth ffrindiau, teulu, ysgolion, colegau a chyflogwyr am feddalwedd Cymraeg? Mae yna lot o raglenni ar gael yn Gymraeg ond dim llawer o wybodaeth amdanyn nhw Gwefan: Meddal.com Cysylltwch: post@meddal.com 000
Meddal.com @meddal.com · 31/08/2026WordPress 7.1 Fersiwn newydd o'r golygydd blociau sy'n symleiddio'r broses o greu cynnwys ac adeiladu blog/gwefan deniadol ac apelgar Mae'n amser diweddaru! Rhagor o wybodaeth: www.meddal.com/meddal/wordpress-7-1 Gwefan: cy.wordpress.org 000
Meddal.com @meddal.com · 28/08/2026LibreOffice 26.8 🏴 Fersiwn newydd o LibreOffice y pecyn swyddfa pwerus, yn cynnig nodweddion a datblygiadau newydd Rhagor o wybodaeth: www.meddal.com/meddal/libreoffice-2… Gwefan: cy.libreoffice.org 000
Meddal.com @meddal.com · 27/08/2026Microsoft Edge 🏴 Porwr rhagosodedig Microsoft Yn llawn nodweddion defnyddiol ar gyfer pori bob dydd Nawr yn cynnwys pwyslais ar gyfer defnyddio CoPilot, gwasanaeth AI Microsoft Byddai gwirydd sillafu Cymraeg yn handi! Gwefan: www.microsoft.com/cy-gb/edge 000
Meddal.com @meddal.com · 26/08/2026CymruFM 🏴 Platfform amlgyfrwng yw Cymru FM. Gwrandewch ar ffrwd byw radio Cymru FM i fwynhau cerddoriaeth Cymraeg drwy'r dydd, bob dydd Gwefan: www.cymru.fm 000
Meddal.com @meddal.com · 25/08/2026Raspberry Pi Projectau Codio RaspberryPi 🏴 Beth am ddysgu ragor am sut mae cyfrifiaduron yn gweithio a hanfodion cyfrifiadureg Nifer helaeth o gynlluniau difyr a diddorol i'w dilyn Gwefan: buff.ly/47V9nak 000
Meddal.com @meddal.com · 24/08/2026Anthropic Claude 🏴 Deallusrwydd Artificial arall - er fod y rhyngwyneb yn Saesneg, mae Claude yn deall cwestiynau yn Gymraeg ac yn gallu eu hateb mewn Cymraeg graenus. Gwnewch yn siŵr fod yr ateb yn gywir! 😁 Gwefan: www.anthropic.com/claude 000
Meddal.com @meddal.com · 21/08/2026Gwefan Newydd LibreOffice 🏴 Cyflwyniad newydd i becyn swyddfa, cod agored ac am ddim LibreOffice. Pecyn yn cynnwys rhaglen prosesydd geiriau, taenlen, cyflwynydd, lluniadu a chronfa. Gwirydd sillafu a chefnogaeth Cysgliad. Gwefan: cy.libreoffice.org 000
Meddal.com @meddal.com · 20/08/2026Canva 🏴 Gwasanaeth dylunio graffig ar lein sydd ar gael am ddim yn Gymraeg Gallwch ei ddefnyddio i greu postiadau cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, posteri, fideos, logos a mwy. Gwefan: canva.com 000
Meddal.com @meddal.com · 19/08/2026Wise Disk Cleaner Rhaglen glanhau disg a dad ddarnio ffeiliau. Clirio hen ffeiliau, cwcis a hanes. Creu mwy o le ar ddisg a chyflymu eich cyfrifiadur. Rhyngwyneb Cymraeg Gwefan: www.wisecleaner.com/wise-disk-clean… Offer: Windows 000
Meddal.com @meddal.com · 18/08/2026Mozilla 🏴 Dewch i adnabod un o brif gefnogwyr technoleg Cymraeg ers dros yr 20 mlynedd diwethaf Firefox, Thunderbird, Common Voice Gwefan: www.mozilla.org/cy 000
Meddal.com @meddal.com · 17/08/2026PayByPhone 🏴 Gwasanaeth hwyluso talu am barcio, costau tanwydd, gwefru ceir trydan a hysbysiadau yswiriant gyrru Modd estyn cyfnod parcio Ffi ychwanegol i'w dalu am barcio Defnydd helaeth ar draws Cymru Gwefan: www.paybyphone.co.uk Apiau: iOS ac Android 000
Meddal.com @meddal.com · 14/08/2026Zen Browser 🏴 Porwr gwe yn seiliedig ar Firefox gyda phwyslais ar breifatrwydd, cyflymder a phrofiad glân a syml Ar gael ar Windows, Apple a Linux Gwefan: zen-browser.app 010
