Sign in

Cylchgrawn Addysg Cymru

@cylchgrawnaddysg.bsky.social
40 followers 53 following 57 posts

Cyfnodolyn mynediad agored platinwm, a adolygir yn ddwbl-ddall gan gymheiriaid sy’n cyhoeddi gwaith ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ar ymarfer a pholisi addysg. English: @walesjournaled.bsky.social 📚 Cyhoeddwyd gan @gwasgprifcymru.bsky.social

PostsRepliesMedia
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 06/10/2026
🎨 Pwnc: Celfyddydau Mynegiannol Darllenwch gasgliad o ymchwil Mynediad Agored ar Celfyddydau Mynegiannol yng Nghwricwlwm Cymru, gan ddod ag erthyglau o Gylchgrawn Addysg Cymru a Ffocws ar Ymarfer ynghyd. 🔹 journal.uwp.co.uk/wje/collecti...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 15/09/2026
Mae’r casgliad Ffocws ar Ymarfer yn cynnwys erthyglau byrrach sy’n archwilio ymarfer, ble bynnag y mae’n digwydd. Yn y casgliad hwn, rydym yn benodol yn croesawu erthyglau gan ymarferwyr ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. 📖 journal.uwp.co.uk/wje/issue/25... 📝 journal.uwp.co.uk/wje/site/foc...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 02/09/2026
✨ Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr Cadwch lygad ar yr ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Addysg Cymru. Drwy danysgrifio, byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gennym gyda dolenni i rifynnau, erthyglau a phenodau podlediad newydd. ➡️ mailchi.mp/c0460967a456...
011
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 18/08/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr gan Jackie Beckett a Julian Ayres ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Tuag at gysondeb: archwilio darpariaeth prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar draws rhwydwaith darparwyr
Mae’r erthygl hon yn adrodd ar astudiaeth ansoddol a gynhaliwyd o fewn rhwydwaith o ddarparwyr prentisiaethau sy’n darparu cymwysterau iechyd a gofal ledled Cymru. Er bod llawer o brentisiaid yn dechr...
000
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 30/07/2026
🎪📚Eisteddfod y Garreg Las 📚🎪 Fore Gwener nesaf am 10.30yb yn Llwyfan Llyfrau y Pentref Llên, dewch i wrando ar drafodaeth banel gydag @andrewjamdavies.bsky.social, Jeremy Griffiths ac Elin Haf Gruffydd Jones, cyfranwyr y gyfrol, 'Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru'.
022
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 04/08/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Gwella Hyder a Chymhwysedd yn y Gymraeg drwy Ddarpariaeth Ddwyieithog gan Amy Lewis ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Gwella Hyder a Chymhwysedd yn y Gymraeg drwy Ddarpariaeth Ddwyieithog
Mae strategaeth ‘Cynnig Rhagweithiol’ Llywodraeth Cymru (2022) yn ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy sicrhau bod gan bawb sy’n gweithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gymraeg lefel cwr...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 21/07/2026
📚 Pwnc: Anghenion Dysgu Ychwanegol Darllenwch gasgliad o ymchwil Mynediad Agored ar Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan ddod ag erthyglau o Gylchgrawn Addysg Cymru a Ffocws ar Ymarfer ynghyd. 🔹 journal.uwp.co.uk/wje/collecti...
