Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 02/10/2026Dewrder, cydymdeimlad, penderfynol ac ymroddiad – dim ond rhywfaint o'r nodweddion a wnaethon ddathlu yn y Gwobrau Tîm SWP eleni! Dathlodd waith rhagorol ein swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a'n partneriaid sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl dros y cymunedau a wasanaethwn. Llongyfarchiadau i bawb! 👏 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 01/10/2026Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon. Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb. 👉 orlo.uk/33B79 001
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 29/09/2026Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau – gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon. Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn. 🚓 👉 orlo.uk/xG22T 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 26/09/2026Heddiw yw pen-blwydd Ricky Harris yn 34 oed. Nid yw Ricky, o Aberaman, wedi'i weld ers prynhawn dydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023. Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddiflaniad Ricky, ni waeth pa mor fach neu ddibwys y gall ymddangos i chi, i gysylltu â ni. Defnyddiwch y cyfeirnod 2300394323. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 24/09/2026Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod am feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon. Fel rhan o #YmgyrchGrebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb. 👉 orlo.uk/TF7PR 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 23/09/2026Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau – gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon. Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn. 🚓 👉 orlo.uk/uB5HL 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 20/09/2026Gwyliwch y foment pan redodd swyddogion o Heddlu De Cymru ar ôl dyn i’w arestio yn dilyn adroddiad o ddwyn o siop yn y Barri. Roedd y person dan amheuaeth wedi bygwth y gweithiwr yn y siop a dwyn dwy botel o lager. Rydyn ni yma i gadw pobl mor ddiogel â phosibl. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 19/09/2026“Diolch drive!” 🚗 Yn rasio drwy strydoedd cul tai teras, yn gyrru ar y palmant, ac yn olaf ceisio dianc ar droed... ond ni wnaeth y gyrrwr gwaharddedig hwn lwyddo i ddianc oddi wrth heddwas (ac aelod o'r cyhoedd mewn Nissan Micra). 👉 orlo.uk/JKXW4 012
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 19/09/2026Mae pedwar dyn o Gaerdydd wedi cael eu carcharu am droseddau cyffuriau ar ôl cael eu dal gan dîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol Heddlu De Cymru. 👉 orlo.uk/OkS2g 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 17/09/2026Cymerwch ran mewn arolwg cenedlaethol er mwyn dweud eich dweud am droseddu a phlismona yn eich ardal. Bydd hyn yn helpu i greu darlun cliriach o hyder y cyhoedd mewn plismona a sut mae profiadau pobl yn newid dros amser. Cymerwch ran yma: orlo.uk/83hR0 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 07/09/2026Rhannwch eich barn ar droseddu a phlismona yn eich ardal. 📣 Cofrestrwch gyda Neighbourhood Alert am ddim i ateb Arolwg Cenedlaethol Hyder y Cyhoedd mewn Plismona. Bydd eich barn yn helpu ymchwilwyr i ddeall sut mae lefelau hyder yn newid dros amser. 👉 orlo.uk/Usjc6 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 04/09/2026ℹ️ Os ydych chi'n credu eich bod chi wedi cael galwad, neges destun neu e-bost sgamio, peidiwch â gwneud dim byd gydag ef: peidiwch ag ateb, peidiwch â chlicio ar ddolenni, peidiwch â phwyso ar fotymau, a pheidiwch â rhannu manylion personol neu ariannol. 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 03/09/2026Ddydd Sadwrn, gwnaeth saith o'n cwnstabliaid gwirfoddol gymryd rhan mewn ymgyrch amlwg iawn ledled ardal Abertawe, a arweiniodd at y canlyniadau canlynol: 🔹Ymateb i 18 o ddigwyddiadau 🔹Arestio 6 unigolyn 🔹Stopio a chwilio 4 o bobl 🔹Gwirfoddoli 85 o oriau Da iawn bawb, a diolch yn fawr! 