Sign in

Cyngor Caerdydd

@cyngorcaerdydd.bsky.social
103 followers 5 following 162 posts

Tudalen Bluesky swyddogol Cyngor Caerdydd. Dilynwch @cardiffcouncil.bsky.social i gael y diweddaraf yn Saesneg.

PostsRepliesMedia
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 18/07/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Gwener: Cyngor Caerdydd a Myfyrwyr yn dod ynghyd i wella ailgylchu Disgyblion ADY yn ennill Gwobr genedlaethol y Celfyddydau Asda yn cael dirwy o £640K am fwyd wedi mynd heibio’r dyddiad dod i ben ‘DYDDiau hir o haf yn dychwelyd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd!!
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 15/07/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth: 21 Baner Werdd i'n parciau – Caeau Llandaf yn ennill am y tro cyntaf! Gwefan newydd i Wasanaethau Chwarae Plant Grantiau cymunedol wedi'u dyfarnu i glybiau chwaraeon Dyddiad i'r dyddiadur: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025!
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 11/06/2025
🚊Mae Cledrau Caerdydd yn dod! Mae Cam 1a (Caerdydd Canolog ↔ Caerdydd Bae) ar y trywydd iawn i'w lansio erbyn 2028, mewn pryd ar gyfer #UEFA2028 ⚽ Mwy yma: www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66... #CledrauCaerdydd #CludiantCynaliadwy #BaeCaerdydd
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 06/06/2025
Rydym wedi dathlu gosod y garreg gopa ar floc newydd o fflatiau Byw'n Annibynnol, sy’n rhan o waith adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown heddiw gyda @WatesGroup Darllenwch fwy am adeiladu Bloc B, a fydd yn darparu 24 o gartrefi cyngor iawn i bobl hŷn ⬇️
Ed Rees o Wates gyda Cyng. Lynda Thorne a Cyng. Huw Thomas yn Bloc B, Trem Y Mor
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 03/06/2025
🗞️ Y newyddion gennym ni ➡️ 150 mlynedd ers agor Ysgol Gynradd Adamsdown ➡️ Ehangu'r rhwydwaith o offer achub bywyd yng nghanol y ddinas ➡️ Cyllid grant ar gael i wella adeiladau cymunedol, ac fwy 👉 www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
Grŵp mawr o ddisgyblion ysgol, yn y maes chwarae, gyda murlun newydd ar wal yn y cefndir.Mae grŵp o ddisgyblion ysgol yn sefyll, gydag oedolyn o flaen murlun, ar wal.Byrddau gyda lliain bwrdd a phlatiau o fwyd yn null ystafell de Fictoraidd.Disgybl ysgol yn chwarae gyda thegan jyglo diabolo.
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 14/05/2025
Mae Caerdydd wrth ei fodd o gael ei henwi'n un o'r 13 hyb Gwasanaeth Sifil newydd! Bydd y fenter hon yn dod â chyfleoedd swyddi newydd ac yn cyfrannu at dwf economaidd ledled y DU. Carreg filltir bwysig i'n dinas! www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
Logo cyngor Caerdydd
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 08/05/2025
Eva Clarke, goroeswr yr Holocost, yn derbyn Gwobr Heddwch gan Gaerdydd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Mae ei stori o oroesi ac ymroddiad i addysg yr Holocost yn atgof pwerus o wydnwch a phwysigrwydd cofio'r gorffennol #DiwrnodVE www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
Eva Clarke yn siarad yn Seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr 2025Mynegodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd JonesY Wobr Heddwch Rhoddwyd i Eva Clarke 8 Mai, 2025
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 29/04/2025
Goleuo Castell Caerdydd yn goch wrth i’r ddinas nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop eleni gyda phicnic, partïon, ac arddangosfa. Stori lawn yma: newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
Dathliadau Diwrnod VE, Parc y Mynydd Bychan, 9 Mehefin 1945.
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 29/04/2025
Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, gan gynnwys Paradise Garden, The Canopi, The New Moon, Clwb Ifor Bach, Tiny Rebel, Porters (a mwy) wedi derbyn bron i £200,000 drwy ein cronfa lleoliadau llawr gwlad. 📷Jake Rowles
Esther a David yn Paradise Garden ar Heol y Plwca.
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 11/04/2025
Diweddariad dydd Gwener 👇 ✅ Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect diogelu ac adfer coetir yng ngogledd Caerdydd ✅ Gwaith i ddiogelu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol ar Ynys Echni yn dechrau ✅ Disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 10/04/2025
Hwyl y Pasg ym Mharciau #Caerdydd! 🐰 Ymunwch â'n Ceidwaid Parciau am daith dywys fendigedig a mwynhewch gemau a gweithgareddau celf cyffrous ar thema’r Pasg ar hyd y ffordd!
