Sign in

Gareth Wyn Williams

@garethwynwilliams.bsky.social
4K followers 1.6K following 182 posts

Gohebydd / Senior Journalist Reporter BBC Cymru Wales From Ynys Môn / Anglesey | Ex-Local Democracy Reporting Service | Fy sylwadau i | 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 ✍️ garethwyn.williams@bbc.co.uk

PostsRepliesMedia
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 30/09/2026
A major stretch of railway line will close for a month with passengers warned to expect disruption. Engineers will work between Chester and Holyhead on Anglesey, renewing track and other infrastructure. www.bbc.co.uk/news/article...
bbc.co.uk
North Wales coast railway work to cause disruption to passengers
The North Wales Coast line will close for four weeks in January 2027 for work to be carried out.
000
Reposted by Gareth Wyn Williams
Newyddion S4C @newyddion.s4c.cymru · 18/09/2026
Bydd un o blismyn Heddlu Gogledd Cymru a wnaeth ddyrnu dyn sawl gwaith yn ei wyneb wrth ei arestio yn cael dychwelyd i’w waith. Daeth panel disgyblu i’r casgliad fod PC Richard Williams wedi defnyddio grym rhesymol yn ystod y digwyddiad ym Mhorthmadog dair blynedd yn ôl.
001
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 09/09/2026
‘Treth twristiaeth’ Môn. Mae’r dogfennau ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio Cyngor Môn, ddydd Mawrth nesa’, yn argymell na ddylai'r ynys fabwysiadu'r ardoll ymwelwyr (neu’r ‘treth twristiaid'), am y tro o leia’.
001
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 30/07/2026
Canlyniad is-etholiad Bro'r Llynnoedd: Bro'r Llynnoedd by-election result: Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglsey County Council Nick Bounds, Green: 45 Margaret Fredericka John, Welsh Conservatives: 93 Richard John Jones, Reform UK: 446 Jon Paul Taylor, Plaid Cymru: 551
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 21/07/2026
Mae cynllun fyddai'n gweld tua 15 milltir o geblau tanddaearol yn cael eu gosod yng Ngwynedd wedi sbarduno pryder ymhlith rhai trigolion lleol. Mae’r cynllun yn cael ei weld fel ffordd o symud ynni gwyrdd oddi ar arfordir yr Alban i rannau eraill o’r DU. www.bbc.com/cymrufyw/ert...
bbc.com
Ceblau tanddaearol Gwynedd: 'Neb isio i'w cartref gael ei ddifetha'
Pryder dros gynllun fyddai'n gweld cebl tanddaearol newydd yn cario trydan o Fae Caernarfon i Bentir ger Bangor.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 28/05/2026
Yma yng ngynghadledd dyddiol y wasg ar Faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn. Yn Eisteddfod saith diwrnod am y tro cyntaf, ‘da ni’n clywed mai hon yw’r wŷl ‘werddaf erioed’. #Urdd2026
131
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 19/05/2026
Trist i glywed am farwolaeth brawychus o sydyn y Cynghorydd Ken Taylor. Wastad yn cael sgwrs cyn cyfarfodydd am Spurs a phêl-droed yn gyffredinol, ac un arall o hogia Llanddeusant. Roedd ganddo feddwl y byd o’i ynys, ei iaith a’i genedl.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 13/05/2026
Wrth gerdded o gwmpas y dref mae’n amlwg fod Llangefni, fel cymunedau ar draws yr ynys, yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Fôn.
001
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 11/05/2026
A crazy aspect is that if things had played out differently, Rhun ap Iorwerth could have been the MP for Ynys Môn at Westminster right now and not even a member of the Senedd. Adam Price standing down in May 2023 was a real sliding doors moment.
031
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 08/05/2026
Adra ar ôl diwrnod hir, prysur ond ddigon hwyliog hefyd yng nghwmni @davidgrundy.bsky.social, @carwynjones.bsky.social a’r newyddiadurwyr eraill yng Nghaernarfon ar gyfer cyfri etholaeth Gwynedd Maldwyn. Dim ond 12 mis tan yr etholiadau cyngor nesa gyda llaw 😉
031
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 04/05/2026
P’nawn braf yng Nghaergybi.