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 27/08/2026Mewn un diwrnod gwnaeth ein timau Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr arestio dros 30 o bobl yr oedd yr heddlu’n chwilio amdanynt. Roedd y sawl gafodd eu dal yn cynnwys unigolion blaenoriaeth uchel a arestiwyd ar amheuaeth o droseddau fel bygythiadau i ladd ac ymosod. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 26/08/2026🐾 Diwrnod Cenedlaethol y Cŵn Hapus! Heddiw rydyn ni'n dathlu ein cŵn heddlu anhygoel a'r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud ledled de Cymru. 💙 Dyma PC Owain Davies gyda'i ddau gydweithiwr ar bedair coes, PD Jax a PD Scout. 🐶 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 26/08/2026Os byddwch yn mynd ar wyliau ac yn bwriadu postio ar y cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr nad yw eich postiadau yn gyhoeddus. Gallech fod yn hysbysebu'r ffaith bod eich cartref yn wag! 📱 Hefyd, gosodwch eich larwm lladron, os oes gennych un, ac ystyriwch osod goleuadau a/neu radio ar amserydd. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 25/08/2026Ein gweledigaeth ydi bod yn wasanaeth yr heddlu sy’n gwbl ddwyieithog. 🏴 Rydym am arwain drwy esiampl ac annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol, a chreu mwy o gyfleoedd i weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg wrth weithredu ein busnes. 👮♀️👮♂️ Mwy o wybodaeth ➡️ orlo.uk/RFx3r 010
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 21/08/2026Yn ddiarwybod i siopleidr mynych oedd yn dwyn eitemau o fferyllfa, bu arolygydd Heddlu De Cymru oddi ar ddyletswydd hefyd yn bresennol ac yn gwylio’r cwbl. Aeth yr arolygydd ati i gadw golwg ar y tramgwyddwr wrth iddo deithio o gwmpas Caerdydd, nes i’w chydweithwyr gyrraedd ac arestio’r dyn. 👀 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 20/08/2026Diolch i waith rhagorol ditectifs gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng, cafodd dyn ei ddwyn i gyfiawnder am uwchsbecian yng Nghaerdydd. Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i'r digwyddiad yng nghanolfan siopa Dewi Sant 2 fore dydd Llun 7 Gorffennaf. ➡️ orlo.uk/sy8re 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 18/08/2026"Watsiwch" wrth i'r Swyddog hwn sylwi ar ddyn yn dal gwrthrych amheus yng nghanol y nos ar stad o dai ym Mhen-y-bont ar Ogwr... cyn erlid y tramgwyddwr. Roedd swyddogion yn cynnal patrolau arferol gyda'r nos pan sylwon nhw ar Craig Larkin yn cario gwrthrych mawr. 👉 orlo.uk/4F0dH 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 14/08/2026Coch v glas. De v gogledd (Lloegr). Arsenal v Manchester City. 🔴🔵 Dyma eich atgoffa bydd un o brif gemau blynyddol byd pêl-droed Lloegr yn cael ei chynnal ochr yma y bont eleni (cic gyntaf: 3pm). Rydyn ni, yn Heddlu De Cymru, wedi bod wrthi am fisoedd yn paratoi. 👮♀️👮♂️ 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 12/08/2026Rhag ofn i chi fethu hyn: mae dyn wedi cael ei garcharu am sawl achos o dreisio yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad Heddlu De Cymru. Cafodd Najat Ismail, 53 oed o Gaerdydd, ei ddedfrydu i 20 mlynedd yn y carchar. Cafodd estyniad o bum mlynedd oherwydd difrifoldeb ei droseddau. 👉https://orlo.uk/SMOSC 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 12/08/2026Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiad am wrthdrawiad rhwng cerddwr ac e-feic ar Ffordd Amroth, Caerau, Caerdydd, ychydig ar ôl 8:30pm neithiwr. Roedd y cerddwr dan sylw yn swyddog yr heddlu oedd ar ddyletswydd ar y pryd. 👉 orlo.uk/mQue6 101
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 12/08/2026Oes rhywun arall wedi sylwi bod ei ardd yn edrych yn sych? 🥵🌡️🥀 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 11/08/2026📹: Cawsom alwad 999 yn riportio car wedi'i ddwyn. Cafodd y car ei ganfod yn gyflym gan ein timau. Bu erlid byr cyn i'r gyrrwr golli rheolaeth a chael gwrthdrawiad, yna ceisiodd y gyrrwr redeg i ffwrdd. Gwnaeth swyddogion droi pob deilen 🍂 i geisio dod o hyd i'r gyrrwr, cyn ei ganfod mewn llwyn. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 07/08/2026Ydych chi’n gyrru i rywle? Cofiwch gymryd eich amser a chynllunio ymlaen llaw. 