001
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 16/07/2026
Archwilio’r defnydd o dechnoleg testun-i-leferydd i gefnogi darllen a deall yn y Gymraeg: astudiaeth achos gan Sean Howe 📝 FFOCWS AR YMARFER ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Archwilio’r defnydd o dechnoleg testun-i-leferydd i gefnogi darllen a deall yn y Gymraeg: astudiaeth achos
Yn dilyn tarfu ar addysg o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws, gwelwyd effaith dirywiol ar sgiliau darllen a deall Cymraeg ymhlith disgyblion o fewn un ysgol yn Ne Cymru. Mae hyn yn nodweddiadol o sg...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 09/07/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned gan Louise Allen-Walker a Daniel Williams ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned
Pwrpas Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio canfyddiadau staff prifysgol o hyfforddiant moesol a moesegol ar raglenni lle bydd graddedigion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned, megis plismona a ...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 07/07/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD Rhwystrau ac atebion i weithredu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yng Nghymru gan Jane Gatley a Janet Oostendorp-Godfrey Cylchgrawn Addysg Cymru 28.1 ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Rhwystrau ac atebion i weithredu cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yng Nghymru
Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn canolbwyntio ar bedwar diben, sy’n adlewyrchu gwerthoedd a nodau addysgol. Yn ategu’r pedwar diben mae pwyslais ar ymreolaeth athrawon wrth gynllunio’r cwricwlwm. Ath...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 16/06/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD Rhieni, Athrawon a’r Pandemig – Gwersi o brofiad COVID yng Nghymru ar gyfer partneriaethau rhwng y cartref a’r ysgol gan Prysor Mason Davies, Jane Waters-Davies, Clive Underwood Cylchgrawn Addysg Cymru 28.1 ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Rhieni, Athrawon a’r Pandemig – Gwersi o brofiad COVID yng Nghymru ar gyfer partneriaethau rhwng y cartref a’r ysgol
Yn sgil darparu addysg yn y cartref i blant yn ystod pandemig COVID-19, symudodd y rhyngweithio cyfarwydd rhwng ysgolion a rhieni i realiti newydd ar-lein, gan ein gorfodi i ailystyried agweddau a oed...
001
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 11/06/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD Polisi a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Addysg yng Nghymru gan Stephen Atherton, Panna Karlinger, Cyrus Castle Cylchgrawn Addysg Cymru 28.1 ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Polisi a Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Addysg yng Nghymru
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio’r fframweithiau polisi, y gofynion datblygiad proffesiynol, a strwythurau sefydliadol sy’n angenrheidiol ar gyfer integreiddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn effeit...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 09/06/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD Adolygiad Systematig o Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu Plant 5-8 oed: Y Goblygiadau i Gymru a Thu Hwnt gan Anwen Rhys Jones, Emma Tiesteel, Catherine Storey Cylchgrawn Addysg Cymru 28.1 ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Adolygiad Systematig o Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu Plant 5-8 oed: Y Goblygiadau i Gymru a Thu Hwnt
Yn ystod y pandemig COVID-19, collodd nifer o blant fynediad at amgylcheddau gofal cyfoethog eu hiaith a ddarperid gan bobl ar wahân i rieni – amgylcheddau sy’n hollbwysig ar gyfer datblygiad iaith gy...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 28/05/2026
📣 RHIFYN NEWYDD 📣 Cylchgrawn Addysg Cymru • Cyfrol 28 • Rhifyn 1 Darllenwch Mynediad Agored yn y Gymraeg a'r Saesneg ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/issue/45...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 14/05/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Addasu prosiect Dylunio a Thechnoleg i adlewyrchu’r gofynion newidiol o ran gweithio yn y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Astudiaeth achos gan Jonathan David Shergold ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Addasu prosiect Dylunio a Thechnoleg i adlewyrchu’r gofynion newidiol o ran gweithio yn y MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Astudiaeth achos
Mae arweinwyr diwydiant yn nodi’n aml eu bod angen cyflogeion a all feddwl y tu hwnt i’r ffiniau a osodir yn draddodiadol gan bynciau. Mae nifer o wledydd yn cyflwyno rhyw fath o ddysgu rhyngddisgybla...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 07/05/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER O Fewnwelediad i Effaith: Atgyrchedd a Myfyrdod mewn Ymchwil Addysgol gan Lisa Kate Formby ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
O Fewnwelediad i Effaith: Atgyrchedd a Myfyrdod mewn Ymchwil Addysgol
Yn yr erthygl hon rwy’n archwilio ymarfer atgyrchol a myfyriol mewn addysg ac ymchwil gan bwysleisio eu gwahaniaethau a’u manteision ar gyfer dysgu proffesiynol, archwilio eu rôl wrth lunio safleoldeb...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 22/04/2026
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gan Lucy Elizabeth McDermott ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae’r astudiaeth beilot hon yn archwilio dylanwad Her Minecraft Education ar hyder ac ymgysylltiad disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o safbwynt staff.Mae’r canfyddiadau ansoddol gan ...
