Sign in

Emyr Lewis

@emyrlewis.bsky.social
423 followers 482 following 79 posts

Barddoni a’r Gyfraith. Yr hawl i glebran. Poetry and the Law. The right to chat.

PostsRepliesMedia
Reposted by Emyr Lewis
johnrwilliams.bsky.social @johnrwilliams.bsky.social · 03/09/2026
'"we have to be evidence-based ... really important to look at what are the costs & benefits of making change," said [Welsh SoS]... Trouble is there’s already been a huge amount of work testing the case for change which seems to have passed evidence-hungry MPs by' amanwy.blogspot.com/2026/09/ther...
amanwy.blogspot.com
There may be trouble ahead...
Sometimes it helps to look at things from the opposite point of view to your own: After a generation of devolved Government, with growing po...
2127
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/08/2026
Mae hon ar gael nawr o ddilyn y ddolen isod www.ffolio.cymru/products/978...
ffolio.cymru
Dal ar y seld neu a gawsom ni weld? Y Gymraeg, y Gyfraith a Chyfansodd
Dyma ddarlith sy'n gyfuniad o feirniadaeth lenyddol ac esbonio'r gyfraith, gan gynnig sylwebaeth dreiddgar, a chwareus ar adegau, am y Gymru gyfoes.
022
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 14/08/2026
Yr haul a fu’n ymrolio - haul anian môr goleuni Waldo, y pnawn; ond lwmpyn heno o loer sy’n ei atal o.
050
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 03/08/2026
Testun englyn y dydd fory “Sefyll ar y Sgwâr” Ebostia dy ymgais i englyn@barddas.cymru erbyn canol dydd fory Dwi’n edrych mlaen at gael beirniadu yn ystod yr Ymryson am 2.00
001
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 17/06/2026
PAXTON Yn ddi-drwst, yn ddifwstwr, yn weddus yn hedd Bro Dinefwr daw tarth i gofleidio tŵr hunan-foliant hen filwr.
072
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 12/06/2026
“What is the world, O soldiers? It’s AI: AI, this incessant snow, This northern sky; Soldiers, this solitude Through which we go’s AI.” Gydag ymddiheuriadau i Walter de la Mare
020
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 02/05/2026
“In questo interregno si verificano i fenomeni morbosi più svariati.” Dof at y seithfed o Fai - yn syber, does wybod be' wela'i; gwawr anneall, efallai? llanw a thrist? llawen a thrai?
021
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 20/04/2026
A dyma hi’r ddarlith yn barod i’w thraddodi
031
Reposted by Emyr Lewis
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd / CAWCS @yganolfangeltaidd.bsky.social · 20/04/2026
Siaradwr gwadd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2026 yw @emyrlewis.bsky.social. Bydd y ddarlith hon yn ystyried datblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol yng Nghymru dros gyfnod datganoli. Rhagor o fanylion 👇 www.uwtsd.ac.uk/cy/news/siar...
uwtsd.ac.uk
Siaradwr gwadd Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2026 yw’r Athro Emyr Lewis
Bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams ddydd Iau, 23 Ebrill 2026.
012
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 22/03/2026
Cymylau pinc Camelias. Natur yn cynganeddu heddiw.
071
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 16/03/2026
Braint cael derbyn gwahoddiad i draddodi darlith Goffa T H Parry-Williams eleni. Cyfle i gael cymryd stoc o sut mae hi arni ar y Gymraeg yn nhrefn llywodraethu Cymru erbyn hyn.
072
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 02/02/2026
Tua’r de try’r da duon - i wyneb haul Ionawr yn fodlon mewn ffordd osgeiddig ddigon ar fore oer ar y fron.
063
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 26/01/2026
Daliwch at eich tystiolaeth - yn llawn dig lle nad oes amheuaeth, dweud eich gwir am nad ŷch gaeth i bydew camwybodaeth. www.theguardian.com/us-news/vide...
theguardian.com
Minnesota shooting: protests erupt over Alex Pretti killing | The Latest
Protests have erupted across the US after federal agents shot and killed 37-year-old Alex Pretti in Minneapolis. Lucy Hough speaks to the Guardian columnist Moira Donegan
053
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 10/01/2026
Wedi Goretti O rywle oer, a’r heulwen - yn taro, fe ddaeth tair pioden, glo a chalch, tair balch dros ben i dwymo yn Llwyn Domen.
041
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 06/01/2026
Cyfarchion Nadolig hwyr o’r Tŷ Gwyn Englyn del ynglŷn â ’Dolig - ’di hwn. Un da. Bendigedig. Un deliach mwy idylig ni bu ’rioed. Mae ar y brig.
