Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026Mae Aelodau o’r Senedd wedi dewis Kerry Ferguson AS fel Dirprwy Lywydd y Senedd. 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026Mae Rhun ap Iorwerth AS wedi ei enwebu gan y Senedd i ddod yn Brif Weinidog Cymru. 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/05/2026Mae Aelodau o’r Senedd wedi ethol Huw Irranca-Davies AS yn Llywydd. 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 07/05/2026Mae diwrnod yr etholiad yng Nghymru wedi cyrraedd. Mae Cymru’n dewis. Coda dy lais. 🕖 Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 22.00 i’ch galluogi i fwrw eich pleidlais yn etholiad y Senedd. 033
Senedd Cymru @senedd.cymru · 03/05/2026Gydag etholiad y Senedd yn digwydd ar 7 Mai, efallai eich bod chi'n meddwl tybed pwy yw’r ymgeiswyr yn eich ardal chi a ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy, swyddogol amdanyn nhw 👉 senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 02/05/2026Mae eich etholaeth wedi newid ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Defnyddiwch y map rhyngweithiol a nodwch eich cod post i weld beth yw eich etholaeth newydd. etholaeth.senedd.cymru 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/05/2026Cynhelir Etholiad y Senedd ar 7 Mai. Os ydych chi’n pleidleisio wyneb yn wyneb, bydd y gorsafoedd pleidleisio yn agored o 7 yb tan 10 yr hwyr. Mae rhagor o wybodaeth yma: www.electoralcommission.org.uk/cy/p… 023
Senedd Cymru @senedd.cymru · 29/04/2026Diwrnod etholiad y Senedd yw dydd Iau, 7 Mai 2026. Os byddwch yn pleidleisio mewn gorsaf, gallwch gael gwybod yn gyflym ble mae eich gorsaf bleidleisio leol. www.electoralcommission.org.uk/cy/p… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/04/2026Fyddwch chi’n pleidleisio ar 7 Mai? P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf, neu efallai eich bod chi’n chwilio am ganllaw clir, fe wnawn ni ddangos i chi sut mae etholiad y Senedd yn gweithio – cam wrth gam. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 27/04/2026I weld enwau’r ymgeiswyr sy’n sefyll yn dy ardal, dylet fynd i wefan dy gyngor lleol i ddod o hyd i’r rhestr lawn 👉 bwrwpleidlais.cymru/gwybodaeth-am-b… 001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 20/04/2026Os ydych chi am bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, rhaid i chi fod wedi cofrestru erbyn 11:59pm heddiw, 20 Ebrill 2026. Cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio 012
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/03/2026Ar ôl i Undeb Rygbi Cymru roi tystiolaeth i Bwyllgor Chwaraeon y Senedd ar 26 Chwefror, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y sefydliad i nodi ei bryderon. Darllenwch mwy: busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryH… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/11/2025Gyda amseroedd aros hir a dim digon o gymorth clinigol ar gael, clywodd Pwyllgor Iechyd y Senedd fod llawer o bobl yn wynebu effaith oedi triniaeth gofal llygaid. Mae'r Pwyllgor yn galw am weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol, er mwyn atal oedi pellach - bit.ly/44gO6Jh 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 24/10/2025Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw. Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn: bit.ly/3O8po4J 060
Senedd Cymru @senedd.cymru · 09/10/2025Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau. Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin â chamwybodaeth a dod â chymunedau ynghyd. bit.ly/4pWrUgt 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/10/2025Rhannwch eich barn! Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael. Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud eich dweud: 👉 bit.ly/42rnLar 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/10/2025Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle. O ddiwrnod y bleidlais i’r cerrig milltir sy’n dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredol—y ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. bit.ly/42hYLCu 001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/10/2025Mae’r Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw. Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/09/2025Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth. Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: bit.ly/421Qi5U 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/09/2025Yr Aelodau yn holi’r Prif Weinidog yn FMQs heddiw. Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru. Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=15365&Ver=4 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 21/09/2025Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd? Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 19/09/2025Mae Aelodau o’r Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau – 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal. Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn i’r Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. bit.ly/3Vq5whB 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 18/09/2025Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a daw’n Ddeddf gan Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru. Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. bit.ly/3UOdNeT 001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 17/09/2025Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru. Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith. 🔗 bit.ly/46pobjP 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 16/09/2025Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio. Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar ôl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. bit.ly/3K8I0Df 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 16/09/2025Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty. Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fyw’n annibynnol eto. bit.ly/3K8I0Df 001