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 09/04/2025
Mae'r cynllun Beics i Blant yn cynnig beiciau a sgwteri wedi'u hailgylchu i ddisgyblion o deuluoedd incwm isel am ddim. Gall ysgol eich plentyn atgyfeirio disgyblion Blwyddyn 5 a hŷn, yn ogystal â brodyr a chwiorydd iau os yw eu taith yn dibynnu ar frawd neu chwaer hŷn. #Caerdydd
Disgybl ysgol yn pontio beic.
020
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 09/04/2025
Cofiwch ddweud eich dweud cyn 15 Ebrill ar y 'Cynllun Adneuo' sydd â’r nod o greu dros 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036. Darllenwch fwy 👉 www.cdllcaerdydd.co.uk/ymgynghoriad/ #GweithioIGaerdydd #Caerdydd #CaerdyddEinDinas #CaerdyddUnBlaned
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 08/04/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth, sy’n cynnwys: ✅ Arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn ✅ Mae mwy na 1,800 o ddisgyblion yn disgleirio mewn arddangosfa gerddorol ysblennydd diolch i wersi am ddim
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 04/04/2025
Diweddariad dydd Gwener 👇 ✅ Apêl Daeargryn Myanmar ✅ Cwrdd â'r bobl 'Y Tu ôl i'r Bae', Awdurdod Harbwr #Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd ✅ Picnic Dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng Nghastell Caerdydd ✅ Agor ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm yn swyddogol
Y Diweddariad
100
Reposted by Cyngor Caerdydd
DEC Cymru @deccymru.bsky.social · 03/04/2025
Daeth elusennau DEC yng Nghymru ynghyd tu allan i'r Senedd heddiw i lansio Apêl Daeargryn Myanmar yn dilyn y daeargrynfeydd pwerus sydd wedi achosi dinistr trychinebus. Diolch yn fawr i Llywodraeth Cymru am eich cefnogaeth hael. I gyfrannu i'r apêl: www.dec.org.uk/appeal/myanm...
dec.org.uk
Myanmar Earthquake Appeal
Powerful earthquakes in Myanmar have caused catastrophic devastation. Survivors urgently need critical support. Please donate now.
011
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 21/03/2025
🌿 Newyddion cyffrous! Mae Cyngor Caerdydd bellach yn cynnig casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos drwy gydol y flwyddyn! 🌱 Gan ddechrau'r wythnos hon, gallwch roi eich gwastraff gardd allan i’w gasglu bob pythefnos am 50 wythnos y flwyddyn. Gadewch i ni gadw Caerdydd yn wyrdd ac yn lân! 🌳
Gwastraff gardd
020
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 10/03/2025
🚦 Mae Caerdydd yn addasu terfynau cyflymder ar bedwar llwybr 20mya allweddol i wella llif traffig a diogelwch. Yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y ffyrdd hyn yn dychwelyd i 30mya.
Caerdydd
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 28/02/2025
Diweddariad dydd Gwener 👇 ✅ Cynllun cymorth tai a digartrefedd ✅ Ap Amgueddfa #Caerdydd yn cefnogi cymunedau LHDTC+ sy'n byw gyda dementia ✅ Dirwy i landlord a wnaeth geisio troi tenant allan ar WhatsApp ✅ Datblygwr wedi'i ddewis ar gyfer Rhaglen Tai Caerdydd a'r Fro
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 27/02/2025
Casgliadau gwastraff gardd pythefnosol i ailddechrau o ddydd Mawrth 18 March 2025. I ddod o hyd i fanylion eich casgliadau lawrlwythwch app Cardiff Gov 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/preswyly... neu ewch i’n gwefan 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/preswyly... #GweithioIGaerdydd #Caerdydd #CaerdyddUnBlaned
Bin a bag gwastraff gardd
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 26/02/2025
Dim ond 4 wythnos i fynd nes bod yr ymgynghoriad ar ein strategaeth perygl llifogydd lleol yn cau! Ewch i wefan yr ymgynghoriad trwy ddilyn y ddolen isod i rannu’ch syniadau â ni. 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyn...
Nant yr Eglwys Newydd.
101
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 26/02/2025
Mae cam nesaf yr ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Newydd Caerdydd, a elwir yn Gynllun Adnau neu’r ‘Cynllun Llawn', ar y gweill. Bydd y cynllun hwn yn llunio twf y ddinas tan 2036, gan ddarparu 32,300 o swyddi, 26,400 o gartrefi, a #Caerdydd wyrddach a mwy cynaliadwy.
