Sign in

Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife

@glaslynospreys.bsky.social
160 followers 32 following 407 posts

Cartref Gweilch Glaslyn Home of the Glaslyn Ospreys

PostsRepliesMedia
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 27/09/2026
Join us for a Fungi Forage in Hafod Garegog Woodland (With kind permission of the National Trust). A suggested donation of £5 per person, which includes a 2 hour guided walk by fungi expert Cynan Jones, through the enchanting woodland of Hafod Garegog. Please pay on the day of the walk.
231
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 27/09/2026
Helfa Ffwng - Fungi Hunt Hydref 17 October 11:00-13:00 Ymunwch efo ni ar Helfa Ffwng yng Nghoedlan Hafod Garegog (Gyda chaniatâd caredig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
120
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 17/09/2026
There have been no further sightings of KC6/Teifi since Friday September 11 at 18:30, so we can assume that he has begun his migration. Our bund camera captured his last moments, shortly after he finished eating his fish.
062
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 17/09/2026
Does neb wedi gweld KC6/Teifi eto ers dydd Gwener Medi 11 am 18:30, felly mae’n siŵr ei fod wedi cychwyn ar ei daith erbyn hyn. Daliwyd ei eiliadau diwethaf ar gamera’r bwnd, ac yntau newydd orffen bwyta’i bysgodyn
052
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Welsh Ornithological Society @birdsinwales.bsky.social · 17/09/2026
Have you purchased your ticket for the Welsh Ornithological Society Conference yet? Hurry! They’re selling out quickly! Don’t miss out! Get your ticket here⬇️ www.eventbrite.co.uk/e/welsh-orni...
0126
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Welsh Ornithological Society @birdsinwales.bsky.social · 17/09/2026
Ydych chi wedi archebu eich ticedi ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas Adaryddol Cymru eto? Brysiwch! Mae nhw’n gwerthu allan yn gyflym iawn. Peidiwch a methu allan! www.eventbrite.co.uk/e/welsh-orni...
074
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 15/09/2026
Volunteers pictured on the last shift of a successful season at the Glaslyn Ospreys Visitor Centre. We are now closed until the Ospreys return next Spring. Many volunteers will however continue to work on site and behind the scenes over the winter months as we prepare to do it all again in 2027!
1123
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 15/09/2026
Dyma wirfoddolwyr ar shifft olaf tymor llwyddiannus dros ben yng Nghanolfan Ymwelwyr. Byddwn ar gau rŵan nes daw’r gweilch yn ôl y gwanwyn nesaf, ond bydd llawer o wirfoddolwyr yn dal i weithio ar y safle a thu ôl i’r llenni dros fisoedd y gaeaf wrth i ni baratoi i wneud y cyfan eto yn 2027!
121
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 11/09/2026
Llwyddodd y wirfoddolwraig Gail Edgley i weld o leiaf ddau walch wrth gerdded ar hyd aber Glaslyn brynhawn Mercher. Ceiliogod oedd y ddau gyda modrwyau glas ar eu coesau dde. Roedd yr aderyn cyntaf a welodd Gail wedi dal lleden fawr ac wedi bwyta llawer ohoni ar far tywod. Credwn mai KS6 oedd hwn.
121
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 11/09/2026
Volunteer Gail Edgley managed to spot at least two Ospreys while walking along the Glaslyn estuary on Wednesday afternoon (Sept 9), both were males with blue rings on their right legs. The first bird caught a large flounder and ate much of it on a sandbar, we believe this was KS6/Dinas. (cont...)
153
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 08/09/2026
Friday 4 September 2026 was a special and memorable day on the Glaslyn Ospreys site, as renowned Welsh naturalist and broadcaster Iolo Williams unveiled a granite memorial to Ted Breeze Jones, teacher, birder, photographer and popular author.
141
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 08/09/2026
Roedd dydd Gwener 4 Medi 2026 yn ddiwrnod arbennig a chofiadwy ar safle Gweilch Glaslyn, wrth i'r naturiaethwr a'r darlledwr adnabyddus Iolo Williams, ddadorchuddio cofeb wenithfaen i gofio Ted Breeze Jones, yr athro, y gwyliwr adar, y ffotograffydd a'r awdur poblogaidd.