000
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 27/03/2026
Mae modd darllen y llyfr am ddim draw ar ein gwefan trwy ddilyn y ddolen isod 👇 neu dewch o hyd i gopi caled yn eich siop lyfrau leol. www.gwasgprifysgolcymru.org/book/chwarte...
011
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 27/03/2026
Diolch yn fawr iawn i bawb a fynychodd lansiad 'Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru' gyda'r golygyddion @andrewjamdavies.bsky.social a @profgaryb.bsky.social! Cafwyd noson ddifyr o sgyrsiau yn deillio o'r ystod eang o erthyglau yn y casgliad golygedig hwn 📚️
121
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 24/03/2026
📒Pwnc: ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL Darllenwch gasgliad o erthyglau ymchwil ar y pwnc Anghenion Dysgu Ychwanegol, a gyhoeddwyd fel Mynediad Agored yng Nghylchgrawn Addysg Cymru. 🔹 journal.uwp.co.uk/wje/collecti...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 10/03/2026
Wrth i ni nodi chwarter canrif o lunio polisïau datganoledig ym maes addysg, mae'r gyfrol olygiedig hon yn dathlu’r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus a wynebir gan gyfundrefn addysg Cymru. 📚 www.gwasgprifysgolcymru.org/book/chwarte...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 11/02/2026
📢 Galwad Agored am Aelodau Bwrdd Golygyddol Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 📢 Mae Cylchgrawn Addysg Cymru yn gwahodd ceisiadau gan ymchwilwyr gyrfa gynnar i ymuno â'n Bwrdd Golygyddol. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 10 Mawrth 2026. Er mwyn ymgeisio, ewch at: journal.uwp.co.uk/wje/site/ope...
journal.uwp.co.uk
Open Call for Early Career Researcher Editorial Board Members
001
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 27/01/2026
🔹 ERTHYGL NEWYDD 🔹 Y ddarpariaeth i ddysgwyr agored i niwed a’u hymgysylltiad mewn byd ôl-bandemig: tystiolaeth ragarweiniol gan awdurdod lleol yng Nghymru gan Alex McInch and David Egan ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Y ddarpariaeth i ddysgwyr agored i niwed a’u hymgysylltiad mewn byd ôl-bandemig: tystiolaeth ragarweiniol gan awdurdod lleol yng Nghymru
Diben y papur hwn yw cyflwyno gwaith ymchwil ar effaith y pandemig COVID-19 ar Ddysgwyr Agored i Niwed mewn awdurdod lleol yn ne Cymru. Edrychodd yr astudiaeth ar natur newidiol proffiliau myfyrwyr ag...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 22/01/2026
🔹 ERTHYGL NEWYDD 🔹 Gwersi a ddysgwyd: Ymatebion i COVID-19 gan y Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru rhwng 2020 a 2023 gan Cathryn Knight, Jacky Tyrie, Ioanna Bakopoulou, Margarida Borras Batalla ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Gwersi a ddysgwyd: Ymatebion i COVID-19 gan y Sector Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru rhwng 2020 a 2023
Pwrpas yr astudiaeth hon oedd deall sut mae ymarferwyr addysg a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru yn gweld effaith y pandemig COVID-19 ar eu sector; sut mae’r canfyddiadau hyn wedi newid dros amser;...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 15/01/2026
🔹 ERTHYGL NEWYDD - Cylchgrawn Addysg Cymru 27.2 🔹 Defnyddio dull adeiladu rhuglder i gynyddu gwybodaeth a rhuglder arwyddo gydag athrawon cyn ysgol: Astudiaeth beilot gan Angel Jia Yiuen Tan, Bryan Wen Xiao Tang, Gray Atherton, Liam Cross, Bethan Mair Williams ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Defnyddio dull adeiladu rhuglder i gynyddu gwybodaeth a rhuglder arwyddo gydag athrawon cyn ysgol: Astudiaeth beilot
Gwyddys fod arwyddo allweddeiriau, strategaeth gyfathrebu atgyfnerthol, yn hyrwyddo caffael iaith ymysg plant ifanc, ond mae staff mewn lleoliadau addysgol yn aml yn derbyn hyfforddiant annigonol, gan...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 13/01/2026
🔹 ERTHYGL NEWYDD - Cylchgrawn Addysg Cymru 27.2 🔹 Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru gan Jemma Bridgeman ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Cyfranogiad Rhieni Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn y Broses Gwahardd o Ysgolion yng Nghymru
Roedd yr astudiaeth hon yn archwilio profiadau rhieni o’u plentyn yn cael ei wahardd o’r ysgol. Cwblhawyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda rhieni deg plentyn a oedd wedi’u gwahardd o’r ysgol; roedd...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 12/12/2025
📣 RHIFYN NEWYDD 📣 Cylchgrawn Addysg Cymru • Cyfrol 27 • Rhifyn 2 Darllenwch Mynediad Agored yn y Gymraeg a'r Saesneg ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/issue/43...
