deisebau.senedd.cymru
Deiseb: Cefnogi’r broses o ddatblygu brechlynnau i achub gwiwerod coch rhag feirws brech y gwiwerod
Mae feirws brech y gwiwerod yn angheuol i wiwerod coch. Yn ystod tymor yr hydref 2023, trafododd y Senedd y broses o ddatblygu brechlynnau: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245357 Er gwaethaf ymrwymiad hanesyddol gan Weinidogion i ymchwilio i ddichonoldeb mesurau i ddiogelu gwiwerod coch, ar ôl dwy flynedd a hanner, nid yw’r Adran Materion Gwledig wedi penderfynu sut i gyflawni prosiect dichonoldeb ar gyfer brechlyn, fel yr addawyd. Mae'n bryd bwrw ymlaen a chefnogi ymchwil arloesol newydd i frechlynnau. Ar un adeg, roedd eliffantod yn wynebu feirws angheuol, nad oedd modd ei wella. Bum mlynedd yn ddiweddarach, roedd gwyddonwyr wedi creu brechlyn: https://www.bbc.co.uk/news/articles/cjd1j02y88do Mae angen mabwysiadu’r un meddylfryd i ddiogelu gwiwerod coch.