082
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 19/12/2025
Pwy ŵyr sut gall fod briallu’r gwanwyn yn gwenu Fis Rhagfyr? Pa gyffro gwallgo a’u gyrr, diniweited eu natur?
184
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 11/12/2025
Nos o goed a chysgodion - ymwelwyr dan gymylau llwydion efo’r hwyr yn crwydro’r fron yn dawel: y da duon.
0106
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 05/12/2025
Gwobr Heddwch FIFA Oes dim dry’n fwy ar stumog - na swache’r fath sychu tin taeog? Gwibio i roi gwobr i rôg, gweniaith llygad-y-geiniog.
097
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 03/12/2025
Yr Olyniaeth Y gwatwar gor-gyfarwydd - ar ein hiaith, yr un hen waradwydd bob tro yn swagro ei swydd, yn Lloegro ei haerllugrwydd golwg.360.cymru/newyddion/gw...
golwg.360.cymru
Cyfathrebu’n ddwyieithog: “Mae bron pawb yn siarad Saesneg”
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens wedi amddiffyn peidio â defnyddio’r Gymraeg mewn taflenni sy’n cael eu hanfon at etholwyr yn Nwyrain Caerdydd, gan ddweud bod “bron pawb yn siarad Saesneg”. A...
285
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 17/11/2025
Ymson Ysgrifennydd Cartref Mae hawliau hyd yr ymylon i bawb o ryw bobol estron Pawb a’i hawl? Fy hawl yw hon: yr hawl i fod yn greulon. Doed dydd y caffo’r Goron - reoli heb ryw hawliau gwirion; ond un hawl a gadwn, hon: Yr hawl i fod yn greulon.
01212
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 08/11/2025
A’u higam-ogam fflamgoch yn darfod yn gawod goch, dydd barn, goeden fasarn fach, yw dydd olaf dy ddeiliach.
074
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/10/2025
Cwestiwn: pa weilch a’u castiau olygodd fod blagur afalau fis Hydref yn hunllefau bach melys, brawychus, brau?
054
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/09/2025
US/UK ‘Tech Deal’ Darllened bob tro y print mân ar y diwedd. Always read the small print at the end.
020
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 17/09/2025
Y ddiwedaraf mewn llinach wael o Ysgrifenyddion Cartref anryddfrydol. Beio dioddefwyr yn hunan-gyfiawn, siarad yn galed, chwarae i’r galeri. The latest in an ignoble line of illiberal Home Secretaries. Self-righteous victim blaming, talking tough, playing to the gallery.
010
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 01/09/2025
Weithiau, mewn tir ddifethwyd, Y mae lle i gwmwl llwyd.
Mae awyr las a chymylau mecryll ac un cwmwl llwyd yn eu mysg
052
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 16/08/2025
Dau geiliog gyda’i gilydd - dau gegog, dau geiliog digwilydd, dau geiliog ffond o gelwydd gwneud caniad heb doriad dydd.
43218
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 13/08/2025
ubi solitudinem faciunt pacem appellant Lle bu teulu, tawelwch - lle bu tŷ, bwlch tawel. A welwch furiau llosg dan gefnfor llwch, dan huddug? Dyna heddwch.
082
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 04/08/2025
Edrych mlaen at gael beirniadu cystadleuaeth englyn y dydd eto eleni yn ystod yr Ymryson gan ddechrau fory am 1.00 yn y Babell Lên. Bydd Barddas yn cyhoeddi’r testun cyntaf am 3.00 pnawm ma. Os bydd y cynnyrch hanner cystal â llynedd bydd hi’n annodd dewis ond bydd gwledd o’n blaenau.
000
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 04/08/2025
Edrych mlaen at gael beirniadu cystadleuaeth englyn y dydd eto eleni yn ystod yr Ymryson gan ddechrau fory am 1.00 yn y Babell Lên. Bydd Barddas yn cyhoeddi’r testun cyntaf am 3.00 pnawn ma. Os bydd y cynnyrch hanner cystal â llynedd bydd hi’n annodd dewis ond bydd gwledd o’n blaenau.
000
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 08/07/2025
Erthygl ardderchog An excellent article
010
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 07/07/2025
Deep cover sleeper
010
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/05/2025
Eisteddfod Llandudoch neithiwr. Pleser mawr oedd cael dyfarnu’r gadair i’r amryddawn Wyn Owens o Fynachlog-ddu am gywydd mawl i’r bardd o werinwraig ddysgedig o Lydaw, Anjela Duval, a heriai ‘Rym Ffrainc drwy ei chainc a’i cherdd’. Gobeithio y gwelwn ni o mewn print.
010
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 07/05/2025
“My friend, you would not tell with such high zest To children ardent for some desperate glory, The old Lie: Dulce et decorum est Pro patria mori.”