📱 Peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru 🚖 Peidiwch byth â gyrru dan ddylanwad alcohol na chyffuriau 😴 Cymerwch seibiannau yn ystod teithiau hir 🚦 Byddwch yn amyneddgar gyda phobl eraill ar y ffordd 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 07/08/2026Gwyliwch hynt a helynt y gyrrwr peryglus hwn wrth iddo geisio dianc rhag swyddogion, heb fawr o ystyriaeth i'r ffyrdd cul a'r tywydd oer. ❌🚓 Ar ôl i swyddogion weld y Seat Ibiza mewn gorsaf betrol ym Merthyr Tudful ym mis Ionawr. 👉 orlo.uk/IEWYU 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 06/08/2026Dyma'r difrod a achoswyd i un o'n cerbydau ar ôl i ddyn daflu bag llawn poteli ato tra oedd swyddogion yn ymateb i argyfwng. Fe gostiodd gannoedd o bunnoedd i drwsio’r difrod. Er bod ein swyddogion yn rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd, mae hyn yn dangos y gall pethau annisgwyl beri perygl iddynt. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 04/08/2026🚨 Mae tri dyn wedi cael eu dyfarnu’n euog o droseddau cyffuriau yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru. 👉 orlo.uk/0uZF2 Os ydych chi’n pryderu efallai bod person ifanc neu blentyn neu oedolyn agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 03/08/2026Oeddech chi'n gwybod bod twyllwyr yn gallu creu cyswllt ffug gan ddefnyddio rhifau ffôn? Mae hyn yn golygu y gall sgamwyr wneud i alwadau ffôn ymddangos fel petai rhywun o'ch banc neu'r heddlu yn cysylltu â chi. 👉 Peidiwch ag ymddiried yn awtomatig yn yr enw na'r rhif sy'n ymddangos ar eich ffôn. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 02/08/2026Arafwch. Pasiwch yn ddigon pell. Rhowch le i'r ceffylau. Wrth symud heibio ceffyl a marchog: 🐴 Arafwch i uchafswm o 10mya 🐴 Gadewch o leiaf ddau fetr rhyngoch chi a'r ceffyl 🐴 Pasiwch yn araf ac yn ofalus. 🐴 Peidiwch â refio eich injan na seinio'ch corn 🔗 orlo.uk/0e2tI 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 31/07/2026Ydych chi'n bwriadu mynd allan am ddiod neu ddwy ar ôl cael eich talu y penwythnos hwn? 🍹 ✅ Arhoswch gyda ffrindiau rydych yn ymddiried ynddynt ✅ Gwyliwch eich diod bob amser ✅ Cofiwch ddefnyddio tacsi trwyddedig neu drafnidiaeth gyhoeddus ❌ Peidiwch byth ag yfed a gyrru 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 31/07/2026Rydym yn recriwtio Swyddogion yr Heddlu ar hyn o bryd. Mae ein Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu (PCDA) a'n Rhaglen Mynediad i Raddedigion (DHEP) nawr ar agor. Gwnewch gais yma 🔗 orlo.uk/LcKAJ 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 31/07/2026“Ydych chi'n cadw golwg ar safonau gyrru ar yr M4?” Yn gynharach yr wythnos hon, roedd uned heb ei farcio yn gwneud hynny, dyma'r hyn a welsant…. Mae'r gyrrwr wedi cael ei riportio am droseddau gyrru. Rydym allan ac yn gweithio’n galed i gadw ffyrdd de Cymru yn ddiogel 💙. 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 29/07/2026Mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd. ☀️📱 Gan y bydd plant a phobl ifanc yn treulio mwy o amser gyda’u ffrindiau dros yr haf, dyma’r cyfle perffaith i gael sgyrsiau agored â nhw am gadw’n ddiogel. Rydyn ni eisiau i bob plentyn a pherson ifanc yn ne Cymru fwynhau gwyliau haf diogel. 💙 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 27/06/2026Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, rydyn ni'n hynod falch o gyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Mae dros 200 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog a 29 o Swyddogion Wrth Gefn sy'n gwasanaethu ein cymunedau yn Heddlu De Cymru heddiw. orlo.uk/1lruZ 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 26/06/2026Mae dyn wedi cael ei garcharu am dreisio ac ymosod ar fenyw, yn ogystal â dwyn ei chi. Gwnaeth Dominik Szymanski, 47 oed o Abertawe, ddyrnu, cicio a llusgo'r dioddefwr pan wrthododd gael rhyw gydag ef yn ei fflat. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 16 o flynyddoedd yn y carchar. orlo.uk/usfb4 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 26/06/2026Mae chwech o bobl wedi cael eu carcharu am lofruddio menyw yn Nhonysguboriau, yn y ddedfryd fwyaf ar gyfer llofruddiaeth a welwyd erioed yng Nghymru. Bu farw Joanne Penney o ganlyniad i ymryson yn ymwneud â chyffuriau rhwng grwpiau troseddau cyfundrefnol o Gaerlŷr a Chymru. orlo.uk/90xBm 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 19/06/2026Mae tri deg o bobl wedi cael eu dedfrydu am eu rhan mewn anhrefn ddifrifol yn Nhrelái, Caerdydd, ym mis Mai 2023. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y gymuned. Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey Evans a Kyrees Sullivan. orlo.uk/X81Oa 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 12/06/2026Mae staff ar ein Bws Diogelwch wedi helpu i achub bywyd dyn oedd yn dioddef ataliad ar y galon yng nghanol dinas Caerdydd. Roedd y Bws Diogelwch yn digwydd bod gerllaw pan ddaeth galwad i'r ystafell reoli yn gofyn am gymorth yn ystod oriau mân 30 Mai. 👉 orlo.uk/3tckV 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 06/06/2026Heddiw yw'r diwrnod! Mae swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a chydweithwyr pedair coes yn edrych ymlaen at eich croesawu yn y pencadlys yn nes ymlaen. ⏰ 10am-4pm 📍 Pencadlys yr heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 02/06/2026Pedwar diwrnod i fynd nes y byddwn yn eich croesawu i gyd i'n Diwrnod o Hwyl i'r Teulu yn ein Pencadlys! 📅 Dydd Sadwrn 6 Mehefin ⏰ 10am-4pm 📍 Pencadlys yr heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr 010
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 21/05/2026Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dwy ferch yn y gorffennol. Roedd David Lake wedi ymosod sawl gwaith ar y merched, sydd bellach yn oedolion. www.south-wales.police.uk/cy-GB/new… 010
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 20/05/2026Mae 21 o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu cymryd oddi ar y ffyrdd diolch i ymgyrch ar y cyd â Chyngor Caerdydd. Mae hyn yn golygu bod mwy na 6️⃣3️⃣3️⃣ o gerbydau anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu a'u hailgylchu ers mis Awst 2025. 👉 bit.ly/42Jxo40 010
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 19/05/2026👋 Yn cyflwyno Diwrnod Hwyl i'r Teulu Heddlu De Cymru 2026: 📅 Dydd Sadwrn 6 Mehefin 📍Pen-y-bont ar Ogwr Digwyddiad am ddim gyda llawer o atyniadau a gweithgareddau, gan gynnwys: 🚔 Ceir a beiciau yr heddlu 🧒 Cyfle i blant wisgo lifrai 🐶 Arddangosiadau cŵn yr heddlu 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 14/05/2026Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am Mohammed Ali Ege mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir Siddiqi yn #Caerdydd. Mae Crimestoppers wedi cynnig gwobr newydd o hyd at £10k am wybodaeth yn arwain at arestio Ege. Mae'r heddlu yn chwilio amdano mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir, 17 oed, yn 2010. 100
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 08/05/2026Rydym yn apelio ar ddioddefwyr-goroeswyr i gysylltu â nhw ar ôl i Anthony Pierce gael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant. Plediodd cyn-esgob Abertawe ac Aberhonddu Pierce, 85 oed, yn euog i bum achos o ymosod yn anweddus ar blentyn dan 16 oed. bit.ly/4d7gGAg 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 22/04/2026Fe wnaeth y dyn hwn gam-drin plentyn yn rhywiol ar sawl achlysur rhwng 1989 a 1991. Rhoddodd y dioddefwr wybod i Heddlu De Cymru am y troseddau flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl dweud wrth ei bartner am yr hyn ddigwyddodd. Mae'r dyn wedi cael ei garcharu nawr. bit.ly/42obEu6 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 17/04/2026Rhag ofn i chi fethu hyn: Cafodd y deliwr cyffuriau yma ei ddal gan dechnoleg adnabod wynebau ar ôl iddo anfon llun o'i ddannedd newydd at ffrind. Nid oedd y deliwr cyffuriau yn sylweddoli bod ditectifs wrthi’n ymchwilio i ddata ar ffôn ei ffrind. ➡️ bit.ly/4epHUEo 000
Heddlu De Cymru @heddludecymru.bsky.social · 16/04/2026Rhag ofn i chi fethu hyn: Cafodd y deliwr cyffuriau yma ei ddal gan dechnoleg adnabod wynebau ar ôl iddo anfon llun o'i ddannedd newydd at ffrind. Nid oedd y deliwr cyffuriau yn sylweddoli bod ditectifs wrthi’n ymchwilio i ddata ar ffôn ei ffrind. ➡️ bit.ly/4epHUEo 000