052
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 01/05/2026
Mae Plaid Cymru wedi atal aelodaeth cynghorydd sir o Wynedd dros dro ar ôl iddo honni bod mewnfudo yn effeithio ar allu ysgolion i addysgu'r Gymraeg ym Mangor. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Plaid Cymru'n atal cynghorydd Bangor dros sylwadau mewnfudo
Mae Plaid Cymru wedi atal aelodaeth cynghorydd dros dro ar ôl iddo wneud sylwadau am fewnfudo a'r Gymraeg.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 15/04/2026
Mae datblygwyr wedi gofyn am gael dileu amod cynllunio oedd yn cyfyngu stad o dai ar Ynys Môn at ddiben gwyliau yn unig, yn sgil methiant i'w gwerthu. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Môn: Datblygiad 'tai gwyliau yn unig' yn methu â denu prynwyr
Datblygwyr yn gofyn am ddileu amod cynllunio oedd yn cyfyngu stad o dai ar Ynys Môn at ddiben gwyliau yn unig, yn sgil methiant i'w gwerthu.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 26/03/2026
Mae angen "trafodaeth anodd a gonest" am gau ysgol uwchradd ar Ynys Môn, yn ôl cynghorydd sy'n poeni am leihad yn nifer y disgyblion. Mae’r data yn dangos gostyngiad sylweddol yng nghyfradd geni'r ynys dros y blynyddoedd diwethaf. www.bbc.co.uk/newyddion/er...
bbc.co.uk
'Angen trafodaeth gonest' dros gau un o ysgolion uwchradd Môn
Mae angen
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 21/03/2026
Llongyfarchiadau gwresog i Mr Evans, fy nghyn-brifathro yn Ysgol Gynradd Llanddeusant drwy’r 90’au cynnar! www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Derek Evans o Fôn yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes 2026
Derek Evans o Lannerch-y-medd, Ynys Môn, ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni.
020
Reposted by Gareth Wyn Williams
Newyddion S4C @newyddion.s4c.cymru · 11/03/2026
Mae cyn berchennog busnes harddwch ym Môn, a wnaeth gyfaddef i dwyllo dau gwsmer ar ôl chwistrellu sylwedd nad oedd wedi’i gymeradwyo, wedi derbyn dirwy. Dywedodd Carol Ann Edwards yn y llys ei bod yn 'difaru' yr hyn y gwnaeth hi.
101
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 06/03/2026
Welsh Cup: Bangor and Rhyl phoenix clubs eye crack at Europe "It's 90 minutes of football, are they up for it, are we up for it? Anything can happen." Read more: ⬇️ www.bbc.co.uk/sport/footba...
bbc.co.uk
Welsh Cup: Bangor and Rhyl phoenix clubs eyeing a crack at Europe
Bangor City and Rhyl were synonymous with the Welsh Cup and hope to hit the heights again.
001
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 05/03/2026
Tier 2 and 3 sides @rhylfcst.bsky.social and Bangor City 1876 are now just two games away from European football via the Welsh Cup. Both phoenix clubs were established by former supporters of Rhyl FC and Bangor City amid financial troubles. More from BBC Wales Today ⬇️🎥
031
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 05/03/2026
Mae dau o enwau mawr pêl-droed y gogledd yn llygadu lle yn Ewrop, dim ond ychydig o flynyddoedd ar ôl ailffurfio o'r newydd yn dilyn trafferthion ariannol. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cewri hanesyddol y gogledd yn llygadu Ewrop ar ôl ailffurfio
Mae dau o enwau mawr pêl-droed y gogledd yn llygadu lle yn Ewrop, dim ond ychydig o flynyddoedd ar ôl ailffurfio.
011
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 02/03/2026
Trefor and Llanaelhaearn community council had asked for a "progressive and innovative" language condition in a bid to protect Welsh communities. But following advice from Gwynedd planning officers, the new estate was approved without any such clause. www.bbc.co.uk/news/article...
bbc.co.uk
Welsh-only Gwynedd housing estate deemed 'illegal' by planners
A community council wanted a clause to only rent or sell the houses to Welsh speakers.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 02/03/2026
Mae ymgais cyngor cymuned i osod amod ieithyddol ar stad newydd o dai yng Ngwynedd wedi methu yn sgil cyngor swyddogion y byddai cymal o'r fath yn "anghyfreithlon". www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Gwynedd: Dim amod iaith Gymraeg ar dai newydd Trefor
Roedd cyngor cymuned wedi gofyn am osod amod fyddai'n golygu mai dim ond siaradwyr Cymraeg fyddai'n cael byw yno.
