Reposted by Cylchgrawn BarnEben Muse @ebenmyrddin.bsky.social · 08/09/2026S'dim byd yn well na gweld dy waith mewn print 📖 @cylchgrawn-barn.bsky.social 021
Reposted by Cylchgrawn BarnEben Muse @ebenmyrddin.bsky.social · 08/09/2026Nothing beats seeing your work in print! 📖 @cylchgrawn-barn.bsky.social 031
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/07/2026Beth mae’n ei olygu i dyfu i fyny ym mro’r Preseli? Fel rhan o’n hadran arbennig sy’n canolbwyntio ar ardal y Garreg Las, mae Fflur James yn rhannu ei hatgofion personol am y fro a’i dylanwad arni, a beth sy’n ei gwneud mor arbennig yn ei barn hi. Beth sy’n tynnu pobl yn ôl yno dro ar ôl tro? 110
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/07/2026Awydd mynd ar grwydr yn ystod wythnos yr Eisteddfod? Mae’r hanesydd lleol Hedd Ladd-Lewis yn ein tywys ar bedair taith gerdded yng ngogledd Sir Benfro gan ddilyn afon Nyfer. Mewn car neu ar droed, cewch ddigon o olygfeydd, hanes a chwedloniaeth i’ch hudo ar y ffordd. 🔗 barn.cymru/cy/dilyn-afo...barn.cymruDilyn Afon Nyfer – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 011
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/07/2026Mae’n 50 mlynedd ers sefydlu Undeb Myfyrwyr Colegau Bangor. Yn y rhifyn diweddaraf, cawn ragflas o lyfr newydd Arwel Vittle am UMCB a’u brwydr dros hawliau iaith – pennod sy’n edrych yn ôl ar un o’u gweithredoedd mwyaf herfeiddiol yn erbyn awdurdodau’r coleg. barn.cymru/cy/diflaniad...barn.cymruDiflaniad y ffeiliau – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 20/07/2026Sut mae Ewrop yn gweld y datblygiadau gwleidyddol diweddar ym Mhrydain? Mae ein colofnydd Mared Gwyn yn cynnig persbectif Ewropeaidd ar y newidiadau. Wrth i brif weinidog newydd gydio yn yr awenau, darllenwch ei cholofn ddiweddaraf, lle mae’n edrych yn ôl ac ymlaen. barn.cymru/cy/y-sioc-o-...barn.cymruY sioc o golli Starmer – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/07/2026Ydi’r haul yn eich denu allan i fwyta y dyddiau yma, fin nos efallai wedi i wres y dydd gilio? Darllenwch argymhellion ein colofnydd gwin, Shôn Williams, am y gwinoedd delfrydol i’w hyfed allan yn yr awyr agored, gyda bwyd oddi ar y barbeciw. 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/07/2026Ai Andy Burnham yw’r gwleidydd all dorri’r mowld arferol ar gyfer prif weinidogion y DU? Y cyn-AS Hywel Williams sy’n pwyso a mesur – ac yn rhannu ei atgofion o dreulio prynhawn yng nghwmni Burnham wrth wylio Trooping the Colour. barn.cymru/cy/andy-burn...barn.cymruAndy Burnham – Mr Awyr Iach y Gogledd? – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/07/2026Croeso i golofnydd newydd Barn! Mae Esyllt Nest Roberts yn ymuno â’r tîm y mis hwn, ac mae ei cholofn gyntaf ar gael *am ddim* ar ein gwefan. 🔗 barn.cymru 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/07/2026Yn rhifyn yr haf, mae Elinor Wyn Reynolds yn adolygu ffilm sydd wedi creu tipyn o fwrlwm yng Nghymru a thu hwnt. Gan aros yn Blaena, mae hi hefyd yn rhoi ei hargraffiadau o raglen ddogfen ‘Eigra’ (S4C, 24 Gorffennaf) am un o freninesau’r dref – y llenor a’r bardd Eigra Lewis Roberts. @s4c.cymru 111
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/07/2026Prynwch gopi o Barn am gyfle i ennill taleb werth £100 i’w gwario yn Canna Deli! Mae’r caffi Cymreig poblogaidd yma wedi’i leoli ym Mhontcanna, Caerdydd, ychydig gamau o siop lyfrau Caban, lle gallwch brynu’ch copi o Barn. Rhowch gynnig ar y cwis yn rhifyn diweddaraf Barn. 110