Senedd Cymru @senedd.cymru · 15/09/2025Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn ôl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio. Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion. Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. bit.ly/3I6rWRY 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/09/2025Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth. Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: bit.ly/421Qi5U 012
Senedd Cymru @senedd.cymru · 10/09/2025Gallai Bil newydd drawsnewid teithio â bysiau yng Nghymru. Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil – ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef. Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. bit.ly/3I6rWRY 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 08/09/2025Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n pleidleisio ar y newidiadau mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un. P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. bit.ly/40Ycmhx 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 06/09/2025Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd? Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen… 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 05/09/2025Oeddech chi’n gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026? ✍️Y ffordd rydych chi'n ethol pwy sy’n eich cynrychioli 🗺️Sawl Aelodau sy'n eich cynrychioli 📅Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli Pob dim sydd angen i chi wybod ⬇️ bit.ly/4fU8kev 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 04/09/2025Ydych chi erioed wedi clywed am D'Hondt? O 2026 ymlaen, bydd y fformiwla hon yn siapio'r Senedd. Mae'n dyrannu seddi mewn rowndiau, gan gydbwyso pleidleisiau a chynrychiolaeth. Dyma beth mae hyn yn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru. bit.ly/421Qi5U 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 02/09/2025Pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid y ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf. Roedd y bleidlais yn 37 i 13. Bydd y Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ffi fach am aros dros nos mewn llety ymwelwyr. Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/4g5WwHV 021
Senedd Cymru @senedd.cymru · 01/09/2025Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol. Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-sen… 021
Senedd Cymru @senedd.cymru · 30/08/2025Ym mis Gorffennaf, pasiodd y Senedd gyfraith i wneud hen fwyngloddiau a chwareli yn fwy diogel. Mae'n creu awdurdod newydd i asesu a rheoli'r safleoedd hyn, gan leihau risgiau o dirlithriad. Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/3UOdNeT 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 29/08/2025Mewn sesiwn ddiweddar o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, holodd yr Aelodau’r Prif Weinidog ynghylch darparu gwasanaethau iechyd hanfodol—ac a yw pobl Cymru yn gweld unrhyw newid gwirioneddol. Beth gafodd ei ofyn? Darllenwch fwy am y sesiwn ar ein gwefan. bit.ly/4fQYL1E 010
Senedd Cymru @senedd.cymru · 28/08/2025Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi dod yn un o Ddeddfau Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru. Gallwch weld y Ddeddf yn llawn a’r hyn y mae’n ei olygu ar ein gwefan. bit.ly/45BOins 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 27/08/2025Ar ôl degawd fel Llywydd y Senedd, mae Elin Jones AS yn camu’n ôl o’r rôl ar ôl etholiad 2026. Wrth i’w thymor olaf ddirwyn i ben, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol i fyfyrio ar ddeng mlynedd yng nghadair y Senedd—a’r straeon y tu ôl iddynt. 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 26/08/2025Bydd etholiad y Senedd yn 2026 yn dod â’r newidiadau mwyaf ers 25 mlynedd: 96 o Aelodau, ardaloedd pleidleisio newydd, a phapur pleidleisio symlach. P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. bit.ly/40Ycmhx 022
Senedd Cymru @senedd.cymru · 04/06/2025Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Amgueddfa Cymru i ganiatáu iddi ddarparu teithiau tanddaearol yn Amgueddfa Lofaol Cymru (Big Pit) yn rhad ac am ddim. A ydych chi'n cytuno y dylai'r teithiau fod yn rhad ac am ddim? 110
Senedd Cymru @senedd.cymru · 02/04/2025Oeddech chi’n gwybod? Mae ysbytai, ysgolion a thrafnidiaeth i gyd yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru i bobl Cymru. Yn 2026, bydd gan y Senedd 96 Aelod, i oruchwylio’r meysydd pwysig hyn a’ch cynrychioli chi a’ch cymuned. 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 31/03/2025Gan ddymuno #EidMubarak i bawb sy'n dathlu Eid al Fitr yng Nghymru a ledled y byd 🌙 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 13/03/2025“Rhaid i wleidyddion ymddwyn mewn ffordd weddus a gonest. O beidio a gwneud hynny, dylen nhw fod yn atebol i'r cyhoedd am eu gweithredoedd.” Hannah Blythyn AS, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 110
Senedd Cymru @senedd.cymru · 12/03/2025Mae’r Pwyllgor Deisebau yn galw am gymorth i athrawon i reoli ffonau mewn ysgolion. Mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen canllawiau ar athrawon i’w helpu i wneud penderfyniadau sy’n gweithio orau iddyn nhw, yn hytrach na gwaharddiad llwyr ar ffonau clyfar. senedd.cymru/senedd-nawr/... 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 11/03/2025A oes gennych chi brofiad o weithio ym maes Seiberddiogelwch? Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig i gefnogi gweithgareddau diogelwch TGCh y Senedd, a hynny er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn gallu ymateb i fygythiadau newidiol. bit.ly/3Do1X62 000
Senedd Cymru @senedd.cymru · 07/03/2025Mae hi'n wleidydd 💖 Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod #IWD, gwnaethom wahodd darpar wleidyddion benywaidd i gwrdd ag Aelodau o’r Senedd a rhannu eu profiadau ar eu taith wleidyddol. Gan weithio gyda @electheruk.bsky.social rydym am ddarparu llwybr i wleidyddiaeth i bawb 022
Senedd Cymru @senedd.cymru · 05/03/2025✨ Dathlu gwaith Menywod Arloesol Cymru Lansiwyd ein harddangosfa ddiweddaraf neithiwr yn y Senedd Cewch ddod draw i glywed hanesion 5 o Gymry arloesol, a mwynhau’r gwaith celf gwreiddiol, tan 7 Mai 🎨 111