001
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 06/02/2026
Mae Reform UK wedi ennill eu sedd cyntaf ar Gyngor Sir Ynys Môn wedi i Celfyn Furlong ennill is-etholiad ward Ynys Gybi ddydd Iau. Reform UK have won their first seat on the Isle of Anglesey County Council after Celfyn Furlong won Thursday's by-election in the Ynys Gybi ward.
500
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 04/02/2026
Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynlluniau i gau ysgol gynradd leiaf y sir. Erbyn hyn dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen, gydag adroddiad yn argymell y dylid ei chau cyn Medi 2026. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Ysgol Y Garreg: Trafod cau ysgol yng Ngwynedd sydd â dau ddisgybl
Bydd cynghorwyr yn trafod cynlluniau i gau ysgol gynradd leiaf y sir yr wythnos nesaf.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 26/01/2026
Cynnal angladd cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cynnal angladd cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath yn Leeds
Mae angladd cyn-chwaraewr a rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Terry Yorath, wedi ei gynnal yn Leeds brynhawn Llun.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 23/01/2026
Wrth i'r Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf ddathlu ei phen-blwydd yn 70 mae galwadau am fwy o fuddsoddiad a strategaeth newydd ar gyfer addysg drwy'r Gymraeg. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Glan Clwyd yn 70: Recriwtio athrawon yn 'greisis' i addysg Gymraeg
Wrth i'r Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf ddathlu ei phen-blwydd yn 70 mae galw am fwy o fuddsoddiad a strategaeth newydd ar gyfer addysg drwy'r Gymraeg.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 15/01/2026
Cais CPD Caernarfon i ddyblu nifer y seddi yn yr Oval www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cais CPD Caernarfon i ddyblu nifer y seddi yn yr Oval
Fe fyddai dyblu nifer y seddi yn yr Oval i 1,200 yn cyrraedd gofynion UEFA i allu cynnal gemau Cyngres Europa.
001
Reposted by Gareth Wyn Williams
Newyddion S4C @newyddion.s4c.cymru · 14/01/2026
Mae cwestau i farwolaethau dau ddyn mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog fis Rhagfyr wedi eu hagor a'u gohirio Roedd cerbydau Mathew Hardy a Daniel Atkinson mewn gwrthdrawiad ar 20 Rhagfyr, a bu farw'r ddau yn y fan a'r lle Adroddiad Gareth Wyn Williams
102
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 12/01/2026
Chwe ymgeisydd wedi rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer sedd Ynys Gybi ar Gyngor Môn yn dilyn marwolaeth Trefor Lloyd Hughes y llynedd. Etholiad ar 05/02. Six candidates have come forward for the Anglesey Council by-election on Feb 5 for Ynys Gybi, following the death of Trefor Lloyd Hughes last year.
041
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 07/01/2026
Fy eitem ar gyfer @newyddion.s4c.cymru neithiwr yn edrych ymlaen at becampwriaeth o dan-19 UEFA, bydd yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru yr haf yma. Clybiau fel Caernarfon a Dinbych yn elwa o fuddsoddiad helaeth.
120
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 31/12/2025
Fy eitem ar @newyddion.s4c.cymru yn edrych ar ddegawd ers i gynhyrchu trydan yn y Wylfa ddod i ben.
021
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 06/12/2025
Fy eitem diweddar i @newyddion.s4c.cymru yn edrych ar benderfyniad Cyngor Gwynedd i godi’r premiwm treth cyngor ar dai gwag yn y sir. My recent item for Newyddion S4C on the decision in Gwynedd to hike the council tax premium paid by owners of empty homes.