131
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 07/09/2026
Does neb wedi gweld Glas 2T6 eto ers iddi adael y dderwen islaw nyth Glaslyn am 09:05 fore Sadwrn, felly rydan ni’n tybio ei bod hi wedi cychwyn bellach ar ei thaith i’r de.
140
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 07/09/2026
There have been no further sightings of Blue 2T6 since she left the oak tree below the Glaslyn nest at 09:05 on Saturday morning, so we are assuming she has now started out on her journey south.
192
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 04/09/2026
Mae Glas 2T6 yn 101 diwrnod oed heddiw ac roedd yn dal o gwmpas y nyth fore heddiw. Yn rhyfeddol, allan o’r 51 o gywion sydd wedi mudo o nyth Glaslyn hyd yma (heb gynnwys 2T6), mae 35 ohonyn nhw wedi cyrraedd 100 diwrnod cyn gadael. Dim ond 16 o gywion sydd wedi mudo yn gynharach na 100 diwrnod oed.
031
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 04/09/2026
Blue 2T6 is 101 days old today and was still around the nest this morning. Amazingly out of the 51 chicks that have so far migrated from the Glaslyn nest (not including 2T6), 35 of them have reached 100 days before leaving. Only 16 chicks have migrated earlier than 100 days old.
083
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Natur Cymru @naturcymru.bsky.social · 04/09/2026
Mis Medi yw dechrau tymor geni Morloi Llwyd bach yng Nghymru. Helpwch i’w gwarchod nhw ar draethau drwy wneud y canlynol: Cadw eich pellter; aros 100m oddi wrthyn nhw Rhoi eich ci ar dennyn Mae'r rhan fwyaf o forloi bach sydd ar eu pen eu hunain ar draethau yn iawn, ac yn cael gofal gan eu mamau.
1107
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Natur Cymru @naturcymru.bsky.social · 04/09/2026
September is the start of pupping season for Grey Seals in Wales. Help protect pups on beaches by: Keeping your distance- stay 100m away Putting your dog on a lead Most pups alone on beaches are fine, and being cared for by their mothers.
11312
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 03/09/2026
Ddydd Sul cawsom ddiwrnod Gwyfynod, Bwystfilod Bach a Mwy. Doedd y tywydd ddim yn wych ar gyfer trapio gwyfynod, ond eto llwyddodd ein gwirfoddolwyr Hedda a Joy i ddal ambell wyfyn dros nos i’w dangos i’n hymwelwyr eiddgar.
141
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 03/09/2026
On Sunday we held our Moths, Mini-beasts and More event. The weather was not too favourable for moth trapping, but volunteers Hedda and Joy still managed to trap a few moths overnight to show our interested visitors.
131
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 02/09/2026
Y diweddaraf am y Gweilch: Ar nyth Glaslyn mae Glas 2T6 a KC6/Teifi yma o hyd. Y tro diwethaf i neb weld Glas 2T4 oedd ar Awst 31 am 11:19, a gwelwyd Glas 2T5 yn fuan wedyn am 11:42. Cafodd Elen ei gweld ddiwethaf ar Awst 25 am 07:54.
120
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 02/09/2026
Osprey update: On the Glaslyn nest Blue 2T6 and KC6/Teifi are still with us. The last sighting of Blue 2T4 was on August 31 at 11:19 and Blue 2T5 was last seen shortly afterwards at 11:42. Elen was last sighted on August 25 at 07:54.
1113
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 01/09/2026
We often spot our juvenile Ospreys making practice dives into the water as they perfect their fishing skills. On Sunday we managed to capture the youngest Glaslyn juvenile 2T4 diving into the water from the Welsh Highland Railway bridge with our cameras. Keep a look out for the splash!
0154
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 01/09/2026
Byddwn yn aml yn gweld ein gweilch ifanc yn ymarfer plymio i’r dŵr wrth berffeithio’u sgiliau pysgota. Ddydd Sul fe lwyddodd ein camerâu i ddal cyw fenga Glaslyn, 2T4, yn plymio i’r dŵr oddi ar bont Rheilffordd Eryri. Gwyliwch am y sblash!