042
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 01/05/2025
Syml ond effeithiol - gwrthwynebu'r dde eithafol yn Slofacia www.theguardian.com/commentisfre...
theguardian.com
In Slovakia, our grassroots movement helped oust a neo-Nazi. We can do it again | Alexandra Bitušíková
Professor Alexandra Bitušíková explains how face-to-face local activism was crucial in bringing down the neo-Nazi People’s Party Our Slovakia
022
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 01/03/2025
Lines penned two days after the presentation by the Prime Minister of the United Kingdom Sir Keir Starmer of a letter of invitation from His Majesty King Charles the Third to the President of the United States of America Mr. Donald J. Trump.
010
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 25/02/2025
Mae rhywbeth yn gorffen heno. Darfod. Daw arfau amdano i’w gymryd o’r byd. Da bo.
020
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 22/02/2025
Mulfran lon fry uwch cronfa - Lliw Isaf yn llaes wacsymera’n yr haul nawr, a holi wna, â sgytwad, “Shwt ma’r ‘sgota?”
000
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/02/2025
Fis Ionawr rhoddais dystiolaeth i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar agweddau Cymreig y Terminally Ill Adults (End of Life) Bill. Mae’r blog (Saesneg) hwn yn ymdrin â rhai o’r materion cyfansoddiadol a gymhlethir gan y ffaith fod Senedd Cymru wedi pleidleisio yn erbyn egwyddorion y Bil.
086
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 18/02/2025
In January I gave evidence to the House of Commons Committee scrutinising the Terminally Ill Adults (End of Life) Bill. This blog expands on some of the constitutional issues raised, complicated by the fact that the Welsh Parliament voted against the principles of the Bill.
135
Reposted by Emyr Lewis
Wales Governance Centre | Canolfan Llywodraethiant Cymru @walesgovernance.bsky.social · 18/02/2025
NEW: @emyrlewis.bsky.social explores the unique position of Wales in the UK-wide debate about assisted dying, where drafting of legislation for the unified 'England & Wales' jurisdiction needs to navigate devolved and reserved competencies for Welsh & UK Govts. blogs.cardiff.ac.uk/thinking-wal...
blogs.cardiff.ac.uk
Assisted Dying: No such Bill could be introduced in Senedd Cymru
Emyr Lewis, Emeritus Professor of Law at Aberystwyth University, gave evidence to the legislation committee about Wales-specific aspects of the Terminally Ill Adults (End of Life) Bill in their las…
048
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 17/02/2025
Lines penned on the occasion of Baron Mandelson’s public self-abasement before the President of the United States, Mr. Donald J. Trump
132
Reposted by Emyr Lewis
R S Thomas (poet) @rsthomaspoet.bsky.social · 09/02/2025
Shwmae, os dych chi'n mwynhau #RSThomas, falle bydd diddordeb gyda chi yn dilyn @RSThomaspoet ar Bluesky, ac yn facebook.com/groups/RSThomas/ - rhannu pethau gan RS Thomas, neu am RS Thomas. Hefyd mae ‘na gymdeithas: rsthomaspoetry.co.uk/rs-thomas-me-eldridge-society/ …plîs ail-bostio?
facebook.com
Redirecting...
001
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 09/02/2025
Fel y dylai R. S. Thomas fod wedi dweud As R. S. Thomas should have said To live in Wales is to be conscious At dusk of the spilled pass That went into the making of the ninth try
184
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 05/02/2025
020
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 26/01/2025
Yn Aber roedd llawnder y lli heddiw yn chwyddo a chronni yn dynn ei swmp, hyd nes i fur hallt y cefnfor hollti.
050
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 23/01/2025
coeden unig a’i brigau - a rheiny’n ymrannu’n frigfrigau fin hwyr, a’r gwyll yn dyfnhau, yn dal y lleuad olau.
0112
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 21/01/2025
The Senedd general election in May next year might help assess how realistic a control mechanism PR might be. www.theguardian.com/commentisfre...
theguardian.com
There's a way to beat a far-right takeover in the UK. So why has Starmer gone silent about it? | Polly Toynbee
With Trump back in the White House, democracy is in danger across the west. Electoral reform is the best way to protect it, says Guardian columnist Polly Toynbee
111
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 14/01/2025
Ce n’est pas chouette: Nourrir les mouettes Embête la ville de bains! Alors, ne jette Ni cacahuètes Ni, je répète, du pain.
163
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 07/01/2025
Gwell ap Negative na Dr. Pangloss
000
Emyr Lewis @emyrlewis.bsky.social · 29/12/2024
Mae rhaglen Sgwrs dan y Lloer heno efo Noel Thomas ar @s4c yn arbennig. Rarglwydd, mae’r dyn yna wedi cael cam ac mor urddasol a graslon, ond cadarn, wrth ymdopi â’r peth.
0102