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 15/07/2026Pam y diflannodd Cymru oddi ar radar y cyfryngau Llundeinig bron dros nos? Mae @richardwynjones.bsky.social yn cynnig ei ddadansoddiad miniog, gan roi ei farn ddi-flewyn-ar-dafod ar adain o’r Blaid Lafur yng Nghymru. Ar gael i’w darllen am ddim: barn.cymru/cy/llafur-a-... ac @ambobdim.bsky.social 244
Reposted by Cylchgrawn BarnAnt Evans @ant1988.bsky.social · 15/07/2026Ar ôl clywad mor wych oedd yr adolygiad o Lyfr Agored yn @cylchgrawn-barn.bsky.social, rhaid oedd sicrhau copi. Hefyd wedi prynu copi o Raglen yr Eisteddfod. Yn awyddus i weld sut byddaf yn treulio fy amsar rhwng digwyddiadau i hyrwyddo Llyfr Agored. Welai chi yno! @ylolfa.bsky.social 022
Reposted by Cylchgrawn BarnGwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 13/07/2026📖 Catrin o Ferain: Mam Cymru Bu sylw i gyfrol Helen Williams-Ellis yn y wasg yn ddiweddar, gyda chyfweliad yng nghylchgrawn @golwg.cymru ac adolygiad yn rhifyn newydd @cylchgrawn-barn.bsky.social. Dewch o hyd i gylchgronau Golwg a Barn, a 'Catrin o Ferain: Mam Cymru' yn eich siop lyfrau leol! 111
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 12/07/2026Mae rhifyn dwbl yr haf wedi glanio! Ar y clawr, mae Mirain Iwerydd o flaen murlun newydd yng Nghrymych gan Lloyd the Graffiti. Tu mewn, mae’n trafod ei pherthynas â’i gwreiddiau ym mro’r Preseli - un o nifer o erthyglau difyr mewn adran arbennig ar ardal y Garreg Las. 📷 Emyr Young 🔗 barn.cymru 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/06/2026Sut mae cyflwyno gwleidyddion a’u negeseuon ar-lein? Tane Rogers-Eirug sydd ar glawr Barn Mehefin a’r tu mewn, mewn cyfweliad efo Gwenfair Griffith, mae’r cynhyrchydd cynnwys yn trafod ei ran yn ymgyrch etholiadol lwyddiannus Plaid Cymru. Ar gael am ddim ar wefan barn.cymru @gwenfair.bsky.social 110
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/06/2026Dyma Shôn Williams yn recordio’i golofn win fisol fel rhan o’n prosiect #ErthyglauLlafar Ar ôl mwynhau cinio hir ym mwyty tapas Ultracomida yn Arberth, mae Shôn yn argymell gwinoedd o Sbaen a grawnwin y Grenache a’r Godello… 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 16/06/2026Ar ôl dechrau arbrofol ac amhroffidiol yn 1946, prin y byddai neb wedi rhagweld y byddai WNO yn byw i ddathlu ei 80fed pen-blwydd. Geraint Lewis sy’n olrhain hanes lliwgar y cwmni dros y degawdau yn rhifyn Mehefin. 🔗 barn.cymru/cy/culhau-go...barn.cymruCulhau gorwelion wrth gyrraedd carreg filltir – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 16/06/2026Mae albwm pync lo-ffei a recordiwyd mewn seler yn Llundain wedi ailymddangos ar ôl bod ar goll am 30 mlynedd. Yn rhifyn Mehefin, Jerry Hunter sy’n hel atgofion am recordio’r gerddoriaeth yn y 1990au, a sut mai dim ond rwan mae’r albwm wedi cael ei rhyddhau… 🎸 barn.cymru/cy/hanes-yr-...barn.cymruHanes yr albwm coll – BarnMae angen tanysgrifio i weld holl gynnwys yr erthygl. Mae’n ddrwg gennym, ond mae’r cynnwys hwn ar gael… 010
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 13/06/2026Un o’r nifer o straeon rhyngwladol sy’n cael sylw yn rhifyn Mehefin yw’r argyfwng yn Ciwba. Russell Isaac sy’n trafod y gwarchae economaidd parhaus ar yr ynys gan yr Unol Daleithiau, ac effaith y polisi hwnnw ar fywyd bob dydd y trigolion. 🔗 barn.cymru/cy/y-sigar-s... 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 09/06/2026Yn rhifyn Mehefin, mae erthygl grafog gan Meic Birtwistle, ‘Chwedl y ddau Keir’. Gan edrych ar y Blaid Lafur o safbwynt Keir Hardie a Keir Starmer, mae’n cynnig dadansoddiad o sefyllfa bresennol y blaid, ac yn archwilio beth, yn ei farn ef, sydd wedi arwain at ei chwalfa ddiweddar yng Nghymru. 202