000
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 12/12/2025
Mae hefyd modd prynu copi caled o'r gyfrol yn eich siop lyfrau leol! Am fwy o wybodaeth, ewch at ein gwefan: www.gwasgprifysgolcymru.org/book/chwarte... @andrewjamdavies.bsky.social @profgaryb.bsky.social @cylchgrawnaddysg.bsky.social
gwasgprifysgolcymru.org
Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru | UWP
021
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 12/12/2025
*Mynediad Agored* Wrth i ni nodi chwarter canrif o lunio polisïau datganoledig ym maes addysg, mae'r gyfrol olygiedig hon yn dathlu’r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus a wynebir gan gyfundrefn addysg Cymru. 📚 I ddarllen am ddim, ewch at: www.uwp.co.uk/app/uploads/...
143
Reposted by Cylchgrawn Addysg Cymru
Gwasg Prifysgol Cymru @gwasgprifcymru.bsky.social · 23/10/2025
Dysgwch hefyd am ein cyfnodolion Mynediad Agored! Mae @cylchgrawnaddysg.bsky.social yn cyhoeddi gwaith ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol ar ymarfer a pholisi addysg, ac yn rhannu'r cynnwys fel podlediad. Darllenwch a gwrandewch yma: 📖 journal.uwp.co.uk/wje/ 🎧 journal.uwp.co.uk/wje/site/pod...
111
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 15/10/2025
✉️ TANYSGRIFIWCH I'R CYLCHLYTHYR ✉️ Cadwch lygad ar yr ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Addysg Cymru. Drwy danysgrifio, byddwch yn derbyn negeseuon e-bost gennym gyda dolenni i rifynnau, erthyglau a phenodau podlediad newydd. ➡️ mailchi.mp/c0460967a456...
