Sign in

Cymdeithas yr Iaith

@cymdeithas.cymru
482 followers 41 following 487 posts

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a'n cymunedau fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros ryddid a chyfiawnder. linktr.ee/Cymdeithas

PostsRepliesMedia
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 07/10/2026
🌟 Sesiwn i Aelodau Newydd 🌟 Rydyn ni’n chwilio o hyd am aelodau brwdfrydig i gyfrannu - boed hynny gyda’n grwpiau ymgyrchu, trwy ddylunio, cyfieithu, creu nwyddau neu unrhyw ffordd arall✊
110
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 25/09/2026
🌊 Troi'r Llanw dros y Gymraeg: Cartrefi i Bobl Leol Byddwn yn cynnal cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Plaid Cymru wythnos nesaf🤝 Bydd Walis George ar ran y Gymdeithas yn cyflwyno galwadau canolog Siarter Troi’r Llanw i warchod ein cymunedau Cymraeg📣
101
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/09/2026
Nabod rhywun a fyddai’n berffaith ar gyfer un o’r swyddi? Enwebwch nhw!👥 Awyddus i ymymryd ag un o’r swyddi hyn? Enwebwch eich hun!🙋 ⏰Dyddiad cau: 12yh, Dydd Iau, 8 Hydref 📝Ffurflen enwebu: cymdeithas.cymru/enwebu 📞 Cysylltwch am fwy o wybodaeth: post@cymdeithas.cymru / 01970624501
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/09/2026
Neges i aelodau📢 Rydym yn ail-agor enwebiadau ar gyfer swyddi ar Senedd y Gymdeithas! Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o dim brwdfrydig a gweithgar yn ystod y cyfnod cyffrous hwn gyda’r Llywodraeth newydd mewn grym💪
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 17/09/2026
Mae ein baner 'Cymru Rydd i Bawb' ar gael ar ein gwefan - gyda phostio am ddim rhwng nawr a Rali Annibyniaeth Aberystwyth ar 26 Medi📣 Felly, prynwch nawr i sicrhau eu derbyn mewn pryd!📨 #baner #rali #annibyniaeth
021
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 06/09/2026
📅 Cadwch y Dyddiad! Yn y cyfarfod, bydd: 📋 Adroddiadau ar waith y Gymdeithas dros y flwyddyn yn cael eu cyflwyno 🗳️ Swyddogion yn cael eu hethol i wasanaethu ar Senedd y Gymdeithas 💬 Amryw o gynigion yn cael eu cyflwyno a'u trafod
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 03/09/2026
📣 Arwyddwch y ddeiseb! Ar hyn o bryd, mae pobl Cernyw yn cael eu gorfodi i ddewis y categori ‘Arall’ wrth ddatgan eu hunaniaeth genedlaethol yn y Cyfrifiad. ✍️ Arwyddwch y ddeiseb i gefnogi’r alwad i gyflwyno’r blwch ticio ‘Cernywaidd’ yng Nghyfrifiad 2031.
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 28/08/2026
🎶👕 Apêl am eitemau 🖼️⚽️ Rydym yn chwilio am eitemau arbennig ar gyfer ein ocsiwn ar-lein yn yr Hydref💰️ Os oes gennych chi eitem yr hoffech ei chyfrannu, anfonwch neges at post@cymdeithas.cymru 📨 📣 Helpwch ni i ledaenu’r neges drwy rannu’r post hwn gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cysylltiadau
012
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 26/08/2026
Yn ystod Eisteddfod y Garreg Las, fe wnaethon ni lansio Siarter Troi’r Llanw Dros y Gymraeg🧾 Galwn ar y Llywodraeth i weithredu ar alwadau’r Siarter ar fyrder i gyflwyno’r newidiadau sylfaenol er mwyn i’r Gymraeg fyw! Dyma’r cyfle✊🏼 #LlywodraethCymru #TroirLlanw #Cymraeg
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 26/08/2026
⏰ Mae Cynllun 100 Diwrnod y Blaid yn dod i ben heddiw! Rydyn ni’n croesawu’r blaenoriaethau a’r cynlluniau sydd wedi eu cyhoeddi, megis: 🏠 Dechrau ar y gwaith o ddeddfu am Hawl i Dai Digonol 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Trafodaethau ar ddynodi ardaloedd dwysedd uwch 🎥 Sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 08/08/2026