Graffig CDLl
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 25/02/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth, sy’n cynnwys: ✅ Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach ✅ Caerdydd Un Blaned yn torri allyriadau carbon y cyngor 18% ✅ Myfyrwyr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin #Caerdydd wedi'u hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd ym maes adeiladu
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 25/02/2025
Mae Gŵyl Llên Plant #Caerdydd yn ôl gyda rhestr o awduron a darlunwyr arobryn gan gynnwys Emma Carroll, Jack Meggitt-Phillips, Sioned Wyn Roberts, Rob Biddulph a Maz Evans. Rhagor o wybodaeth ar wefan yr ŵyl 👉 www.cardiffkidslitfest.com/cy/
Dau berson wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd anifeiliaid, yn darllen llyfrau.
011
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 25/02/2025
Mae’r arbenigwr tai partneriaeth ac un o ddarparwyr blaenllaw atebion adeiladu preswyl, adfywio ac ôl-ffitio, Lovell Partnerships, wedi cael ei benodi'n gynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro. Mwy isod.
Cyngor tai newydd
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 24/02/2025
Heno, i nodi 3ydd pen-blwydd y rhyfel yn Wcráin, bydd adeiladau ledled y DU, gan gynnwys Castell #Caerdydd, yn cael eu goleuo’n felyn a glas. Bydd baner Wcráin hefyd yn hedfan ar hanner mast fel arwydd o gefnogaeth fyd-eang barhaus. 💛 💙
Castell Caerdyddbaner Wcráin
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 24/02/2025
🗞️ Y newyddion gennym ni ➡️ Myfyrwyr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd wedi'u hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd ym maes adeiladu ➡️ Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach
Roedd grŵp o bobl yn sefyll o flaen safle adeiladu, yn gwisgo hetiau caled a festiau gwelededd uchel melyn.Eisteddodd grŵp o bobl o amgylch bwrdd, yn gwisgo festiau gwelededd uchel oren.Roedd grŵp o bobl yn sefyll o flaen safle adeiladu, yn gwisgo hetiau caled a festiau gwelededd uchel melyn.
110
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 21/02/2025
📢 Mae cynigion cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2025/26 wedi’u cyhoeddi! Mwy o arian i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, strydoedd glanach, ac adnewyddu cymdogaethau. Mae eich llais wedi llywio’r blaenoriaethau hyn. #CyllidebCaerdydd #CymunedYnGyntaf
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 21/02/2025
Da iawn i’n timau sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar lannau afon Taf yn clirio sbwriel o Arglawdd Fitzhamon. Gan gael gwared ar boteli a bagiau plastig, caniau a chardbord mae'r lan afon yn edrych yn lanach! #GweithioIGaerdydd #Caerdydd #CaerdyddEinDinas #CaerdyddUnBlaned
Sbwriel ar lannau afon Taf cyn y glanhau.Sbwriel ar lannau afon Taf cyn y glanhau.Glannau afon Taf ar ôl y glanhau.Glannau afon Taf ar ôl y glanhau.
010
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 19/02/2025
Y Diweddariad: 18 Chwefror 2025 ✅ Cyngor teithio ar gyfer Cymru yn erbyn Iwerddon ar 22 Chwefror yng Nghaerdydd ✅ Cynllun beics yn helpu plant mewn teuluoedd incwm isel i ddewis teithio llesol i’r ysgol ✅ Grantiau cyngor yn helpu gyrwyr tacsi Caerdydd i dorri allyriadau
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 31/01/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys: ✅ Apêl am wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth cyfeillio newydd i ofalwyr di-dâl ✅ Coed afalau ‘Gabalva’ prin wedi'u plannu yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 100 mlynedd ✅ Cyngor Caerdydd yn cefnogi theatr ymylol newydd yn Porter's
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 31/01/2025
Rydym yn lansio cynllun cyfeillio newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl ac yn chwilio am wirfoddolwyr a allai roi ychydig o amser i helpu. Eisiau gwybod mwy? ☎️ 02920 234 234 📧 CyfeillioGofalwyr@caerdydd.gov.uk
Gwraig hyn gyda ffrind
001
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 28/01/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth yr wythnos hon ✅Seremoni Genedlaethol yng Nghymru i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost ✅Ysgol Uwchradd Willows yn ennill canmoliaeth gadarnhaol gan Estyn ✅Mae ehangu Ysgol Mynydd Bychan yn dystiolaeth bellach o ymrwymiad Cyngor Caerdydd i'r Gymraeg
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 28/01/2025
Mae ein hymgynghoriad cyllideb 2025/26 yn cau'n fuan. Cwblhewch ein harolwg byr heddiw a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau hanfodol Cyngor #Caerdydd. 👉 www.caerdydd.gov.uk/CYM/Eich-Cyn...