041
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 29/08/2026
All three of the Glaslyn nest juveniles are still present, with KC6/Teifi making brief appearances to drop off fish supplies.
15812
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 29/08/2026
Mae cywion nyth Glaslyn ill tri’n dal yma, ac mae KC6/Teifi’n galw heibio’r nyth bob hyn a hyn i adael pysgod iddyn nhw.
183
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 29/08/2026
Ymunwch â ni am saffari bach ddydd Sul yma i ddysgu mwy am fywyd gwyllt arbennig glannau Afon Glaslyn. Join us for a mini safari this Sunday to learn more about the wonderful wildlife along the Afon Glaslyn.
032
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 25/08/2026
www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Gweilch y Pysgod wedi magu cywion am y tro cyntaf ar Ynys Môn
Mae dau gyw gwalch y pysgod wedi eu geni ar Ynys Môn - a hynny am y tro cyntaf erioed, yn ôl arbenigwyr.
040
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 25/08/2026
www.bbc.co.uk/news/article...
bbc.co.uk
Osprey chicks born on Anglesey for first time, Conservationists say
The chicks were born earlier this summer, and conservationists hope they'll return to Wales after migrating to west Africa
074
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 25/08/2026
We did not expect all three chicks to be present on the nest when Elen made a fish delivery on Sunday evening. A rare sight during late August. The Glaslyn Osprey Visitor Centre will close for the season on Sunday 13 September.
051
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 25/08/2026
Annisgwyl oedd gweld y tri chyw yn bresennol ar y nyth pan ddaeth Elen yn ôl efo pysgodyn nos Sul. Golygfa brin wrth nesáu at ddiwedd mis Awst. Bydd Canolfan Ymwelwyr Gweilch Glaslyn yn cau am y tymor ddydd Sul 13 Medi.
030
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 22/08/2026
The 2026 Glaslyn brood lined up on the perch for their annual photoshoot this week. Not all looked too happy about doing it though!!
0166
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 22/08/2026
Gosodwyd adar Glaslyn 2026 mewn rhes ar y glwyd yr wythnos hon er mwyn tynnu eu llun blynyddol, er bod hynny’n groes i’r graen i ambell un, yn ôl pob golwg!!
051
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 21/08/2026
Blue LX4 has made several recent appearances on both the Friends of the Ospreys Pont Croesor and the Glaslyn nests. He was hatched at a local private nest in 2023 and was also recorded as an intruder last year.
091
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 21/08/2026
Mae Glas LX4 wedi galw heibio nyth Cyfeillion y Gweilch ym Mhont Croesor a nyth Glaslyn sawl gwaith yn ddiweddar. Cafodd ei ddeor mewn nyth breifat leol yn 2023 ac fe gofnodwyd ymweliad ganddo y llynedd hefyd.
030
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 20/08/2026
Elen is still with us! After making no appearances at the Glaslyn nest between Sunday and Tuesday, Elen dropped off a Mullet to Blue 2T4 on Wednesday afternoon. This afternoon she made another brief visit with a Sea Bass for Blue 2T5.
195
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 20/08/2026
Mae Elen yn dal hefo ni! Ar ôl bod yn absennol o nyth Glaslyn rhwng dydd Sul a dydd Mawrth, daeth Elen â hyrddyn i Glas 2T4 brynhawn Mercher. Brynhawn heddiw gwnaeth ymweliad byr arall gyda draenogyn môr i Glas 2T5. Gwych gweld ei bod hi’n dal o gwmpas, er bod yn rhaid bod yn gyflym i gael cip arni.
031
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 18/08/2026
Gwella Cynefinoedd Pont Croesor Pont Croesor Habitat Enhancement www.glaslynwildlife.co.uk/pont-croesor...
082
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 17/08/2026
Blue 5M2 (Friends of the Ospreys RG Nest, Glaslyn Valley 2024) spent almost an hour on the dead Ash tree behind the Glaslyn nest this morning. 2T4 and 2T5 alarm called the whole time she was present.