Meddal.com @meddal.com · 13/08/2026🔭 Sky Map 🏴 Sky Map yw'ch telesgop digidol yn eich llaw! Archwiliwch y sêr, planedau a chytserau yn fyw drwy'ch ffôn Android. Cofiwch osod y Gymraeg fel eich prif iaith yng ngosodiadau Android! Gwefan: Google Play 000
Meddal.com @meddal.com · 12/08/2026💾 Rufus 🏴 Rhaglen creu USB cychwynadwy yn hawdd. Perffaith ar gyfer gosod Windows, Linux neu redeg systemau dros dro. Am ddim a chod agored! Gwefan: rufus.ie 011
Meddal.com @meddal.com · 11/08/2026Send 🏴 Gwasnaeth anfon ffeiliau mawr Pan fyddwch chi angen anfon ffeil fawr sydd dros trothwy eich darparwr e-byst, beth am ddefnyddio Send? Gwasanaeth o dan faner Thunderbird Gwefan: send.vis.ee 000
Meddal.com @meddal.com · 10/08/2026Roundcube Webmail 🏴 Gwasanaeth e-bost, calendr, cyfeiriadau ar-lein, gyda rhyngwyneb modern a nodweddion pwerus. Gan ddarparwyr masnachol neu ar eich gweinydd . Gwefan: roundcube.net 000
Meddal.com @meddal.com · 07/08/2026Linux Mint System weithredu Linux poblogaidd sy'n seiliedig ar Ubuntu Lot o adnoddau am ddim a thipyn ar gael yn Gymraeg 🏴 Yn cynnwys Firefox, Thunderbird, LibreOffice a llawer mwy Gwefan: linuxmint.com 000
Meddal.com @meddal.com · 06/08/2026LibreOffice 🏴 Rhaglen offer swyddfa poblogaidd ac am ddim - yn Gymraeg! Nifer o nodweddion newydd Gwefan Cymraeg LibreOffice: cy.libreoffice.org Yn cysylltu â Cysgliad am Ddim a Gwirydd Sillafu 000
Meddal.com @meddal.com · 05/08/2026FreeTube - gwasanaeth gwylio fideos YouTube heb hysbysebion 🏴 Nodweddion defnyddiol eraill Gosod y Gymraeg yn y Gosodiadau Gwefan: freetubeapp.io 000
Meddal.com @meddal.com · 04/08/2026Bluesky Social - gwasanaeth negesu cymdeithasol nawr ar gael yn Gymraeg 🏴 Cyfle i rannu gwybodaeth a darllen newyddion a datblygiadau byd eang. Dewis y Gymraeg o'r gosodiadau. Apiau ar gael ar gyfer Android ac iOS Gwefan: bsky.app 000
Meddal.com @meddal.com · 03/08/2026Thunderbird Android 🏴 Caglwch eich holl gyfrifon e-bost yn un ap pwerus sy'n parchu'ch preifatrwydd a'ch rhyddid Ar gael o Google Play Gwefan: thunderbird.net/cy/mobile 000
Meddal.com @meddal.com · 29/07/2026SuperTuxKart 🏴 Gêm rasio arcêd 3D clasurol cod agored Mae’r gêm yn cynnwys amrywiaeth o gymeriadau, traciau a moddau i’w chwarae Gêm hwyliog i chwaraewyr o bob oed Gwefan: supertuxkart.net Ar gael ar Andoid, macOs, Windows a Linux 000
Meddal.com @meddal.com · 27/07/2026Cysgliad 🏴 Pecyn o raglenni gwirio sillafu a gramadeg, a geiriaduron Cymraeg/Saesneg ar gyfer cyfrifiaduron Windows ***AM DDIM*** Gwefan: cysgliad.com/cy Fideo: youtube.com/watch?v=VIRBv9M4BpQ 000
Meddal.com @meddal.com · 24/07/2026Ap Geiriaduron 🏴 Mae'r Ap Geiriaduron yn eiriadur Saesneg-Cymraeg/Cymraeg Saesneg sy’n caniatáu i chi chwilio all-lein am filoedd o eiriau Cymraeg a Saesneg Ar gyfer iPhone, iPad, Kindle ac Android. Gwefan: bangor.ac.uk/canolfanbedwyr/ap_geiriaduron.php.cy 000
Meddal.com @meddal.com · 23/07/2026LibriVox Llyfrau llafar rhyngwladol amlieithog, rhydd ac am ddim Dim ond dau becyn Cymraeg. 🏴 Beth am wrando a chyfrannu? 🗣️ Gwefan: LibriVox.org #GwneudNidDweud 000