011
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 26/09/2025
Cymerwch olwg fanylach ar sut mae myfyrwyr uwchradd Cymru yn ystyried ieithoedd rhyngwladol. Mae'r astudiaeth dreiddgar hon yn trafod beth sy'n eu hysgogi a faint o ddiddordeb sydd ganddyn nhw, a sut mae dysgu iaith yn cysylltu â'u hymdeimlad o berthyn. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #WJE
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 23/09/2025
📑 Pwnc: Addysg Gychwynnol i Athrawon Darllenwch gasgliad o erthyglau ymchwil ar y pwnc AGA, a gyhoeddwyd Mynediad Agored yn y Cylchgrawn Addysg Cymru. 🔹 journal.uwp.co.uk/wje/collecti...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 18/09/2025
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER ‘Who taught you?’: Cerdd ac archwiliad currere gan Susan Chapman ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
‘Who taught you?’: Cerdd ac archwiliad currere
Mae’r gerdd ‘Who taught you?’ yn gynnyrch dull currere o ddamcaniaethu am gwricwlwm a ysgrifennwyd yn ystod encil Currere Cymru. Mae’r sylwadau cysylltiedig yn trafod dull currere a’i werth fel fframw...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 16/09/2025
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Hyfforddiant Gwydnwch i gefnogi athrawondan hyfforddiant yn ystod eu rhaglenaddysg gychwynnol i athrawon gan Julian Ayres ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Hyfforddiant Gwydnwch i gefnogi athrawondan hyfforddiant yn ystod eu rhaglenaddysg gychwynnol i athrawon
Mae’r astudiaeth hon yn gwerthuso effaith rhaglen hyfforddiant gwydnwch fel rhan o Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol). Nod y gwaith ymchwil yw mynd i’r afael â chyfradd...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 08/09/2025
Sut mae addysg yn siapio hunaniaeth cenedl? Mae'r darn hwn yn edrych ar sut mae'r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi'i seilio ar y syniad o gynefin— cysylltiad dwfn â lle a diwylliant— yn ailddiffinio addysgu fel gweithred bwerus o berthyn fel cenedl. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #WJE
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 08/09/2025
Sut mae addysg yn siapio hunaniaeth cenedl? Mae'r darn hwn yn edrych ar sut mae'r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi'i seilio ar y syniad o gynefin— cysylltiad dwfn â lle a diwylliant— yn ailddiffinio addysgu fel gweithred bwerus o berthyn fel cenedl. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #AddysgCymru #wje
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 08/09/2025
Sut mae addysg yn siapio hunaniaeth cenedl? Mae'r darn hwn yn edrych ar sut mae'r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi'i seilio ar y syniad o gynefin— cysylltiad dwfn â lle a diwylliant— yn ailddiffinio addysgu fel gweithred bwerus o berthyn fel cenedl. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #AddysgCymru #wje
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 02/09/2025
📝 ERTHYGL NEWYDD - FFOCWS AR YMARFER Archwiliad o’r Cysylltiad Posibl rhwng Presenoldeb a Chynhwysiant mewn Addysg a’r Effaith ar Blant a Phobl Ifanc ag ADY yng Nghymru: Safbwynt Rhieni gan Hayley Thomas ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Archwiliad o’r Cysylltiad Posibl rhwng Presenoldeb a Chynhwysiant mewn Addysg a’r Effaith ar Blant a Phobl Ifanc ag ADY yng Nghymru: Safbwynt Rhieni
Nod yr astudiaeth hon oedd nodi themâu a phryderon i lywio ymarfer a dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn presenoldeb mewn ysgolion, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). A...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 05/08/2025
🔹 ERTHYGL NEWYDD - Cylchgrawn Addysg Cymru 27.1 🔹 Defnyddio currere i ystyried tirweddau’r gorffennol a’r dyfodol o ran y defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu: argraffiadau gan Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD) gan Sammy Chapman et al. ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Defnyddio currere i ystyried tirweddau’r gorffennol a’r dyfodol o ran y defnydd o dechnoleg mewn dysgu ac addysgu: argraffiadau gan Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD)
Mae’r erthygl hon yn archwilio profiadau bywyd blaenorol a dyheadau posibl at y dyfodol mewn perthynas â’r defnydd o dechnoleg o safbwynt prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ma...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 28/07/2025
🔹 ERTHYGL NEWYDD - Cylchgrawn Addysg Cymru 27.1 🔹 O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl gan Andrew James Davies (Prifysgol Abertawe) ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
O Gynefin i Gymru a thu hwnt – trafod y Cwricwlwm i Gymru a lleoli cenedl
Mae’r erthygl adolygu hon yn ystyried diwygio a gweithredu’r cwricwlwm yng Nghymru a’i berthynas â hunaniaeth a hunaniaethau cenedlaethol. Efallai mai’r Cwricwlwm i Gymru...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 24/07/2025
Beth sy'n gwneud i blentyn deimlo fel sillafwr hyderus? Mae'r astudiaeth hon yn archwilio sut mae trategaethau sillafu, metawybyddiaeth, a hunangred yn dylanwadu ar ddysgu, gan gynnig mewnwelediad i sut mae plant yn deall ac yn profi llwyddiant sillafu. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #WJE
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 15/07/2025
Mae'r erthygl hon yn datgelu’r lleisiau go iawn a’r heriau anweledig sydd tu ôl llwyth gwaith cynyddol – deunydd darllen hanfodol i wneuthurwyr polisi, cynrychiolwyr undebau, ac unrhyw un sy'n canolbwyntio ar gefnogi lles athrawon. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #AddysgCymru #LlesAthrawon
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 07/07/2025
A all VR, AR, a XR roi hwb i ddysgu – neu ai dim ond uwch-dechnoleg sy’n tynnu ein sylw ydyn nhw? Mae'r erthygl hon yn y casgliad Ffocws ar Ymarfer yn rhannu mewnwelediadau go iawn gan athrawon sy'n defnyddio technoleg ymgolli yn ystafelloedd dosbarth Cymru. journal.uwp.co.uk/wje/article/...