✨Heno! Ein gig olaf ni eleni - Bob Delyn + Mwsog + Rhys Dafis 🪉 🎻 🎶 Mae'r tocynnau'n gwerthu'n gyflym, felly peidiwch â cholli'r cyfle! 📍 Clwb Rygbi Crymych ⏰ Drysau'n agor am 8yh 🎟️ £15, cymdeithas.cymru/digwyddiadau... #gig #eisteddfodgenedlaethol
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 02/08/2026
✨ Heno! Ein gig cyntaf yn ystod Eisteddfod y Garreg Las - Cowbois Rhos Botwnnog + Rhi Jorj 🎶 ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych 🎫 £15: cymdeithas.cymru/digwyddiadau... Peidiwch â cholli allan! #gig #eisteddfod
030
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 01/08/2026
Eisteddfod y Garreg Las 2026 - ni’n barod🙌🏼 Dewch draw i’r stondin i’n gweld ni🥳 Bydd digwyddiadau amrywiol ymlaen ‘da ni trwy gydol yr wythnos! ✨Stondin 1019-1020🎪 #eisteddfod #garreglas2026
010
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 29/07/2026
✨DIWEDDARIAD✨ Gig Eisteddfod y Garreg Las - Nos Iau ar yr Arfordir⛵️ Ar ôl i Gwenno orffen ei set, bydd dau DJ ifanc, lleol, yn parhau â'r tiwns nes yr oriau mân🎶🎛️ 📍 Yr Angel, Aberteifi 📆 6 Awst 2026 ⏰ 7.30yh - 2yb 🎟️ £15, cymdeithas.cymru/digwyddiadau... #gigs #eisteddfodgenedlaethol #cymraeg
010
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 28/07/2026
✨ Crys-T newydd - Cefnogi Deddf Eiddo ers 1991 ✨ Ar gael i'w brynu ar stondin y Gymdeithas yn Eisteddfod y Garreg Las 2026! ⚡ Nifer cyfyngedig - peidiwch â cholli'r cyfle i brynu un! #EisteddfodGenedlaethol #cymdeithasyriaith #DeddfEiddo
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 09/07/2026
Mis i fynd tan ein gig ni, 'Nos Iau ar yr Arfordir', yn Eisteddfod y Garreg Las 2026 🎶 Noson i ddathlu cerddoriaeth Datblygu, gyda lein-yp arbennig: ✨ Patblygu / Datblygu ✨ Malcolm Neon ✨ Gwenno (set DJ) ✨ Eddie Ladd ✨️ Osgled ✨ Ionzi
111
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 03/07/2026
Rali Troi'r Llanw dros y Gymraeg: Amserlen y Dydd🌊 📍 Stadiwm Y Traeth, Porthmadog 📆 Fory, 4 Gorffennaf ⏰ 1yh Welwn ni chi yna! #TroirLlanw #Cymraeg #Rali
011
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 01/07/2026
Dewch gyda Merched Peryglus y Gymdeithas i Rali Troi'r Llanw dros y Gymraeg ddydd Sadwrn yma🌊 📍 Stadiwm Y Traeth, Clwb Pêl-droed Porthmadog 📆 4 Gorffennaf ⏰ 1yh Ai ti fydd y ferch beryglus nesa?🙋‍♀️💪 #TroirLlanw #rali #cymdeithasyriaith
011
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 23/06/2026
📣 Rali Troi'r Llanw Dros y Gymraeg: Cerddoriaeth 🎶 ✨️ Cleif Harpwood ✨️ Gwyneth Glyn ✨️ Yr Anghysur ✨️ Y Ddelwedd Dewch yn llu🌊 📍 Stadiwm Y Traeth, Porthmadog 📆 4ydd o Orffennaf ⏰ 12 o’r gloch #Rali #TroirLlanw #Cymraeg
011
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 19/06/2026
YFORY - Digwyddiad i Ddysgwyr - Actio yn y Gymraeg🎭️ Sesiwn anffurfiol i ymarfer eich Cymraeg trwy ddarllen ac actio sgriptiau✨️ 📆 Dydd Sadwrn, 20 Mehefin ⏰️ 10 - 1yh 📍 Llyfrgell Caerffili, CF83 1JL
120
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 18/06/2026
Mae sylwadau Joe Martin AS yn y Senedd wythnos hon yn gwbl annerbyniol❌ Safwn yn gadarn yn erbyn hiliaeth. Mae croeso i bawb yng Nghymru, ac mae'r Gymraeg yn perthyn inni gyd🤝 Rhown stop ar Reform UK a sylwadau sy'n hau casineb🚫 #LlywodraethCymru #Senedd
0167
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 12/06/2026
🚔 Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi comisiynu adolygiad annibynnol o strwythurau heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr. ✍️ Rydyn ni wedi ysgrifennu at Gadeirydd yr adolygiad yn rhybuddio y byddai creu heddluoedd trawsffiniol yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg a chymunedau Cymru.