Dweud eich dweud ar Gynigion Cyllideb y Cyngor.
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 27/01/2025
Mae eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau a 30 mlynedd ers yr hil-laddiad yn Bosnia. Heddiw, rydym yn cofio'r Holocost a'r hil-laddiadau diweddar, gan sefyll yn erbyn casineb a gweithio #AmDdyfodolGwell
Castell Caerdydd – porffor Graffig #DCH2025
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 24/01/2025
Mae’n debyg y bydd hi’n noson rewllyd arall – sy’n golygu bydd ei Tîm Priffyrdd yn brysur yn #GweithioArEichCyferChi i raeanu’r ffyrdd er mwyn #CadwCaerdyddiSymud Rhagor o wybodaeth 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/preswyly... #GweithioIGaerdydd #CaerdyddEinDinas #Caerdydd
Graeanwyr
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 24/01/2025
Mae rhybuddion tywydd mewn grym ar gyfer #Caerdydd dros y penwythnos. Cadwch olwg ar wefan y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf weather.metoffice.gov.uk/warnings-and... Rhoi gwybod am broblem - www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyn...
Cwmwl llwyd gyda !
101
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 21/01/2025
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth yr wythnos hon ✅Ysgol Fitzalan yn rhagori yn ei harolwg Estyn diweddaraf ✅Cynlluniau atyniad newydd Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ✅Strategaeth uchelgeisiol i foderneiddio eiddo'r ALl ✅Man chwarae newydd ar thema phosau Mwy yn y sylwadau
Y Diweddariad
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 21/01/2025
🗞️ Y newyddion gennym ni ➡️ Ysgol Gynradd Sant Cadog yn derbyn canmoliaeth gan Estyn ➡️ Ymgynghoriad cyllideb #Caerdydd ar agor ➡️ Cynllun ailgylchu 'Sachau Didoli' Caerdydd yn cychwyn ar y cam cyflwyno terfynol, ac fwy 👉 www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
Disgyblion yn greadigolDisgyblion yn dysgu gwahanu deunyddiau i chwilio am arteffactau Oes y CerrigDysgwyr yn ymgorffori technoleg yn eu gwers llythrennedd
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 13/01/2025
🚮Cam terfynol Cynllun Ailgylchu 'Sachau Didoli' yn dechrau 20 Ionawr! Bydd 36,400 o gartrefi yn ymuno. Bydd trigolion Butetown, Treganna, Creigiau, Cyncoed, y Tyllgoed, Llanisien, Llanrhymni, Pentref Llaneirwg a Glan yr Afon yn derbyn cynwysyddion ailgylchu.
Newidiadau i’ch casgliadau ailgylchu O ddydd Mawrth 4 Mawrth 2025 Tre-biwt, Treganna, Creigiau, Cyncoed, y Tyllgoed, Llanisien, Llanrhymni, Pentref Llaneirwg a Glanyrafon
111
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 13/01/2025
Diolch i setliad gwell na'r disgwyl gan LlC, mae’r bwlch cyllidebol o £60m wedi gostwng i £23.4m ar gyfer 2025/26. Ond er gwaethaf hyn, mae chwyddiant a galw cynyddol am wasanaethau yn golygu bod cost gwasanaethau hanfodol yn parhau i gynyddu.
Cynigion allweddol ar gyfer cyllideb 2025/26 (Pob ffigur o'i gymharu â chyllidebau cyfredol 2024/25).
Cynyddu buddsoddiad mewn Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol i dalu costau cynyddol: 
YSGOLION i dderbyn £19.8m ychwanegol (gan sicrhau nad oes targedau arbedion cyffredinol ar gyfer ysgolion yn 2025/26).
GWASANAETHAU ADDYSG i dderbyn £8.8m ychwanegol
GWASANAETHAU PLANT i dderbyn £7.5m ychwanegol
GWASANAETHAU OEDOLION i dderbyn £12.1m ychwanegol
Bwlch yng nghyllideb 2025/26 - £23.4m
ARBEDION EFFEITHLONRWYDD ARFAETHEDIG:
Gostyngiadau sylweddol yn y swyddfa gefn a mabwysiadu technoleg newydd i arbed costau.
Gostyngiad wedi'i reoli yn nifer y staff drwy ddiswyddo gwirfoddol.