163
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 17/08/2026
Mi dreuliodd Glas 5M2 (nyth Cyfeillion y Gweilch RG, Dyffryn Glaslyn 2024) bron i awr ar y goeden ynn farw y tu ôl i nyth Glaslyn yn ystod y bore. Mi oedd 2T4 a 2T5 yn gwneud galwadau rhybudd drwy gydol yr amser roedd hi'n bresennol.
133
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Julian Hughes @penrhynbirder.bsky.social · 17/08/2026
The editor might get cross, but this week's #NorthWales Daily Post BirdNotes also features #butterflies and #dragonflies... Autumn in a parched landscape: waders land on drawn-down reservoirs and Woodpigeons gorge on elderberries. 📷 Dave Parry #BirdingWales www.birdnotes.wales/blog/migrati...
birdnotes.wales
Migration is not only for the birds
Signs of autumn proliferate across the parched countryside, not least from drought-stressed trees already dropping leaves. Stepping on to Ynys Seiriol, usually human-free, we surprised many dozens of....
072
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 17/08/2026
Disgwyliodd cyw ieuengaf 2T4 yn amyneddgar am bysgodyn ddoe a bu ar y glwyd dros awr a hanner yn galw am ei ginio. Rhoddodd y ffidil yn y to tua 12:40.
130
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 16/08/2026
Youngest chick 2T4 waited patiently for a fish today and was on the perch for over ninety minutes calling for his dinner. He gave up around 12:40.
1102
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 15/08/2026
Glas 2T5 a Glas 2T4 ar glwyd Glaslyn ddydd Gwener. ************ Blue 2T5 and Blue 2T4 on the Glaslyn perch on Friday.
0144
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
Bat Conservation Trust @batconservation.bsky.social · 15/08/2026
🦇 International Bat Night is 2 weeks away! Find out how can you help and celebrate bats: www.bats.org.uk/support-bats... . Are you doing anything special? Let us know!
Graphic promoting International Bat Night listing three ways to help bats: become a member or donate; raise funds by taking on a challenge; raise awareness by sharing your favourite bat fact and tagging the Bat Conservation Trust.
01814
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 14/08/2026
Roedd Glas 0T9 ar ei phen ei hun yn gwarchod nyth Cyfeillion y Gweilch ym Mhont Croesor fore heddiw pan hedodd gwalches dywyll iawn ei lliw dros y nyth sawl gwaith. Roedd modd gweld modrwy las ar goes dde’r aderyn diarth, ond ddaeth hi ddim yn ddigon agos at y camera i’w hadnabod.
120
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 14/08/2026
Blue 0T9 was left alone to defend the Friends of the Ospreys Pont Croesor nest this morning, when a very dark intruding female Osprey flew over the nest several times. The intruder looked to have a blue ring on the right leg, but she did not go near enough to the camera to identify.
172
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 13/08/2026
A new intruding Osprey flew over the Friends of the Ospreys Pont Croesor nest on Wednesday, and it has a Glaslyn connection. Blue 4B9 was the only chick raised on the Threave Ospreys Nest 1 in 2024, making him a son of Black 80 (Glaslyn 2006) and Blue KC (Stirling 2009).
172
Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife @glaslynospreys.bsky.social · 13/08/2026
Hedodd gwalch diarth newydd dros nyth Cyfeillion y Gweilch ym Mhont Croesor ddydd Mercher, ac mae ganddo gysylltiad â Glaslyn. Glas 4B9 oedd yr unig gyw ar Nyth Gweilch rhif 1 yn Threave yn 2024, felly mae’n fab i Du 80 (Glaslyn 2006) a Glas KC (Stirling 2009).
120
Reposted by Bywyd Gwyllt Glaslyn Wildlife
kayakpoole.bsky.social @kayakpoole.bsky.social · 13/08/2026
A wonderful osprey built nest discovered in mid Wales where three chicks fledged this year @paulathorpe20.bsky.social @alisoncopland.bsky.social
0182