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 10/06/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Mwsog, Bob Delyn a Rhys Dafis🎸 📅 Dydd Sadwrn, 8 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 08/06/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Pys Melyn, Breichiau Hir a Blêr🎸 📅 Dydd Gwener, 7 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 07/06/2026
Digwyddiad i Ddysgwyr - Actio yn y Gymraeg🎭️ Sesiwn anffurfiol i ymarfer eich Cymraeg trwy ddarllen ac actio sgriptiau✨️ 📆 Dydd Sadwrn, 20 Mehefin ⏰️ 10 - 1yh 📍 Llyfrgell Caerffili, CF83 1JL
020
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 04/06/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Bwncath a Lowri Evans🎼 📅 Dydd Iau, 6 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
010
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 04/06/2026
Mae arweiniad yn cyfrif - diolch i'r Trefnydd newydd, Heledd Fychan AS, am wneud defnydd helaeth o'r Gymraeg wrth ymateb i gynifer o gwestiynau Saesneg yn y Senedd yr wythnosau yma💬
140
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 31/05/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Tecwyn Ifan a Steve Eaves🎵 🎪 Noson ar y cyd â Gŵyl Fel 'Na Mai 📅 Dydd Mercher, 5 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 29/05/2026
Mae’r profiadau rydym wedi eu casglu gan blant a phobl ifanc yn cadarnhau ein gwaith ymchwil ni, sef nad oes digon ohonynt yn derbyn gwersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg🏊️ Mae’r canlyniadau’n dangos darlun anghyson ar draws Cymru, gyda rhai ardaloedd ddim yn darparu gwersi Cymraeg o gwbl!🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
111
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 23/05/2026
Y stondin yn barod ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026🎪 Dewch draw i'n gweld ni!🤗 Stondin 82-83✨️ #eisteddfodyrurdd #urdd #cymdeithasyriaith
020
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/05/2026
Ar ddydd Llun, byddwn yn dechrau cyfri i lawr ar gyfer Rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’⏰🪧
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/05/2026
Ar ddydd Sadwrn, byddwn yn lansio Ffilm y Gymdeithas, gyda sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Angharad Tomos a Jac Jolly🎞️🎤
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/05/2026
Trwy gydol yr wythnos, byddwn yn casglu profiadau plant Cymru o wersi nofio Cymraeg, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ddydd Gwener🏊 Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ymweld â'r stondin am 2yh ar ddydd Llun er mwyn ateb cwestiynau am wersi nofio🙋‍♀️
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 21/05/2026
Beth sydd ymlaen ar y stondin yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd?🎪 Dewch draw i'n gweld ni🤩
100
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 19/05/2026
Cafodd cyfarfod y cabinet ei gynnal ddoe drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf erioed! Dyma gam pwysig a hanesyddol sy’n rhoi statws i’r iaith ar frig gwaith y llywodraeth🗣️
181
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 18/05/2026
Cyhoeddiad Arbennig - Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 🎉🎸 Gwrandewch ar raglen Rhys Mwyn (Radio Cymru) am 8:15 HENO i glywed y cyhoeddiad mawr!👀 #EisteddfodGenedlaethol #Gigs
010
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 18/05/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Bragdy'r Beirdd🪉 🎼 Noson o gerddi a chaneuon 📅 Dydd Mawrth, 4 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
001
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 17/05/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Noson Nostalgia ar y cyd â Fflach Cymunedol🎸 Lein-yp: ✨️ Jess ✨️ Mattoidz ✨️ Jonny Panic Manylion: 📅 Dydd Llun, 3 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
110
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 14/05/2026
📚✊ Dyma blant a rhieni Ysgol Clydau yn ymgyrchu tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro bore ‘ma dros ddyfodol eu hysgol. Heddiw hefyd, mae’r Cyngor wedi bod yn trafod sefydlu Ysgol Gymraeg yn Aberdaugleddau🏫 ...