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 06/06/2026Ar ôl dros chwarter canrif o drin a thrafod y byd a’i bethau rhwng cloriau Barn, mae @becabrown.bsky.social yn camu o’r neilltu fel colofnydd i ymgymryd â’i rôl newydd fel aelod o’r Senedd. Diolch o galon, Beca, am dy gyfraniad gwerthfawr dros y blynyddoedd barn.cymru/cy/ffarwel/ #darllenamddim 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 04/06/2026Ar 1 Mehefin eleni, byddai Marilyn Monroe wedi troi’n 100 oed. Yn rhifyn Mehefin, mae gennym erthygl dreiddgar gan Ceri Williams am yr actores eiconig a’i gyrfa eithriadol. Tybed beth fyddai wedi digwydd pe bai hi wedi cael y cyfle i ailddiffinio ei hun? barn.cymru/cy/yr-anallu... 100
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 03/06/2026Yn rhifyn Mehefin, mae Aur Bleddyn yn rhannu ei hargraffiadau o gyfraniad Cymru at y Biennale yn Fenis eleni, sef arddangosfa Sownd: ffrwyth cydweithrediad rhwng Manon Awst a Dylan Huw, ag Oriel Davies ac Oriel Myrddin yn bartneriaid. Mae’n archwilio’r cysylltiad rhwng iaith, diwylliant a thir. 131
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 03/06/2026Troi ei olygon yn ôl at ganlyniadau etholiad y Senedd fis diwethaf mae @richardwynjones.bsky.social y mis hwn. Mae’n cynnig ei ddadansoddiad craff o’r ddaeargryn wleidyddol sydd wedi newid tirlun gwleidyddol Cymru, gan archwilio’r heriau sy’n wynebu Plaid Cymru bellach. barn.cymru/cy/dim-gorff... 114
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 02/06/2026✨Mae rhifyn mis Mehefin allan ac yn llawn erthyglau difyr, gyda’r etholiad yn thema gref. Ar y clawr mae’r cynhyrchydd cynnwys Tane Rogers-Eurig (📷Dan Shearer). Darllenwch gyfweliad @gwenfair.bsky.social gyda Tane am ddim: barn.cymru/cy/sut-i-enn... a cholofn olaf un @becabrown.bsky.social i Barn. 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 18/05/2026Yn rhifyn Mai, mae Catrin Evans yn sôn am sut iddi gael ei hysbrydoli yn ddiweddar gan straeon menywod a fu ar flaen y gad yn ymgyrchu dros y Gymraeg. Darllenwch y golofn lawn yn rhifyn Mai. Sonia hefyd am waith amhrisiadwy @amc-waw.bsky.social 🔗 barn.cymru/cy/menywod-a... 010
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 18/05/2026Mae yna ryddhad ym Mrwsel wedi ethol Prif Weinidog newydd gan ddod â theyrnasiad Victor Orbán i ben. Ond am ba hyd y bydd hynny'n para? Dyna gwestiwn Mared Gwyn wrth weld arwyddion mewn sawl gwlad o dwf pleidiau eithafol. Darllenwch ei cholofn yn llawn yn rhifyn mis Mai.🔗 barn.cymru/cy/a-ddaw-or... 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 18/05/2026Oes angen deddf diwylliant arnom? Lefi Gruffudd sy’n ymateb i’r papur gwyrdd ar ddiwylliant yn rhifyn Mai. ✍️ Darllenwch ei erthygl am ddim ar ein gwefan. 🔗 barn.cymru/cy/delfrydia... #darllenamddim 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 18/05/2026Gyda Rhun ap Iorwerth a’i dîm bellach wedi camu i’r pumed llawr yn Nhŷ Hywel yn y Bae, mae Ieuan Wyn Jones yn rhannu ei fewnwelediad personol i’r newid byd sy’n wynebu unrhyw blaid sy’n symud o feinciau’r gwrthbleidiau i fod wrth y llyw. ✍️ Darllenwch yr erthygl lawn ar 🔗 barn.cymru/cy/yr-her-o-... 