£11.5m - Cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd
Cynigion allweddol ar gyfer cyllideb 2025/26 - Cyllideb Cyngor Caerdydd
Mae darparu addysg a gofal cymdeithasol - cefnogi plant, oedolion, a phobl hŷn - yn rhoi cyfrif am dros 70% o gyllideb y Cyngor.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gost o ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn wedi codi'n sylweddol. 
Mae'r Dreth Gyngor ond yn rhoi cyfrif am ryw 26% o gyllideb y Cyngor. 

Cynnydd o 1% = £1.9m
Er nad oes ffigur wedi'i bennu eto ar gyfer cynnydd yn y dreth gyngor, byddai unrhyw arian a godir fel hyn yn helpu i wrthbwyso'r bwlch o £23.4 miliwn yn y gyllideb, ochr yn ochr ag arbedion effeithlonrwydd, newidiadau i wasanaethau, ffioedd uwch, a defnyddio cronfeydd wrth gefn clustnodedig.
110
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 09/01/2025
Mae’n noson rewllyd arall heno ac mae ein graeanwyr allan yn helpu i gadw #Caerdydd i symud, ar lwybrau blaenoriaeth ar ffyrdd y ddinas yn seiliedig ar ddata gorsafoedd tywydd. Mae Rhybudd Melyn am iâ ar waith ar gyfer #Caerdydd o 3am i 11am fory.
Graeanwr o'r Gareth Hale
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 07/01/2025
Gyrrwch yn ofalus! Mae'n edrych fel noson rhewllyd arall. Gan ddefnyddio hyd at 60 tunnell o raean ar noson arferol, bydd ein graeanwyr allan yn helpu i gadw #Caerdydd i symud, ar lwybrau blaenoriaeth ar ffyrdd y ddinas yn seiliedig ar ddata gorsafoedd tywydd.
Graeanwr o'r Snow Ledley
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 07/01/2025
Oherwydd amodau rhewllyd, efallai y bydd oedi i gasgliadau gwastraff. Dylech ei adael ar ymyl y ffordd a bydd yn cael ei gasglu cyn gynted â phosib.
Arwydd rhybudd iâ
111
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 06/01/2025
Gyrrwch yn ofalus! Mae'n edrych fel noson rhewllyd arall, ac mae Rhybudd Melyn am eira a rhew ar waith yng Nghaerdydd tan 10am yfory - www.metoffice.gov.uk. Mae hyn yn golygu y bydd ein tîm Priffyrdd allan yn rhoi graean ar lwybrau blaenoriaeth ac yn #CadwCaerdyddiSymud
Graeanwr yn cael ei lenwi gan JCB
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 03/01/2025
Ni fydd y Cyngor yn casglu coed Nadolig go iawn fel rhan o gasgliadau ymyl y ffordd. Os oes gennych goeden Nadolig go iawn, gallwch ddod â hi i un o'n mannau gollwng. I gael manylion llawn am leoliadau gollwng ac oriau agor, ewch i www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyn...
Coed Nadolig yn cael eu llwytho i gerbyd gwastraff Cyngor Caerdydd
000
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 02/01/2025
Gyrrwch yn ofalus! Mae tywydd rhewllyd o’n blaenau yr wythnos hon, gyda Rhybudd Melyn ar gyfer eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yng Nghaerdydd, o ddydd Sadwrn ymlaen (ond cadwch lygad ar wefan y Swyddfa Dywydd am ddiweddariadau rheolaidd: www.metoffice.gov.uk).
Graeanwr o'r Catherine Sleeta Jones
111
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 31/12/2024
Mae @metoffice wedi cyhoeddi rhybudd Melyn ar gyfer #Caerdydd a disgwylir gwyntoedd cryf o hanner nos a gydol Dydd Calan. Os ydych chi'n bwriadu teithio yn ystod yr amseroedd hyn, byddwch yn ofalus, cynlluniwch ymlaen llaw a chymerwch yr holl ragofalon angenrheidiol.
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 24/12/2024
🎉🎄 Dyma ddiwrnod olaf ein calendr Adfent! Heddiw, rydym yn dathlu Hazel Davies, ein Menyw Lolipop annwyl sydd wedi bod yn cadw plant yn ddiogel yn Ysgol Gynradd Pentyrch ers 50 mlynedd! Haul neu law, gallwch ddibynnu ar ei harwyddair "Siwrne Saff Adre". Stori lawn yn y sylwadau.
100
Cyngor Caerdydd @cyngorcaerdydd.bsky.social · 23/12/2024
🎅🎁 Mae'n bryd agor drws olaf ond un ein calendr Adfent i ddatgelu penodiad Borley Engineering Services Ltd (BESL) yn brif gontractwr dros dro prosiect Campws Cymunedol y Tyllgoed.
100