031
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 27/11/2025
Mae mesurau dadleuol a gafodd eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau wedi cael eu diddymu. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Diddymu rheol Erthygl 4 Gwynedd yn sgil dyfarniad yr Uchel Lys
Mae mesurau dadleuol a gafodd eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau wedi cael eu diddymu ar unwaith.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 27/11/2025
Bydd profion DNA yn cael eu cynnal ar weddillion Myfanwy y mamoth o Ynys Môn i geisio deall mwy am hanes y creaduriaid www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Profion DNA i ganfod cyfrinachau gweddillion mamoth enwog Caergybi
Bydd profion DNA yn cael eu cynnal ar weddillion mamoth a gafodd ei ddarganfod ar Ynys Môn dros 160 o flynyddoedd yn ôl.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 14/11/2025
Trist iawn i glywed am farwolaeth Trefor Lloyd Hughes, un o hoelion wyth pêl-droed a gwleidyddiaeth leol Môn. Pleser bob tro oedd rhoi’r byd yn ei le a thrafod pêl-droed. Wedi cyd-weithio ar sawl erthygl dros y blynyddoedd, hwn sy’n sefyll allan fwyaf amlwg. www.bbc.com/cymrufyw/635...
bbc.com
'Doeddan nhw'm yn gwybod fod gan Gymru iaith ei hun'
Cyn-lywydd y gymdeithas bêl-droed yn croesawu'r pwyslais ar y Gymraeg ac yn rhagweld llwyddiant yn Qatar.
010
Reposted by Gareth Wyn Williams
Carwyn Jones @carwynjones.bsky.social · 11/11/2025
Disgwyl i Wylfa fod yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd www.bbc.com/cymrufyw/ert...
bbc.com
Disgwyl i Wylfa fod yn safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi eu sêl bendith i adweithydd modiwlar bach ar y safle.
031
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 20/10/2025
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod yn unfrydol cais i godi safle ynni solar yn sgil pryderon yn lleol. Yn ôl gwrthwynebwyr roedd y cynllun i osod paneli ar draws tua 10 erw o dir ar gyrion Llanbedrog yn "anaddas" ac yn dod a "dim buddion i'r ardal". www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Llŷn: Cais ynni solar yn denu gwrthwynebiad unfrydol cynghorwyr
Cyngor Gwynedd yn gwrthod cais i godi paneli solar ar draws dau gae ger Lon Pin, Llanbedrog.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 20/10/2025
Fe allai safle cyn-ffatri ar lannau'r Fenai gael ei drawsnewid i gartrefu canolfannau data arloesol mewn cynllun gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd Friction Dynamics ger Caernarfon yn cyflogi dros 1,500 o weithwyr ar un adeg ond yn wag ers 2008. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cyflwyno cynllun arloesol ar gyfer cyn-safle Friction Dynamics
Gallai safle cyn-ffatri cwmni Friction Dynamics, neu Ferodo, gael ei drawsnewid i gartrefu canolfannau data arloesol.
040
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 08/10/2025
Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yn ardal Nantlle yn sgil pryderon dros nifer y disgyblion. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cyngor Gwynedd i ystyried cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd
Bydd cynghorwyr Gwynedd yn trafod cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yn ardal Nantlle yn sgil pryderon dros nifer y disgyblion.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 06/10/2025
My piece for BBC Wales Today on the impact that the closure of one of the two bridges connecting Ynys Môn with the Welsh mainland is having on the isle of Anglesey.
020
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 02/10/2025
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydy'r awdurdod wedi derbyn unrhyw esboniad ynglŷn â pham y cafodd adolygiad o brosesau diogelu plant yn sgil troseddau Neil Foden ei ohirio funud olaf. Roedd disgwyl canfyddiadau Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ddydd Mercher diwethaf. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cyngor yn dal i ddisgwyl am eglurhad dros ohirio adroddiad Neil Foden
Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydy'r awdurdod wedi derbyn unrhyw esboniad ynglŷn â pham y cafodd adolygiad o brosesau diogelu plant yn sgil troseddau Neil Foden ei ohirio.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 25/09/2025
Anglesey Council claimed that the Welsh Government went against its own planning guidelines in approving the solar farm, voting on Thursday in favour of the principle of launching a legal challenge against the government's decision. www.bbc.com/news/article...
bbc.com
Anglesey council backs review of controversial solar farm plans
The Alaw Môn development would see panels installed across 660 acres near Llyn Alaw, Anglesey.