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 18/05/2026Mae rhifyn Mai yn cynnwys erthygl ar y rhyfel yn Sudan gan yr awdur Eurgain Haf, sy’n gweithio i @savethechildrencymru.bsky.social yn sgil ymddangosiad ffilm animeiddiedig bwerus newydd gan yr elusen am effaith ddinistriol y gwrthdaro ar fywydau plant a theuluoedd. ✍️ 🔗 barn.cymru/cy/sudan-yr-... 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 06/05/2026Mae @richardwynjones.bsky.social yn cyfadded mai ysgrifennu colofn mis Mai mewn blwyddyn etholiadol yw’r rhan anoddaf o’i waith fel un o’n colofnwyr, ond mae’n ffyddiog ei fod wedi canfod tir sefydlog i sefyll arno y tro hwn... ✍️ Darllenwch ei erthygl am ddim ar barn.cymru 001
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 01/05/2026✨ Mae rhifyn Mai allan. Ar y clawr, mae’r wyneb cyfarwydd Wyre Davies, a’r tu mewn mae Peredur Lynch yn ei holi am fyd y gohebydd rhyfel. Mae @richardwynjones.bsky.social wedi gorfod llunio’i druth cyn etholiad dydd Iau, ac mae Lefi Gruffudd yn trafod y Papur Gwyrdd ar ddiwylliant. ✍️ barn.cymru 022
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 28/04/2026Pan fo bydoedd yn cwrdd ✨ Un o’n herthyglau AM DDIM y mis yma yw cyfweliad gyda’r bardd a’r awdur Nia Morais - stori’r clawr. Yn y sgwrs, mae Menna Baines yn ei holi am ei chyfrol newydd o gerddi, Yn y Freuddwyd, ac yn trafod beth sy’n ei hysgogi fel bardd 🔗 barn.cymru 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/04/2026✍️ ⚽️ Mae colofn chwaraeon fisol Derec Llwyd Morgan yn rhoi sylw i’r Elyrch y mis yma, ac ymweliad un o fuddsoddwyr newydd y clwb â Stadiwm Swansea.com 🔗 barn.cymru #abertawe #swanseacity 011
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 19/04/2026Darllenwch Barn yn unrhyw le! Ewch draw i’n gwefan i bori, a thanysgrifio am flwyddyn o gynnwys difyr! Cliciwch ar 🔗 barn.cymru yn ein bio. £50 am brint a digidol, a £35 am ddigidol yn unig #gwefanBarn #gwefannewydd #darllenamddim #Barnyndyboced #tanysgrifiad 001
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 17/04/2026Yn ein hadran goffa’r mis hwn, mae Peredur Lynch a Dennis Roberts yn cofio un o’n hawduron mwyaf cynhyrchiol, Eigra Lewis Roberts. Ceir teyrngedau hefyd i’r newyddiadurwr a’r awdur Alun Gibbard, a’r llyfrgellydd a’r ysgolhaig Cledwyn Fychan. 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 17/04/2026Wrth i etholiad y Senedd nesáu, gobaith Siân Shakespear yw y bydd sylw canolog yn cael ei roi i’r argyfwng newid hinsawdd a natur. Ac mae menter un criw yn y canolbarth yn enghraifft dda o’r hyn gall pobl ei wneud ar lawr gwlad i liniaru newid hinsawdd drwy adfer byd natur. RhifynEbrill 🔗 barn.cymru 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 17/04/2026Darllenwch ddarn dadansoddol Guto Harri, sy’n ymateb i lyfr newydd y newyddiadurwr Will Hayward, yn rhifyn Ebrill. Mae Guto yn ategu darlun damniol y gyfrol o gyflwr Cymru - sefyllfa sy’n gosod her sylweddol i Blaid Cymru os mai nhw fydd wrth y llyw o fis Mai ymlaen. ✍️ @willhaycardiff.bsky.social 1145
Reposted by Cylchgrawn BarnRichard Wyn Jones @richardwynjones.bsky.social · 13/04/2026DARLLEN AM DDIM @cylchgrawn-barn.bsky.social Teimlo'n amserol heddiw, rhywsut! barn.cymru/en_gb/rhwng-...barn.cymruRhwng Putin a Trump – BarnO Estonia i’r Almaen ac o wlad Pwyl i Norwy, mae gwleidyddion a dinasyddion yn ymgodymu â’r ffaith… 021