110
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 14/05/2026
Llongyfarchiadau i aelodau'r cabinet newydd. Dyma gyfle i’r cabinet newydd weinyddu drwy’r Gymraeg, a sicrhau bod gan y Gymraeg statws llawn fel iaith gwaith yn y Llywodraeth📢✊️ Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â’r gweinidogion i drafod y Gymraeg a’n cymunedau ar draws gwaith y Llywodraeth💬🤝
130
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 13/05/2026
Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 - Cowbois Rhos Botwnnog a Rhi Jorj🎶 📅 Dydd Sul, 2 Awst ⏰ Drysau'n agor am 8yh 📍 Clwb Rygbi Crymych, SA41 3QF 🎫 £15 Mynnwch docynnau nawr: cymdeithas.cymru/digwyddiadau...
011
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 11/05/2026
Mae baner Rali ‘Troi’r Llanw dros y Gymraeg’ wedi ei osod ar hyd ffens Stadiwm Y Traeth🚩 Nod y rali fydd galw ar Lywodraeth newydd Cymru i droi’r llanw o blaid y Gymraeg, yn dilyn yr holl ddegawdau o ymgyrchu🌊 Os na ddaliwn ar y cyfle hwn, yna pa bryd y daw gweithredu effeithiol dros y Gymraeg?📢
155
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 07/05/2026
Mae dyfodol ein cymunedau Cymraeg yn ein dwylo ni. Peidiwch â gwastraffu’r cyfle heddiw - pleidleisiwch 🗳️🏴 #Etholiad #Senedd #Cymraeg
020
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 01/05/2026
✨ Dyma lein-yp Gigs Eisteddfod y Garreg Las 2026 🎶 📍Clwb Rygbi Crymych 📆 2 - 8 Awst 🎫 Tocynnau ar werth fan hyn: cymdeithas.cymru/gigs Mwy o gyhoeddiadau i ddilyn, cadwch lygad👀 #eisteddfod #gigs #eisteddfodgenedlaethol
030
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 29/04/2026
Dyma rhai o aelodau Cell Llundain yn y rali Homes for Us Alliance🏘️ Mae tai yn fater i Senedd a Llywodraeth Cymru, ac rydym wir yn gobeithio y bydd y llywodraeth nesaf yn arwain y ffordd ac yn gosod esiampl i lywodraethau mewn rhannau eraill o’r DU🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿✊️ #Tai #CymunedauCymraeg #LlywodraethCymru
030
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 27/04/2026
A weloch chi Siân Howys ar Newyddion S4C wythnos diwethaf yn trafod ein galwadau ar gyfer y Llywodraeth newydd? 🎥👏 I ddysgu mwy, darllenwch ‘Gwneud nid Dweud: Gofynion Maniffesto ar gyfer y Seithfed Senedd’ 👉 cymdeithas.cymru/cyhoeddiadau...
012
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 24/04/2026
🎶 Gigs Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las🎶 Dyfalwch ble ydyn ni heddi🤭 Cadwch lygad wythnos nesaf am gyhoeddiad lleoliad a lein-yp wythnos nesa🤩 #EisteddfodGenedlaethol2026 #Gigs
000
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 16/04/2026
Farage yn ymweld ymweliad â Merthyr Tydfil heddiw ... Beth wyt ti'n ei wneud yng Nghymru, Nigel? Dywedais di nad oes dal beth all ddigwydd yng nghanol Cymry sy'n siarad eu "hiaith estron"🤔❌ golwg.360.cymru/newyddion/21...
020
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 14/04/2026
📣 Codwch eich llais trwy bleidleisio yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai, ac eto trwy fynychu rali 'Troi'r Llanw dros y Gymraeg' i bwyso ar y llywodraeth newydd i weithredu 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 #Senedd2026 #NYCAW
111
Cymdeithas yr Iaith @cymdeithas.cymru · 08/04/2026
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru yn erbyn y Dde Eithafol‼️ Yng Nghymru, rydyn ni’n sefyll ar ein traed ac yn dweud ein dweud pan nad yw rhywbeth yn iawn. Unwch yn erbyn casineb ac ymunwch ag ymgyrch United Cymru❌ #UnitedCymru 🤝
085