010
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 25/09/2025
Cynghorwyr Môn yn cefnogi, mewn egwyddor, i lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu fferm solar ddadleuol ar yr ynys. www.bbc.com/cymrufyw/ert...
bbc.com
Cyngor Môn o blaid her gyfreithiol yn erbyn fferm solar ddadleuol
Cynghorwyr Môn yn cefnogi, mewn egwyddor, i lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu fferm solar ddadleuol ar yr ynys.
022
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 24/09/2025
A council has lost a legal challenge against measures designed to clamp down on second homes. In September 2024, Gwynedd became the first authority to introduce a requirement for owners to get planning permission to turn a residential property into a second home. www.bbc.co.uk/news/article...
bbc.co.uk
Gwynedd council loses legal battle to clamp down on second homes
Campaigners argued new planning permission rules would
020
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 24/09/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi colli achos yn yr Uchel Lys dros fesurau a gafodd eu cyflwyno llynedd i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau. Ym 2024 Gwynedd oedd yr awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau Erthygl 4. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Cynghorwyr Gwynedd 'wedi'u camarwain' wrth newid rheolau ail gartrefi
Cyngor yn colli achos Uchel Lys dros reolau i'w gwneud hi'n anoddach i drosi tŷ yn ail gartref neu lety gwyliau.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 23/09/2025
Fe allai un o siopau amlycaf stryd fawr Caergybi, sydd wedi bod yn wag ers bron i 20 mlynedd, gael ei thrawsnewid i "bar gemau", gyda chwaraeon a gweithgareddau dan do. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Caergybi: Cynllun 'bar gemau' ar gyfer siop sy'n wag ers 2008
Cyngor Môn wedi derbyn cais i drawsnewid hen siop Woolworths, Caergybi yn gyfleuster a allai greu 10 o swyddi.
021
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 20/09/2025
Gyda tharged ariannol o £380,000 mae pwyllgor Eisteddfod yr Urdd 2026 ym Môn wedi llwyddo i gasglu tua £200,000 hyd yma. B'nawn Sadwrn roedd na Ŵyl Groeso ym Mona wrth baratoi ar gyfer yr Eisteddfod fis Mai nesa'. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Eisteddfod yr Urdd 2026: 'Bydd croeso Môn yn un twymgalon'
Cannoedd o blant a phobl ifanc yn rhan o ddigwyddiadau ar Ynys Môn wrth i'r sir baratoi i gynnal Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf.
102
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 11/09/2025
Yn y Dinorben yn Amlwch heno lle mae tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod pryderon dros ddatblygiadau solar ym Môn. Here at the Dinorben in Amlwch where around 200 people have turned out for a meeting voicing opposition to a number of solar developments on the island.
131
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 10/09/2025
Mae disgwyl i borthladd fferi prysuraf Cymru weithredu ar gapasiti cyfyngedig am ddeufis i alluogi gwaith cynnal a chadw angenrheidiol. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Porthladd Caergybi: Deufis o waith cynnal a chadw yn cau terfynfa
Oherwydd gwaith cynnal a chadw mae wedi ei gadarnhau y bydd Terfynfa 3 yn cau unwaith eto tan ddechrau mis Tachwedd.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 10/09/2025
Mae cynllun i godi parc technoleg ar gyn-safle Alwminiwm Môn, sy'n gobeithio creu dros 1,000 o swyddi, wedi derbyn sêl bendith y cyngor sir. Yn ôl rheolwyr Parc Ffyniant bydd y safle 220 erw yn cynnwys dros 220,000 metr sgwâr o ganolfannau data. www.bbc.co.uk/cymrufyw/ert...
bbc.co.uk
Môn: Caniatáu cynllun parc technoleg fyddai'n 'creu 1,200 o swyddi'
Mae cynllun i godi parc technoleg ar gyn-safle Alwminiwm Môn, sy'n gobeithio creu dros 1,000 o swyddi, wedi derbyn sêl bendith y cyngor sir.
000
Gareth Wyn Williams @garethwynwilliams.bsky.social · 10/09/2025
Terminal 3 at Holyhead Port, which had been closed for about seven months, will close again until November www.bbc.co.uk/news/article...
bbc.co.uk
Storm-hit Holyhead port to partially close again for repair work
One of the berths, which had been closed for about seven months, will close until November.
010