Reposted by Cylchgrawn BarnAm @ambobdim.bsky.social · 07/04/2026📖 @cylchgrawn-barn.bsky.social 📰Pan fo bydoedd yn cwrdd ✍️Darllenwch yr erthygl gan Menna Baines o rifyn diweddaraf Barn am ddim ar Am nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...ambobdim.cymruPan fo bydoedd yn cwrdd - AmbobdimMae NIA MORAIS, cyn-Fardd Plant Cymru, newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o gerddi. Bu Barn yn ei holi am yr hyn sy’n ei hysgogi fel bardd. Teitl cyfrol newydd Nia Morais yw Yn y Freuddwyd, ac mae’r c... 022
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 03/04/2026Darllenwch argraffiadau Ceridwen Lloyd-Morgan o’r arddangosfa ‘Hardd a Hynod,’ sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyn o bryd tan 28 Mehefin - arddangosfa unwaith mewn cenhedlaeth o waith yr artist Gwen John. #rhifynebrill #CelfCymreig #gwenjohn 🖼️ 010
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 02/04/2026AM DDIM ar ein gwefan y mis yma, mae Richard Wyn Jones yn trafod sut mae gwleidyddion a dinasyddion o Estonia i'r Almaen ac o Wlad Pwyl i Norwy yn ymgodymu â realiti geowleidyddol newydd ein byd. #darllenamddim #rhifynebrill 🔗 barn.cymru @richardwynjones.bsky.social 023
Reposted by Cylchgrawn BarnRichard Wyn Jones @richardwynjones.bsky.social · 02/04/2026Rhywbeth newydd genna'i i'w ddarllen os oes amser dros benwythnos y Pasg... Darllen *am ddim* i'r cybyddion yn eich mysg - ond yn werth tanysgrifio i @cylchgrawn-barn.bsky.social! barn.cymru/cy/rhwng-put...barn.cymruRhwng Putin a Trump – Barn 022
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 01/04/2026Mae rhifyn mis Ebrill yn y siopau! Mae’n cynnwys cyfweliad gyda’r bardd a’r awdur Nia Morais, sef stori’r clawr y mis hwn. ✍️ Yn y rhifyn hefyd, mae Geraint Lewis yn mapio gyrfa ddisglair y cyfansoddwr o Bont-y-pŵl, Huw Watkins, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant eleni. 🎼 🔗 barn.cymru 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 15/03/2026Mae un o arwyr tawel y byd canu cyfoes Cymraeg yn cael ei gofio yn ein hadran goffáu mis yma. Eurof Williams sy’n talu teyrnged i’r curadur roc a phop dylanwadol ac uchel ei barch, Gari Melville. #garimelville #miwsigcymru 000
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 15/03/2026Yn ei darn diweddaraf i Barn mae Lowri Cooke yn mynd â ni i #Abertawe i adolygu bwyty #TheShed sy’n rhoi pwyslais ar seigiau a chynnyrch lleol a thymhorol. Gallwch hefyd wrando ar ei hadolygiad drwy gysylltu â ni i gael y fersiwn sain. Dyma hi’n recordio yn stiwdio #LlyfrauLlafar #ErthyglauLlafar 001
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 15/03/2026Mwynhau darnau meddylgar a difyr, ac am ddysgu am wyddoniaeth? Darllenwch golofn fisol Deri Tomos, a gallwch wrando arni fel rhan o’n menter #ErthyglauLlafar🎧 Dyma fo’n ei recordio mewn stiwdio y mae wedi’i hadeiladu ei hun yn ei gartref… #AI, #tafodartiffisial #haneshynafol #astronomeg ✨ 001
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 10/03/2026Dr Dafydd Jones sy’n sôn am ddarganfod darn o waith yr artist Ceri Richards oedd wedi bod o’r golwg ers y 30au. Darllenwch yr erthygl gyfan am ddim ar barn.cymru. Roedd Dafydd ar Dros Ginio heddiw yn trafod y darn fel enghraifft o waith Richards yn ymateb i fyd oedd mewn rhyfel (40.46 munud). 011
Cylchgrawn Barn @cylchgrawn-barn.bsky.social · 09/03/2026Tony ac Aloma sydd ar glawr rhifyn Mawrth i nodi marwolaeth ddiweddar Tony Jones. Y tu mewn i gloriau’r rhifyn, Dafydd Iwan a Graham Jones sy’n coffáu’r canwr o Fôn, gan fyfyrio ar ei arwyddocâd i gerddoriaeth bop Cymru a’i ddawn fel canwr a saer geiriau. 🎙️ Diolch i BBC Cymru am lun y clawr. 011