010
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 02/07/2025
🔹 ERTHYGL NEWYDD - Cylchgrawn Addysg Cymru 27.1 🔹 Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022) gan Merris Griffiths, Eve Oliver, Chaminda Hewage, Kate North, Jon Pigott ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Ble mae’r ‘Newydd’? Canfyddiadau athrawon o’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer MDPh y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru (2022)
Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru yn swyddogol ar lefel genedlaethol ym mis Medi 2022 ar ôl cyfnod pum mlynedd o ymgynghori a chyd-ddatblygu. Mae athroniaeth o hyblygrwydd addysgegol a sybsidiaredd...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 20/06/2025
Mae'r astudiaeth hon yn edrych yn agosach ar y model 'Ymholiad ar dudalen’ – yn archwilio sut mae'n cefnogi meddylfryd sy'n cael ei yrru gan ymholiad, beth mae'n ei wneud yn iawn, ble mae'n annigonol, a’r hyn mae'n ei olygu ar gyfer polisi ac ymarfer yn y dyfodol. journal.uwp.co.uk/wje/article/...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 10/06/2025
📣 RHIFYN NEWYDD 📣 Cylchgrawn Addysg Cymru • Cyfrol 27 • Rhifyn 1 Darllenwch Mynediad Agored yn y Gymraeg a'r Saesneg ➡️ journal.uwp.co.uk/wje/issue/42...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 22/05/2025
🔸Mynediad Agored - Cylchgrawn Addysg Cymru 26.2 🔸 Ailgysyniadoli Cwricwlwm mewn cyfnod newydd o Addysg yng Nghymru gan Kevin Smith (Prifysgol Caerdydd) @drkevinsmith.bsky.social Darllen mwy: journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Ailgysyniadoli Cwricwlwm mewn cyfnod newydd o Addysg yng Nghymru
Mae’r fframwaith cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnig dull o ymdrin â gwaith cwricwlwm i addysgwyr sy’n wahanol iawn i’r cwricwlwm cenedlaethol blaenorol a gyflwynwyd ym 1988. Un...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 15/05/2025
🔸Mynediad Agored - Cylchgrawn Addysg Cymru 26.2 🔸 'Ydyn ni bron yno? 25 mlynedd o bolisi addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru' gan Trevor Mutton a @thomasbreeze.bsky.social Darllen mwy: journal.uwp.co.uk/wje/article/...
journal.uwp.co.uk
Ydyn ni bron yno? 25 mlynedd o bolisi addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru
Mae polisi addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, mewn sawl ffordd, wedi adlewyrchu pryderon byd-eang ehangach ynghylch yr angen i gynhyrchu digon o athrawon o ansa...
000
Cylchgrawn Addysg Cymru @cylchgrawnaddysg.bsky.social · 07/05/2025
Sut mae addysg Gymraeg wedi esblygu ers datganoli? Mae'r ymchwil yn archwilio 25 mlynedd o newidiadau polisi, y berthynas rhwng portffolios iaith ac addysg, a chymariaethau â model gwlad y Basg—asesu'r llwybr tuag at Cymraeg 2050. journal.uwp.co.uk/wje/article/... #Datganoli #PolisiIaith #WJE
000